- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
25.—(1) Mae'n dramgwydd i geidwad fethu â chydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor a llenwi'r ddogfen symud ar ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac eithrio y caniateir i fanylion adnabod yr anifeiliaid a symudir gael eu cofnodi yn y daliad a gyrchir os yw'r daliad hwnnw'n bwynt cofnodi canolog ac os yw'r anifeiliaid yn cael eu cludo yn unol ag Adran C, pwynt 2(a) o'r Atodiad.
(2) Mae'n dramgwydd i geidwad yn y daliad a gyrchir fethu â chydymffurfio ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor a methu â chadw'r dogfennau symud yn eu trefn gronolegol.
(3) At ddibenion Erthygl 6(3) y cyfnod lleiaf y mae'n rhaid i'r ceidwad ar y daliad hwnnw gadw'r ddogfen symud yw 3 blynedd o ddyddiad symud anifail i'w ddaliad.
26.—(1) Yn achos anifail a symudir i ddaliad arall—
(a)ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad arall hwnnw, rhaid i'r cludwr roi'r ddogfen symud i'r ceidwad yn y daliad hwnnw; a
(b)rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad.
(2) Yn achos anifail a symudwyd o ddaliad i borthladd ac y bwriedir ei draddodi y tu allan i Brydain Fawr, rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn diwrnod ar ôl i'r anifail ymadael â'r daliad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: