Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysol Ewropeaidd) (Cymru) 2009

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Rheoliad 8

ATODLEN 1MYFYRWYR CYMWYS

RHAN 1Dehongli

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—

  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”), oni nodir yn wahanol—

    (a)

    mewn perthynas â gweithiwr y ffin o'r AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig y ffin o'r AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE yw—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil;

    (ii)

    ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (iii)

    perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

    (b)

    mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig Swisaidd y ffin, person hunangyflogedig Swisaidd y ffin neu berson hunangyflogedig Swisaidd yw—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

    (c)

    mewn perthynas â gwladolyn yr UE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 yw—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

    (aa)

    sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

    (bb)

    sy'n ddibynyddion iddo neu i'w briod neu i'w bartner sifil;

    (ch)

    mewn perthynas â gwladolyn yr UE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 yw—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

    (aa)

    sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

    (bb)

    sy'n ddibynyddion iddo neu i'w briod neu i'w bartner sifil;

    (iii)

    perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

    (d)

    mewn perthynas â gwladolyn y Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei ddisgynyddion uniongyrchol neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil—

    (aa)

    sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

    (bb)

    sy'n ddibynyddion iddo neu i'w briod neu i'w bartner sifil;

  • ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economi Area”) yw'r ardal a gaiff ei ffurfio gan yr Undeb Ewropeaidd, Gweriniaeth Gwlad yr Iâ, Teyrnas Norwy a Thywysogaeth Liechtenstein;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(1);

  • ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss greement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a'r Conffederasiwn Swisaidd, o'r rhan arall, ar Rydd Symudiad Personau, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(2) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

  • ystyr “Cytundeb yr AEE” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(3) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(4);

  • ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu ystyr Cytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

  • mae i “gweithiwr y ffin o'r AEE” (“EEA frontier worker”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (3);

  • ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw un o wladolion yr AEE sy'n weithiwr, ac eithrio yn un o weithwyr y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd a oedd ar y dyddiad perthnasol—

    (a)

    yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a

    (b)

    yn gyfreithiol gyflogedig, neu a oedd wedi bod yn gyfreithiol gyflogedig, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gwladolyn y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom national”) yw person sydd i'w drin fel un o wladolion y Deyrnas Unedig at ddibenion Cytuniadau'r UE;

  • ystyr “gwladolyn yr AEE” (“EEA national”) yw un o wladolion un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gwladolyn yr UE” (“EU national”) yw un o wladolion un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

  • ystyr “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

  • ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

  • ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i'r Cytundeb Swisaidd;

  • ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig, ac eithrio'n berson cyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

  • mae i “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (4);

  • ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”)—

    (a)

    mewn perthynas â gwladolyn yr AEE, yw person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

    (b)

    mewn perthynas â dinesydd Swisaidd, yw person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw un o wladolion yr AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio'n berson hunangyflogedig y ffin o'r AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson hunangyflogedig, ac eithrio'n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin, yn y Deyrnas Unedig;

  • mae i “person hunangyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (5);

  • mae i “person hunangyflogedig y ffin o'r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yr ystyr a roddir gan is-baragraff (2);

  • mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” yn adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(5).

(2Ystyr “person hunangyflogedig y ffin o'r AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw un o wladolion yr AEE—

(a)sy'n berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b)sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(3Ystyr “gweithiwr y ffin o'r AEE” (“EEA frontier worker”) yw un o wladolion yr AEE—

(a)sy'n weithiwr yng Nghymru; a

(b)sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(4Ystyr “person cyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)sy'n berson cyflogedig yng Nghymru; a

(b)sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(5Ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd y ffin” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

(a)sy'n berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b)sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth un o Wladwriaethau'r AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE, yn ôl y digwydd, bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos.

(6At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal dros blentyn a rhaid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.

(7At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i'w drin fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio neu yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith—

(a)bod y person;

(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;

(c)bod ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, bod ei blentyn neu briod neu bartner sifil ei blentyn,

yn cael ei gyflogi neu wedi bod yn cael ei gyflogi dros dro y tu allan i'r ardal o dan sylw.

(8At ddibenion is-baragraff (7), mae gwaith dros dro y tu allan i Gymru, i'r Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, i diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swisdir yn ei ffurfio neu i diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd un o Wladwriaethau'r AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swisdir yn ei ffurfio; a

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio.

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol ac eithrio drwy fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; ac

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff 2, nad oedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(7).

3.  Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol oherwydd ei fod wedi caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)a oedd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch)a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Ffoaduriaid a phersonau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros

4.—(1Person—

(a)sy'n ffoadur;

(b)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches, yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(ch)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol.

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;

(c)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; ac

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 mlwydd oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;

(ch)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluoedd

6.—(1Person—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol—

(i)yn weithiwr mudol o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig o'r AEE;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr y ffin o'r AEE neu'n berson hunangyflogedig y ffin o'r AEE;

(v)yn berson cyflogedig Swisaidd y ffin neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd y ffin; neu

(vi)yn aelod o deulu person ym mharagraff (iv) neu (v);

(b)sydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a) (iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7.  Person—

(a)sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar rydd symudiad gweithwyr(6), fel y'i hymestynnwyd gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â'r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y dyddiad perthnasol;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; a

(d)a oedd, mewn achos lle yr oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (b) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion derbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn y Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn y Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson a chanddo hawl i breswylio'n barhaol ac sydd ymhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio ac y mae'n un o'i gwladolion neu y mae'r person y mae'n aelod o'i deulu yn un o'i gwladolion.

Gwladolion yr UE

9.—(1Person—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, naill ai—

(i)yn un o wladolion yr UE; neu

(ii)yn aelod o deulu person o'r fath;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy'n cael ei drin fel pe bai'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn unol â pharagraff 1(7).

10.  Person—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn un o wladolion yr UE ac eithrio'n un o wladolion y Deyrnas Unedig;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn y dyddiad perthnasol; ac

(ch)a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gwladolion Swisaidd

11.  Person—

(a)sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn blentyn i wladolyn Swisaidd â'r hawlogaeth i gael cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar y dyddiad perthnasol;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)a oedd, mewn achos pan oedd ei breswyliaeth arferol y cyfeirir ati ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y diben o dderbyn addysg lawnamser, yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ei ffurfio yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

lant gweithwyr Twrcaidd

12.  Person—

(a)a oedd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd ar y dyddiad perthnasol;

(b)sydd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar y diwrnod perthnasol; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth y mae'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn ei ffurfio drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Rheoliad 27

ATODLEN 2CYFRANIAD Y MYFYRIWR

RHAN 1Dehongli

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau Rhan 2 o'r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifo mewn cysylltiad ag ef at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy'n gymwys iddo;

  • ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n union o flaen y flwyddyn berthnasol;

  • ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn cysylltiad â hi;

  • mae i “Gwladwriaeth yr AEE” (“EEA State”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 1;

  • ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr cymwys) a pharagraff 4 (yn achos partner myfyriwr);

  • ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), mewn perthynas â pharagraff 3, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth ar ei chyfer ac, mewn perthynas â pharagraff 4, (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi'i gyfrifo fel pe bai at ddibenion—

    (a)

    y Deddfau Treth Incwm;

    (b)

    deddfwriaeth treth incwm un o Aelod-wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir sy'n gymwys i incwm y person;

    (c)

    os yw deddfwriaeth mwy nag un o Aelod-wladwriaethau'r AEE neu o un o Aelod-wladwriaethau'r AEE a'r Swistir yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),

    ac eithrio na wneir cyfrif o'r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a dalwyd i barti arall.

  • mae i “incwm yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

  • ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol—

    (i)

    priod y myfyriwr cymwys;

    (ii)

    partner sifil y myfyriwr cymwys;

    (iii)

    person sydd fel arfer yn byw gyda'r myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod â'r myfyriwr os yw'r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a'i fod yn cychwyn ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

    (iv)

    person sydd fel arfer yn byw gyda'r myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr os yw'r myfyriwr cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a'i fod yn cychwyn ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

  • ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu riant mabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”), “mam” (“mother”) a “tad” (“father”) yn unol â hynny.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(7) sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o'r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(8) sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o'r Atodlen honno.

RHAN 2Cyfrifo cyfraniad

Incwm yr aelwyd

2.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd—

(a)yn achos myfyriwr cymwys a chanddo bartner, yw agregiad o incwm gweddilliol y myfyriwr ac incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw; neu

(b)yn achos myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.

(3Wrth ganfod beth yw incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae swm o £1,130 i'w ddidynnu am bob plentyn sy'n ddibynnol yn ariannol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu ar ei bartner.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr

3.—(1Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (onid yw eisoes wedi'i ddidynnu wrth ganfod beth yw ei incwm trethadwy) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

(a)unrhyw gydnabyddiaeth am waith a wneir yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd o gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r gydnabyddiaeth honno'n cynnwys unrhyw symiau a delir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fo ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan fo wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(9) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(10), neu pan fo incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddiben deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.

(2Pan fo'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwn at ddiben y paragraff hwn—

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, yw swm y sterling a gaiff y myfyriwr felly; neu

(b)fel arall, yw gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd ar gyfer y mis y daw i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(11).

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

4.—(1At ddibenion canfod beth yw incwm trethadwy partner myfyriwr cymwys, nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu esemptiadau a ganiateir—

(a)ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os cyfrifir yr incwm at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, ar ffurf swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, na chaiff taliadau, a fyddent fel arall, o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, yn rhan o incwm person, eu trin felly oddi tano neu oddi tani; neu

(c)o dan is-baragraff (2),

i'w gwneud na'u caniatáu.

(2Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os cyfrifir incwm y myfyriwr at ddiben deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos lle y cyfrifir incwm yn unol ag is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n gyfwerth â'r didyniad a grybwyllir ym mharagraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly i fod yn fwy na'r didyniadau a wneid os byddai'r cyfan o incwm partner y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac

(c)yn achos partner myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,130.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm partner y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm partner y myfyriwr cymwys mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debygol o beidio â bod, ac yn debygol o barhau i beidio â bod ar ôl y flwyddyn honno, yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr y digwyddodd y digwyddiad ynddi drwy gymryd fel incwm gweddilliol y partner gyfartaledd ei incwm gweddilliol ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n dod oddi mewn iddynt.

(5Os yw partner y myfyriwr cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes y mae'n ei rhedeg neu broffesiwn y mae'n ei ddilyn, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o'r Atodlen at flwyddyn ariannol flaenorol i'w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy'n gysylltiedig â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw partner myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n rhan o incwm y partner hwnnw at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir dim ond oherwydd—

(a)nad yw'r partner yn preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir ei incwm fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n preswylio felly, yn preswylio fel arfer felly, neu wedi ymgartrefu felly yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir;

(b)nad yw'r incwm yn deillio yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir incwm y partner at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n deillio yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir; neu

(c)bod yr incwm yn deillio o swyddfa, o wasanaeth neu o gyflogaeth, a bod incwm o'r rhain yn esempt o dreth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddiben yr Atodlen hon i'w gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, yn ôl y digwydd.

(7Os yw incwm partner y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, mae i'w gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu'r Swistir ac incwm partner y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn dod oddi mewn iddo, sef y gyfradd fel y'i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner i'w gymryd i gyfrif wrth benderfynu incwm yr aelwyd.

(9Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm y partner drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi ei rannu â phum deg dau a'i luosi â nifer yr wythnosau llawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn canfod nad oedd y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu.

(10Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys i bob un ohonynt.

Cyfrifo cyfraniad

5.—(1Mae cyfraniad myfyriwr cymwys i'w gyfrifo yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mewn perthynas â myfyriwr cymwys a chanddo bartner, y cyfraniad yw—

(a)os £23,680 neu fwy yw incwm yr aelwyd, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob un swm llawn o £9.27 uwchben incwm aelwyd o £23,680; a

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,680, dim.

(3Mewn perthynas â myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner, y cyfraniad yw

(a)os £11,025 neu fwy yw incwm yr aelwyd, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob un swm llawn o £9.27 uwchben incwm aelwyd o £11,025; a

(b)os yw incwm yr aelwyd yn llai na £11,025, dim.

(4Nid yw swm y cyfraniad i fod yn fwy na £7,992.

(1)

OJ L158, 30.04.2004, tt.77— 123.

(2)

Gorch. 4904.

(3)

Gorch. 2073.

(4)

Gorch. 2183.

(5)

1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).

(6)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2 (OJ/SE1968 (ii) t.475).

(7)

1973 c. 18; diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p.53), adran 18. Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p.26), adran 11 (1) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Pensiynau a Diwygio Lles 1999 (p.30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p.35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3.

(8)

2004 c. 33, addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934.

(11)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources