Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysol Ewropeaidd) (Cymru) 2009

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

4.—(1At ddibenion canfod beth yw incwm trethadwy partner myfyriwr cymwys, nid yw unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu esemptiadau a ganiateir—

(a)ar ffurf rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os cyfrifir yr incwm at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, ar ffurf swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol, na chaiff taliadau, a fyddent fel arall, o dan gyfraith y Deyrnas Unedig, yn rhan o incwm person, eu trin felly oddi tano neu oddi tani; neu

(c)o dan is-baragraff (2),

i'w gwneud na'u caniatáu.

(2Er mwyn canfod beth yw incwm gweddilliol partner myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) agregiad unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a delir gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os cyfrifir incwm y myfyriwr at ddiben deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos lle y cyfrifir incwm yn unol ag is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n gyfwerth â'r didyniad a grybwyllir ym mharagraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir felly i fod yn fwy na'r didyniadau a wneid os byddai'r cyfan o incwm partner y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac

(c)yn achos partner myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,130.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm partner y myfyriwr cymwys yn y flwyddyn ariannol yn dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), yn debygol o beidio â bod yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm partner y myfyriwr cymwys mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debygol o beidio â bod, ac yn debygol o barhau i beidio â bod ar ôl y flwyddyn honno, yn fwy nag 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, at ddiben galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb ddioddef caledi, gadarnhau beth yw incwm yr aelwyd ar gyfer blwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr y digwyddodd y digwyddiad ynddi drwy gymryd fel incwm gweddilliol y partner gyfartaledd ei incwm gweddilliol ar gyfer pob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n dod oddi mewn iddynt.

(5Os yw partner y myfyriwr cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes y mae'n ei rhedeg neu broffesiwn y mae'n ei ddilyn, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o'r Atodlen at flwyddyn ariannol flaenorol i'w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y cedwir cyfrifon mewn cysylltiad ag ef sy'n gysylltiedig â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw partner myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n rhan o incwm y partner hwnnw at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir dim ond oherwydd—

(a)nad yw'r partner yn preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir ei incwm fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n preswylio felly, yn preswylio fel arfer felly, neu wedi ymgartrefu felly yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir;

(b)nad yw'r incwm yn deillio yn y Deyrnas Unedig, neu os cyfrifir incwm y partner at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, nad yw'n deillio yn y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu yn y Swistir; neu

(c)bod yr incwm yn deillio o swyddfa, o wasanaeth neu o gyflogaeth, a bod incwm o'r rhain yn esempt o dreth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddiben yr Atodlen hon i'w gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, yn ôl y digwydd.

(7Os yw incwm partner y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm un o Wladwriaethau eraill yr AEE neu'r Swistir, mae i'w gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth honno yn yr AEE neu'r Swistir ac incwm partner y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw a ganfyddir yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn dod oddi mewn iddo, sef y gyfradd fel y'i cyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi bod ar wahân drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner i'w gymryd i gyfrif wrth benderfynu incwm yr aelwyd.

(9Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, canfyddir incwm y partner drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi ei rannu â phum deg dau a'i luosi â nifer yr wythnosau llawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn canfod nad oedd y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu.

(10Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys i bob un ohonynt.