- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (7), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa—
(a)os yw'r awdurdod academaidd yn hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig bod gan y person gyfle rhesymol o gael cynnig lle ar y cwrs hwnnw gan yr awdurdod academaidd; a
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 1.
(3) Nid yw person yn fyfyriwr cymwys—
(a)os yw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys;
(b)os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(c)os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu
(ch)os yw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad ei fod yn anffit i gael cymorth.
(4) Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys os yw'r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth iddo mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.
(5) At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c) ystyr “benthycia” yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(6) Mewn achos pan fo'r cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—
(a)cyn 25 Medi 1991; a
(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu ganddo guradur
y mae paragraff (3) (c) yn gymwys.
(7) Rhaid i nifer y myfyrwyr cymwys beidio â bod yn fwy nag un.
(8) Ni chaiff myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn cysylltiad ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000, ar unrhyw adeg, gymhwyso i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig.
(9) Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (7), (10) ac (11), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa—
(a)os cymhwysodd fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad—
(i)â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs cyfredol; neu
(ii)â chwrs dynodedig yr oedd yn bresennol arno yn yr Athrofa ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)nad yw ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.
(10) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)statws ffoadur A neu statws ffoadur priod, partner sifil, rhiant neu lysriant i A, yn ôl y digwydd, i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi ac nad oes unrhyw apôl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(11) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a
(b)y cyfnod pryd y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi nac unrhyw apôl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
(12) Nid yw paragraffau (10) a (11) yn gymwys os dechreuodd y myfyriwr y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys cyn 1 Medi 2007.
(13) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau a gwneud yr ymholiadau y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys.
(14) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu person y rhoddwyd gwybod iddynt amdano o dan baragraff (2) (a) a yw'n cymhwyso fel myfyriwr cymwys.
(15) Rhaid i berson sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (14) ei fod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs yn yr Athrofa a pherson sy'n fyfyriwr cymwys yn yr Athrofa yn rhinwedd paragraff (9), roi i Weinidogion Cymru, erbyn y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y maent yn gofyn amdani er mwyn penderfynu swm y cymorth sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd.
(16) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, yw 31 Ionawr 2010 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliad 16(6), 31 Ionawr 2011.
(17) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu myfyriwr cymwys o swm y cymorth sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd, os o gwbl.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: