xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
24.—(1) Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w gael o dan reoliadau 21 i 23 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 21 i 23, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os yw'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 21; a
(b)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os yw'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 23.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w chael yn daladwy.
(3) Os yw (A − B) yn hafal i agregiad y symiau sylfaenol o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w cael neu'n fwy na'r agregiad hwnnw, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad â phob elfen yw dim.
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o ran dibynnydd mewn oed gan un hanner—
(a)os yw partner y myfyriwr—
(i)yn fyfyriwr cymwys; neu
(ii)yn dal dyfarniad statudol; a
(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw yn cymhwyso i'w gael, neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth i'w gael, o dan y dyfarniad statudol.
(5) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn—
A yw agregiad incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
B yw—
£1,159 os nad oes gan y myfyriwr unrhyw blentyn dibynnol;
£3,473 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£4,632 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
£4,632 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
£5,797 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.