xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2GWNEUD CAIS AM GYMORTHA CHYMHWYSTRA

Ceisiadau

7.—(1Onid yw person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 8(9), rhaid iddo gyflwyno cais am gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys a chais am gymorth ar y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru i'r Athrofa erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

(2Pan fo person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 8(9), rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ei fod yn dymuno gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(3Y dyddiad cau o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 yw 31 Ionawr 2010.

(4Caiff Gweinidogion Cymru estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau os ydynt o'r farn bod amgylchiadau'r achos yn cyfiawnhau hynny.

Myfyrwyr cymwys

8.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (7), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa

(a)os yw'r awdurdod academaidd yn hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig bod gan y person gyfle rhesymol o gael cynnig lle ar y cwrs hwnnw gan yr awdurdod academaidd; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Nid yw person yn fyfyriwr cymwys—

(a)os yw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys;

(b)os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu

(ch)os yw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad ei fod yn anffit i gael cymorth.

(4Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys os yw'r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth iddo mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.

(5At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c) ystyr “benthycia” yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(6Mewn achos pan fo'r cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu ganddo guradur

y mae paragraff (3) (c) yn gymwys.

(7Rhaid i nifer y myfyrwyr cymwys beidio â bod yn fwy nag un.

(8Ni chaiff myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn cysylltiad ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000, ar unrhyw adeg, gymhwyso i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig.

(9Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (7), (10) ac (11), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa—

(a)os cymhwysodd fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad—

(i)â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs cyfredol; neu

(ii)â chwrs dynodedig yr oedd yn bresennol arno yn yr Athrofa ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b)nad yw ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.

(10Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b)statws ffoadur A neu statws ffoadur priod, partner sifil, rhiant neu lysriant i A, yn ôl y digwydd, i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi ac nad oes unrhyw apôl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(11Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b)y cyfnod pryd y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi nac unrhyw apôl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(12Nid yw paragraffau (10) a (11) yn gymwys os dechreuodd y myfyriwr y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys cyn 1 Medi 2007.

(13Caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau a gwneud yr ymholiadau y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys.

(14Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu person y rhoddwyd gwybod iddynt amdano o dan baragraff (2) (a) a yw'n cymhwyso fel myfyriwr cymwys.

(15Rhaid i berson sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (14) ei fod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs yn yr Athrofa a pherson sy'n fyfyriwr cymwys yn yr Athrofa yn rhinwedd paragraff (9), roi i Weinidogion Cymru, erbyn y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y maent yn gofyn amdani er mwyn penderfynu swm y cymorth sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd.

(16Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, yw 31 Ionawr 2010 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliad 16(6), 31 Ionawr 2011.

(17Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu myfyriwr cymwys o swm y cymorth sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd, os o gwbl.

Cyrsiau dynodedig

9.  Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 8 os yw—

(a)yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb;

(b)yn gwrs llawnamser;

(c)yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch)yn cael ei ddarparu gan yr Athrofa.

Cyfnod cymhwystra

10.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 8, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y byddai'r Athrofa fel arfer yn disgwyl i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs ynddi (“cyfnod cymhwystra”).

(2Bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu pan fo'r myfyriwr—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle na fyddai Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 11; neu

(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(3Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr os ydynt wedi'u bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos ei fod yn anffit i gael cymorth.

(4Os bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs mewn gwirionedd, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw bryd, estyn neu adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfnod y byddant yn penderfynu arno.

(5Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o'r canlynol—

(a)terfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr;

(b)penderfynu nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso mwyach i gael unrhyw fath penodol o gymorth neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 31.

Trosglwyddo cymhwystra

11.—(1Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr Athrofa, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys—

(a)os byddant yn cael cais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi'u bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac

(c)os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi terfynu.

(2Mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(3Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i'r myfyriwr gwblhau'r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.