xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
rheoliadau 4 a 5
1. Yr wybodaeth ganlynol am y plentyn—
(a)Rhif unigryw cyfredol y disgybl (os yw'n berthnasol);
(b)cyfenw;
(c)enw cyntaf y plentyn, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;
(ch)enw canol y plentyn, neu bob enw canol os oes mwy nag un;
(d)rhyw;
(dd)dyddiad geni;
(e)grŵp ethnig a ffynhonnell yr wybodaeth hon;
(f)hunaniaeth genedlaethol a ffynhonnell yr wybodaeth hon; ac
(ff)grŵp blwyddyn y cwricwlwm cenedlaethol y câi'r plentyn ei addysgu ynddo petai'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir.
2. Cod post y cartref lle mae'r plentyn fel arfer yn preswylio.
3. A yw'r plentyn, yn unol ag adran 512(3) a 512ZB(1) o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais am gael prydau am ddim yn yr ysgol ac a gafwyd ei fod yn gymwys i'w cael.
4. A oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o—
(a)prif angen y plentyn ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd; a
(b)pa lefel a pha fath o ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r plentyn.
5. A yw'r plentyn yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol perthnasol.
6. Y math o le a fynychir i gael darpariaeth a ariennir, hynny yw, a yw'r ddarpariaeth honno—
(a)mewn uned cyfeirio disgyblion;
(b)mewn ysgol annibynnol;
(c)mewn ysbyty (ac eithrio ysgol a sefydlwyd mewn ysbyty); neu
(ch)yn cael ei darparu mewn man nad yw'n un o'r rhai y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (a) i (c), ac os felly, disgrifiad cryno o'r math o ddarpariaeth.
7. Y math o le a fynychir gan y plentyn i gael darpariaeth a ariennir yn unol â pharagraff 6, a nifer yr oriau o ddarpariaeth a ariennir a gafodd y plentyn yn yr wythnos cyn bod cais yn dod gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 4.
Wedi ei rhoi, ynghyd ag adrannau 512 a 512ZA yn lle adran 512, fel y cafodd honno ei deddfu'n wreiddiol gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Mewnosodwyd paragraffau (a)(iia) a (b)(iia) o is-adran (4) gan baragraff 16(1) a (3) o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5).