Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3355 (Cy.294)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009

Gwnaed

17 Rhagfyr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

12 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 537A, 537B a 569 o Ddeddf Addysg 1996(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy'n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Ionawr 2010.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i'r ymadrodd “addysg ysgol annibynnol a ariennir” (“funded independent school education”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 3(b);

  • mae i'r ymadrodd “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312 o Ddeddf 1996(2);

  • ystyr “asesiad athrawon” (“teacher assessment”) yw asesiad gan athro neu athrawes o lefel cyrhaeddiad pwnc plentyn yn y pynciau a'r gweithgareddau sy'n rhan o'r cwricwlwm a addysgwyd i'r plentyn hwnnw;

  • ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw'r awdurdod addysg lleol yng Nghymru sy'n ariannu neu a fydd yn ariannu'r ddarpariaeth a ariennir;

  • ystyr “canlyniad” (“result”) mewn perthynas ag unrhyw asesiad athrawon yw canlyniad yr asesu fel y mae wedi ei benderfynu a'i gofnodi gan athro neu athrawes;

  • ystyr “cofnod presenoldeb” (“attendance record”) yw'r cofnod o bresenoldeb disgybl mewn ysgol yn ôl y gofrestr a gedwir yn unol ag adran 434 o Ddeddf 1996 a Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995(3);

  • ystyr “cymhwyster allanol a gymeradwywyd” (“approved external qualification”) yw cymhwyster o fewn ystyr adrannau 96(5) a 97(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 a gymeradwywyd, ar yr adeg berthnasol, o dan adran 99 o'r Ddeddf honno(4) at ddibenion adrannau 96 a 97 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;

  • mae i'r ymadrodd “darpariaeth a ariennir” (“funded provision”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 3;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “gwybodaeth am unigolion” (“individual information”), o ran addysg ysgol annibynnol a ariennir ac unedau cyfeirio disgyblion, yw gwybodaeth am ddisgyblion unigol, ac o ran addysg a ariennir, yw gwybodaeth am blant unigol;

  • ystyr “Rhif unigryw disgybl” (“unique pupil number”) yw cyfuniad o rifau sydd ynghyd â llythyren neu lythrennau yn cael eu dyrannu i ddisgybl ac sy'n unigryw i'r disgybl hwnnw, drwy ddefnyddio fformiwla a benderfynwyd gan Weinidogion Cymru; ac

  • ystyr “uned neu gredyd” (“unit or credit”), mewn perthynas â chymhwyster, yw modiwl neu ran o gwrs sy'n arwain at y cymhwyster hwnnw y gellir, pan fo wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, ei gyfrif neu ei chyfrif ynghyd â modiwlau neu rannau eraill tuag at ennill y cymhwyster hwnnw.

Cymhwyso

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

(a)addysg a ariennir sy'n cael ei darparu o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol perthnasol;

(b)addysg sy'n cael ei darparu mewn ysgol annibynnol, ei threfnu a'i hariannu gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru yn unol ag adran 19 o Ddeddf 1996 (addysg y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “addysg ysgol annibynnol a ariennir”); ac

(c)addysg sy'n cael ei darparu mewn uned cyfeirio disgyblion a'i hariannu gan awdurdod lleol perthnasol,

ac yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at ddarpariaeth a ariennir yn gyfeiriad at y cyfryw addysg a ariennir, y cyfryw addysg ysgol annibynnol a ariennir a'r cyfryw addysg mewn uned cyfeirio disgyblion.

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am unigolion i Weinidogion Cymru

4.  Cyn pen 14 diwrnod o gael cais ysgrifenedig oddi wrth Weinidogion Cymru, rhaid i berson sy'n darparu darpariaeth a ariennir ddarparu i Weinidogion Cymru y cyfryw wybodaeth am unigolion y cyfeirir ati yn Atodlen 1 ag y gofynnir amdani.

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am unigolion i'r awdurdod lleol perthnasol

5.—(1At ddibenion adrannau 537A(2)(b) a 537B(2)(b), mae'r awdurdod lleol perthnasol yn berson rhagnodedig.

(2Cyn pen 14 diwrnod o gael cais ysgrifenedig gan yr awdurdod lleol perthnasol, rhaid i berson sy'n darparu darpariaeth a ariennir ddarparu i'r awdurdod y cyfryw wybodaeth am unigolion y cyfeirir ati ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 1 ag y gofynnir amdani.

Personau eraill y caniateir i wybodaeth am unigolion a gyflenwyd gael ei throsglwyddo iddynt hwy yn ychwanegol at yr awdurdod lleol perthnasol

6.  At ddibenion adrannau 537A(3)(b) a 537(3)(b) o Ddeddf 1996, mae cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(5) yn berson rhagnodedig.

Personau ychwanegol y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu gwybodaeth am unigolion iddynt

7.—(1At ddibenion adrannau 537A(4)(b) a 537B(4)(b) o Ddeddf 1996, person rhagnodedig yw unrhyw un o'r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol perthnasol;

(b)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales; ac

(c)y cwmnïau Gyrfa Cymru a sefydlwyd i ddarparu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru o dan adrannau 2, 8 a 10 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.

(2Categori rhagnodedig at ddibenion adrannau 537A(4)(c) a 537B(4)(c) o Ddeddf 1996 yw categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol plant ac y mae arnynt angen gwybodaeth am unigolion at y diben hwnnw.

Personau ychwanegol y caiff coladyddion gwybodaeth ddarparu gwybodaeth am unigolion iddynt

8.—(1At ddibenion adrannau 537A(5)(b)(i) a 537B(5)(b)(i) o Ddeddf 1996, person rhagnodedig yw—

(a)yr awdurdod lleol perthnasol;

(b)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales.

(2Categori rhagnodedig at ddibenion adrannau 537A(5)(b)(ii) a 537B(5)(b)(ii) o Ddeddf 1996 yw categori o bersonau sy'n ymchwilio i gyflawniadau addysgol plant ac y mae arnynt angen gwybodaeth am unigolion at y diben hwnnw.

Adroddiad i rieni

9.—(1Rhaid i'r athro neu'r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion ac i berchennog ysgol annibynnol drefnu bod adroddiad ysgrifenedig sy'n cynnwys yr wybodaeth am unigolion a bennir yn Atodlen 2 ar gael bob blwyddyn ysgol i riant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol y mae'n darparu darpariaeth a ariennir iddo.

(2Mae rhiant pob plentyn o oedran ysgol gorfodol, y mae'r athro neu'r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion neu berchennog ysgol annibynnol yn darparu darpariaeth a ariennir iddo, yn berson rhagnodedig at ddibenion adran 537A(2)(b) o Ddeddf 1996.

(3Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n atal yr wybodaeth am unigolion a bennir yn Atodlen 2 rhag cael ei chynnwys mewn mwy nag un adroddiad ar yr amod, yn ddarostyngedig i baragraff (5), bod yn rhaid i ddarparwr y ddarpariaeth a ariennir anfon bob blwyddyn ysgol yr wybodaeth honno drwy'r post neu fel arall cyn diwedd tymor yr haf.

(4Rhaid i'r cyfnod y mae adroddiad sy'n cynnwys yr wybodaeth am unigolion yn Atodlen 2 yn ymwneud ag ef ddechrau ym mhob achos ar ba ddyddiad bynnag yw'r diweddaraf o'r canlynol—

(a)y dyddiad y dechreuodd y person sy'n darparu'r ddarpariaeth a ariennir ddarparu addysg o'r fath i'r plentyn; neu

(b)diwedd y cyfnod yr oedd yr adroddiad diwethaf ar y materion hynny a wnaed yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ymwneud ag ef.

(5Pan na fo unrhyw un neu rai o'r manylion sy'n angenrheidiol i ddarparu'r wybodaeth a bennir ym mharagraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 2 yn dod i law darparwr y ddarpariaeth a ariennir tan ar ôl diwedd tymor yr haf, rhaid iddo drefnu bod yr wybodaeth honno ar gael cyn gynted ag y bo'n ymarferol a sut bynnag erbyn y 30 Medi canlynol fan bellaf.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2009

rheoliadau 4 a 5

ATODLEN 1Darparu gwybodaeth am unigolion i Weinidogion Cymru a'r awdurdod lleol perthnasol

1.  Yr wybodaeth ganlynol am y plentyn—

(a)Rhif unigryw cyfredol y disgybl (os yw'n berthnasol);

(b)cyfenw;

(c)enw cyntaf y plentyn, neu bob enw cyntaf os oes mwy nag un;

(ch)enw canol y plentyn, neu bob enw canol os oes mwy nag un;

(d)rhyw;

(dd)dyddiad geni;

(e)grŵp ethnig a ffynhonnell yr wybodaeth hon;

(f)hunaniaeth genedlaethol a ffynhonnell yr wybodaeth hon; ac

(ff)grŵp blwyddyn y cwricwlwm cenedlaethol y câi'r plentyn ei addysgu ynddo petai'n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir.

2.  Cod post y cartref lle mae'r plentyn fel arfer yn preswylio.

3.  A yw'r plentyn, yn unol ag adran 512(3) a 512ZB(6) o Ddeddf 1996, wedi gwneud cais am gael prydau am ddim yn yr ysgol ac a gafwyd ei fod yn gymwys i'w cael.

4.  A oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig ac, os felly, cadarnhad o—

(a)prif angen y plentyn ac unrhyw angen eilaidd a nodwyd; a

(b)pa lefel a pha fath o ddarpariaeth anghenion addysgol arbennig sy'n rhan o'r ymagwedd raddedig yn unol â “Cod Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig Cymru”, a ddyroddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996 ac a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2002, sy'n cael ei gwneud i'r plentyn.

5.  A yw'r plentyn yn blentyn sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol perthnasol.

6.  Y math o le a fynychir i gael darpariaeth a ariennir, hynny yw, a yw'r ddarpariaeth honno—

(a)mewn uned cyfeirio disgyblion;

(b)mewn ysgol annibynnol;

(c)mewn ysbyty (ac eithrio ysgol a sefydlwyd mewn ysbyty); neu

(ch)yn cael ei darparu mewn man nad yw'n un o'r rhai y cyfeiriwyd ato yn is-baragraffau (a) i (c), ac os felly, disgrifiad cryno o'r math o ddarpariaeth.

7.  Y math o le a fynychir gan y plentyn i gael darpariaeth a ariennir yn unol â pharagraff 6, a nifer yr oriau o ddarpariaeth a ariennir a gafodd y plentyn yn yr wythnos cyn bod cais yn dod gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 4.

rheoliad 9

ATODLEN 2Darparu gwybodaeth am unigolion i rieni'r plentyn

1.  Manylion cryno am gyflawniadau yn yr holl bynciau a gweithgareddau sy'n rhan o'r cwricwlwm.

2.  Sylwadau ar gynnydd cyffredinol y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol.

3.  Manylion y trefniadau y caniateir i'r adroddiad gael ei drafod odanynt gydag athro neu athrawes y plentyn.

4.  Crynodeb o gofnod presenoldeb y plentyn yn ystod y cyfnod y mae'r wybodaeth yn ymwneud ag ef sy'n dangos nifer yr absenoldebau awdurdodedig a'r absenoldebau na chafodd eu hawdurdodi (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995) a nifer y presenoldebau posibl.

5.  Canlyniadau unrhyw asesiad athrawon.

6.  Enw unrhyw bwnc y cofrestrwyd y plentyn ar ei gyfer mewn cysylltiad â chymhwyster allanol a gymeradwywyd a'r radd (os oedd un) a gafwyd.

7.  Nifer cyfartalog y pwyntiau a sgoriwyd gan y plentyn mewn arholiadau pwnc o'r fath yr ymgofrestrodd ar eu cyfer.

8.  Manylion unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o'r fath a gafwyd gan y plentyn yn ystod y cyfnod y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cyflenwi gwybodaeth am blant sy'n cael addysg a ariennir gan awdurdod lleol y tu allan i ysgolion prif ffrwd, a honno'n addysg y cyfeirir ati fel arfer fel 'darpariaeth amgen'. Mae darpariaeth amgen yn cynnwys addysg nad yw mewn ysgol, addysg mewn ysgol annibynnol neu mewn uned cyfeirio disgyblion. O dan reoliadau 4 a 5 rhaid i ddarparwyr addysg o'r fath, os gofynnir iddynt wneud hynny, gyflenwi gwybodaeth am blant unigol i Weinidogion Cymru a'r awdurdod lleol sy'n ariannu'r addysg. Mae Atodlen 1 yn nodi'r eitemau gwybodaeth am unigolion sydd i'w cyflenwi.

Mae rheoliad 6 yn caniatáu i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol perthnasol, sydd wedi cael gwybodaeth am blant unigol yn unol â'r Rheoliadau hyn, drosglwyddo gwybodaeth o'r fath i gwmnïau Gyrfa Cymru. Mae rheoliad 7 yn nodi'r personau (yn ychwanegol at goladyddion gwybodaeth) y caniateir i Weinidogion Cymru gyflenwi gwybodaeth am blant unigol iddynt. Mae rheoliad 8 yn nodi'r personau (yn ychwanegol at Weinidogion Cymru, coladyddion gwybodaeth eraill a darparwyr y ddarpariaeth amgen) y caniateir i goladydd gwybodaeth gyflenwi gwybodaeth am unigolion iddynt.

Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth am yr adroddiad y mae'n ofynnol i athro neu athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion ac i berchennog ysgol annibynnol anfon bob blwyddyn ysgol at rieni plant sy'n cael darpariaeth amgen. Mae Atodlen 2 yn nodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys yn yr adroddiadau.

(1)

1996 p.56. Cafodd adran 537A ei mewnosod gan adran 20 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44), a'i hamnewid gan baragraff 153 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). Mewnosodwyd adran 537B gan adran 164 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 537A a 569 o Ddeddf Addysg 1996 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Trosglwyddwyd swyddogaethau o dan adran 537B i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd adran 180 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(2)

Mae adran 312 wedi ei diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 72 o Atodlen 30 iddi ac adran 195 a 215(1) o Ddeddf Addysg 2002, a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 18, a pharagraff 36 o Atodlen 21, i'r Ddeddf Addysg honno.

(3)

O.S. 1995/2089, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Diwygio) (Cymru) 1997 (O.S. 1997/2624), Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1109 (Cy.53)), Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3227 (Cy.308)), Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2913 (Cy.210)).

(4)

2000 p.21. Diddymwyd is-adrannau (7) ac (8) o adran 99 gan erthygl 1(1) o Orchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 (O.S. 2005/3239 (Cy.244)).

(5)

1973 (p.50). Amnewidiwyd adran 2 gan adran 25(1) o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19). Diddymwyd is-adrannau (4) a (6) o adran 8 gan Ran I o Atodlen 7 i Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p.38). Amnewidiwyd adrannau 8 a 10 gan adran 45 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p.19).

(6)

Wedi ei rhoi, ynghyd ag adrannau 512 a 512ZA yn lle adran 512, fel y cafodd honno ei deddfu'n wreiddiol gan adran 201 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Mewnosodwyd paragraffau (a)(iia) a (b)(iia) o is-adran (4) gan baragraff 16(1) a (3) o Atodlen 3 i Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p.5).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources