RHAN 4Gwybodaeth Bellach, Tystiolaeth a Gwybodaeth Arall etc.

PENNOD 7Gwybodaeth Berthnasol Arall: Ymgynghori a Chyfranogiad y Cyhoedd

Argaeledd copïau o wybodaeth berthnasol arall39

1

Rhaid i geisydd, neu apelydd sy'n cael hysbysiad ysgrifenedig yn unol â rheoliad 36(5)(b) sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r wybodaeth berthnasol arall sy'n destun yr hysbysiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â rheoliad 37(1) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.

2

Pan fo awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth berthnasol arall o'r math a grybwyllir yn rheoliad 36(1)(b) neu (c), neu wybodaeth berthnasol arall y mae rheoliad 36(2) yn gymwys iddi, rhaid i'r awdurdod neu, yn ôl y digwydd, Gweinidogion Cymru, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o'r wybodaeth berthnasol arall honno ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â rheoliad 37(1) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o'r fath.