Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3341 (Cy.292) (C.152)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009

Gwnaed

16 Rhagfyr 2009

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009.

Y diwrnod penodedig

2.  Daw adran 205 o Ddeddf 2009 ac Atodlen 14 iddi i rym ar 12 Ionawr 2010 o ran Cymru.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

16 Rhagfyr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Hwn yw'r offeryn cychwyn cyntaf a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) (“Deddf 2009”).

Mae'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 12 Ionawr 2010 adran 205 o Ddeddf 2009 ac Atodlen 14 iddi.

Mae adran 205 o Ddeddf 2009 ac Atodlen 14 iddi yn gwneud darpariaeth o ran ysgolion sy'n peri pryder yng Nghymru ac o ran gorfodaeth ynghylch cyflogau ac amodau athrawon gan awdurdodau addysg lleol. Yn benodol mae paragraff 6 o Atodlen 14 i Ddeddf 2009 yn mewnosod adran newydd 19ZA yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), sy'n rhoi pŵ er i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau addysg lleol i roi hysbysiad o rybudd i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir mewn cysylltiad â gorchymyn o dan adran 122 o Ddeddf Addysg 2002 (cyflogau ac amodau athrawon).