Cychwyn ar ddarpariaethau trafnidiaeth leol o ran Cymru
2. 31 Ionawr 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym–
(a)Adran 13 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym).
(b)Adrannau 14—18.
(c)Adran 68(2).
(ch)Adran 131 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r canlynol —
Rhan 1 o Atodlen 7,
Yn Rhan 2 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud ag adran 116(2) ac Atodlen 10 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1),
Yn Rhan 2 o Atodlen 7, y diddymiad sy'n ymwneud â Deddf Fenter 2002(2),
Yn Rhan 3 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud ag Adrannau 74, 75 a 79 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985(3),
Yn Rhan 3 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud â Deddf Trafnidiaeth 2000,
Yn Rhan 5 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud â Deddf Trafnidiaeth 2000,
ac felly â'r diddymiadau hynny.