2009 Rhif 3293 (Cy.290)

TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS I DEITHWYR, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Partneriaethau Ansawdd (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 119, 122 a 160(1) (a) (b) ac (c) o Ddeddf Trafnidiaeth 20001 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 20072.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, dirymu a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Partneriaethau Ansawdd (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2010.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru3.

3

Mae Rheoliadau Cynlluniau Partneriaethau Ansawdd (Cyfleusterau sy'n Bodoli Eisoes) (Cymru) 20024 wedi eu dirymu.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 2000;

  • ystyr “Deddf 1981” (“the 1981 Act”) yw Deddf Cerbydau Teithwyr Cyhoeddus 19815;

  • ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 19856;

  • mae i “gwrthwynebiad derbyniadwy” (“admissible objection”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;

  • ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod trafnidiaeth lleol7;

  • ystyr “awdurdod arweiniol” (“lead authority”) yw—

    1. a

      yr awdurdod sydd wedi gwneud, neu sy'n bwriadu gwneud, cynllun; neu

    2. b

      pan fo rheoliad 3 yn gymwys, yr awdurdod a enwir fel yr awdurdod arweiniol yn yr hysbysiad o gynllun arfaethedig a roddir o dan adran 115(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “gwrthwynebydd” (“objector”) yw gweithredwr sydd wedi gwneud gwrthwynebiad yn unol â rheoliad 8;

  • mae i “gweithredwr perthnasol” (“relevant operator”) yr ystyr a roddir yn rheoliadau 5 a 6;

  • ystyr “cynllun” (“scheme”) yw cynllun partneriaeth ansawdd;

  • ystyr “comisiynydd traffig” (“traffic commissioner”), ac eithrio at ddibenion rheoliadau 5 a 7, yw'r Comisiynydd ar gyfer yr Ardal Draffig Gymreig.

2

Rhaid cyfrifo unrhyw gyfnod o ddiwrnodau a ragnodir yn y Rheoliadau hyn heb gynnwys unrhyw ddiwrnod sy'n Ddydd Nadolig, Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19718.

3

Yn y Rheoliadau hyn, pan yw'n ofynnol bod person yn ystyried a ellir disgwyl i weithredwr sicrhau “cyfradd enillion briodol” (“appropriate rate of return”) am weithredu gwasanaethau o safon benodol a bennir mewn unrhyw gynllun arfaethedig neu bresennol, rhaid i'r person hwnnw roi sylw i'r cyfraddau enillion nodweddiadol am weithredu gwasanaethau lleol o natur gymaradwy mewn mannau eraill yng Nghymru.

Dynodi awdurdod arweiniol3

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw gynllun sy'n cynnwys safon o wasanaethau sy'n pennu gofynion o ran—

a

amlder neu amseriad y gwasanaethau; neu

b

y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol, neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol;

ac a wneir, neu y bwriedir ei wneud, gan ddau neu ragor o awdurdodau yn gweithredu ar y cyd.

2

Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r awdurdodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) nodi, yn yr hysbysiad o'r cynllun arfaethedig a roddir yn unol ag adran 115(1) o'r Ddeddf, pa un ohonynt sydd i weithredu fel yr awdurdod arweiniol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

3

Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys rhaid i'r awdurdod arweiniol, cyn arfer pwerau mewn perthynas ag unrhyw rai o'r dyletswyddau a chyfrifoldebau a neilltuir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn—

a

ymgynghori gyda, a gwahodd sylwadau gan; a

b

pan fo'n briodol, gweithredu yn unol â sylwadau;

yr awdurdod arall neu'r awdurdodau eraill y gwnaed y cynllun neu y bwriedir gwneud y cynllun ganddo neu ganddynt, ar y cyd â'r awdurdod arweiniol.

Gwasanaethau sydd i'w heithrio rhag cymhwyso adran 114(6B) o'r Ddeddf4

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan ddarperir gwasanaeth lleol yn unol â chytundeb cymhorthdal gwasanaeth, neu gyfres o gytundebau o'r fath a gymerir gyda'i gilydd, a'r cytundeb hwnnw neu'r gyfres honno o gytundebau yn cael yr effaith a ddisgrifir ym mharagraff (2).

2

Yr effaith yw, yn rhinwedd gofyniad yn y cytundeb neu'r gyfres o gytundebau, bod gweithredwr yn darparu gwasanaeth a fyddai'n bodloni un neu ragor o ofynion perthnasol.

3

Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, nid yw'r cyfyngiad a gynhwysir yn adran 114(6B) o'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ofynion perthnasol.

4

At ddibenion y rheoliad hwn—

a

ystyr “cytundeb cymhorthdal gwasanaeth” (“service subsidy agreement”) yw cytundeb a wneir o dan adran 9A(4) o Ddeddf Trafnidiaeth 19689 neu adran 63(5) o Ddeddf 1985 Act10; a

b

ystyr “gofyniad perthnasol” (“relevant requirement”) yw gofyniad a bennir mewn cynllun neu mewn cynllun arfaethedig, ynglŷn â safon y gwasanaethau sydd i'w darparu, o ran amlder neu amseriad y gwasanaethau neu o ran y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol.

RHAN 2PENDERFYNU YNGHYLCH GWEITHREDWR PERTHNASOL A GWRTHWYNEBIAD DERBYNIADWY

Diffinio “gweithredwr perthnasol”5

1

At ddibenion adrannau 114(6B) a 122(3)(c) o'r Ddeddf, mae i “gweithredwr perthnasol” (“relevant operator”) yr ystyr a roddir iddo gan y rheoliad hwn a chan reoliad 6.

2

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), “gweithredwr perthnasol” yw gweithredwr sydd, ar y diwrnod pan roddir hysbysiad gyntaf gan awdurdod neu awdurdodau o dan adran 115(1) o'r Ddeddf, o'r cynnig i wneud cynllun—

a

yn gweithredu un neu ragor o wasanaethau lleol yn unol â manylion a gofrestrwyd o dan adran 6 o Ddeddf 198511; neu

b

yn gymwys o dan adran 6(4) o Ddeddf 198512 i gael cais am gofrestriad wedi ei dderbyn, ac wedi gwneud cais o'r fath i'r comisiynydd traffig am gofrestru un neu ragor o wasanaethau lleol;

ac y mae gan y gwasanaeth lleol y mae'r cofrestriad neu, yn ôl fel y digwydd, y cais, yn ymwneud ag ef un neu ragor o arosfannau yn yr ardal y mae'r cynllun arfaethedig yn berthynol iddi.

3

Nid yw paragraff (2) yn gymwys i weithredwr–

a

pan fo'r gweithredwr, mewn perthynas â gwasanaeth lleol y mae paragraff (2)(a) yn gymwys iddo, wedi cyflwyno cais i'r comisiynydd traffig o dan adran 6(7) o Ddeddf 1985 i amrywio neu ddiddymu cofrestriad y gwasanaeth lleol hwnnw; neu

b

pan fo'r gweithredwr, mewn perthynas â chais y mae paragraff (2)(b) yn gymwys iddo, wedi tynnu'r cais hwnnw yn ôl;

ac effaith is-baragraff (a) neu (b) yw na fyddai'r gweithredwr, ar yr adeg pan fyddai'r amrywio, diddymu neu dynnu'n ôl felly yn dod i rym, yn gweithredu unrhyw wasanaethau lleol gydag un neu ragor o arosfannau yn yr ardal y mae'r cynllun arfaethedig yn berthynol iddi.

4

Nid yw paragraff (2) yn gymwys i weithredwr gwasanaethau lleol os yr unig wasanaethau y mae'r gweithredwr hwnnw yn eu darparu, neu'n bwriadu eu darparu, ac y byddai'r paragraff hwnnw fel arall yn gymwys iddynt, yw gwasanaethau a fyddai, o dan y cynllun fel y'i hargymhellir gan yr awdurdod neu awdurdodau yn yr hysbysiad a roddir o dan adran 115(1) of the Act, wedi eu heithrio o'r cynllun o dan adran 116(3) o'r Ddeddf.

Diffinio “gweithredwr perthnasol” yn dilyn addasu cynllun arfaethedig6

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod neu awdurdodau, ar ôl cynnal ymgynghoriad o dan adran 115 o'r Ddeddf, yn gwneud cynllun o dan adran 116(1) o'r Ddeddf sy'n cynnwys addasiadau, a'r addasiadau hynny yn cael yr effaith a ddisgrifir ym mharagraff (2).

2

Yr effaith yw y byddai gweithredwr, nad oedd ar y dyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 5(2) yn bodloni'r diffiniad o weithredwr perthnasol yn y paragraff hwnnw, wedi bodloni'r diffiniad hwnnw pe bai'r cynllun arfaethedig y cyfeiriwyd ato yn yr hysbysiad a roddwyd o dan adran 115(1) wedi ei ddisodli gan y cynllun fel y'i haddaswyd.

3

Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r awdurdod arweiniol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i unrhyw weithredwr y gall fod paragraff (2) yn gymwys iddo, i roi gwybod i'r gweithredwr hwnnw am yr addasiadau i'r cynllun arfaethedig.

4

Mae rheoliadau 8 i 15 yn berthnasol i unrhyw weithredwr yr oedd yn ofynnol bod hysbysiad wedi ei gyflwyno iddo o dan baragraff (3), fel pe bai'r cyfeiriad yn rheoliad 8(1) at gyhoeddi hysbysiad o dan adran 115(1) o'r Ddeddf yn gyfeiriad at gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (3) o'r rheoliad hwn.

Diffinio “gwrthwynebiad derbyniadwy”7

1

At ddibenion adrannau 114(6B) a 122(3)(c) o'r Ddeddf, mae i “gwrthwynebiad derbyniadwy” (“admissible objection”) yr ystyr a roddir iddo yn y rheoliad hwn.

2

“Gwrthwynebiad derbyniadwy” yw gwrthwynebiad—

a

a wneir yn unol â'r weithdrefn a ragnodir yn rheoliad 8; a

b

sy'n bodloni'r naill neu'r llall neu'r ddwy sail a ddisgrifir ym mharagraff (3).

3

Y seiliau yw—

a

am y naill neu'r llall neu'r ddau o'r rhesymau a restrir ym mharagraff (4), na fyddai'n ymarferol i'r gwrthwynebydd ddarparu gwasanaethau perthnasol penodol, neu wasanaethau perthnasol o ddisgrifiad penodol, yn unol â safon benodedig a fyddai'n gymwys i'r gwasanaethau perthnasol hynny pe bai'r cynllun yn cael ei wneud fel a gynigiwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan adran 115(1) o'r Ddeddf; neu

b

gan gymryd i ystyriaeth y materion a restrir ym mharagraff (5), na fyddai'n hyfyw yn fasnachol i'r gwrthwynebydd, gan weithredu mewn modd cymwys ac effeithlon, ddarparu gwasanaethau perthnasol yn unol â safon benodedig a fyddai'n gymwys i'r gwasanaethau perthnasol hynny pe bai'r cynllun yn cael ei wneud fel a gynigiwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan adran 115(1) o'r Ddeddf.

4

Y rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(a) yw—

a

y byddai angen i'r gwrthwynebydd gaffael cerbydau ychwanegol, neu uwchraddio cerbydau presennol i ddarparu'r gwasanaeth yn unol â'r safon a bennwyd yn y cynllun arfaethedig, ac na fyddai'n ymarferol i'r gwrthwynebydd gaffael y cerbydau ychwanegol, neu uwchraddio'r cerbydau presennol, erbyn y dyddiad a bennwyd yn y cynllun arfaethedig; neu

b

y byddai angen i'r gwrthwynebydd gyflogi staff ychwanegol i ddarparu'r gwasanaeth yn unol â'r safon a bennwyd yn y cynllun arfaethedig, ac na fyddai'n ymarferol i'r gwrthwynebydd gyflogi'r staff ychwanegol erbyn y dyddiad a bennwyd yn y cynllun arfaethedig.

5

Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b) yw—

a

y gost debygol i'r gwrthwynebydd am ddarparu gwasanaethau perthnasol i'r safon benodol a fyddai'n gymwys i'r gwasanaethau hynny pe bai'r cynllun yn cael ei wneud fel a gynigiwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan adran 115(1) o'r Ddeddf;

b

yr incwm y byddai'r gwrthwynebydd yn debygol o'i gael o weithredu'r gwasanaethau perthnasol, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw refeniw o arian teithio ychwanegol sy'n debygol o ddeillio o ganlyniad i—

i

darparu cyfleusterau gan yr awdurdod, a

ii

gwelliannau yn safon y gwasanaethau,

pe bai'r cynllun yn cael ei wneud fel a gynigiwyd yn yr hysbysiad a roddwyd o dan adran 115(1) o'r Ddeddf; ac

c

gan gymryd i ystyriaeth y materion a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) a (b), pa un a ellid disgwyl ai peidio i'r gwrthwynebydd sicrhau cyfradd enillion briodol o weithredu'r gwasanaethau perthnasol yn yr ardal y mae'r cynllun arfaethedig yn berthynol iddi.

6

Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) a (8), at ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “gwasanaethau perthnasol” (“relevant services”) mewn perthynas â gweithredwr penodol, yw—

a

yr holl wasanaethau lleol, a gofrestrwyd o dan adran 6 o Ddeddf 1985 yn enw'r gweithredwr hwnnw, sydd ag un neu ragor o arosfannau yn yr ardal y mae'r cynllun yn berthynol iddi, ac mewn perthynas â'r cyfryw yr oedd y cofrestriad yn bodoli ar y diwrnod y rhoddodd yr awdurdod neu'r awdurdodau hysbysiad gyntaf o dan adran 115(1) o'r Ddeddf; neu

b

yr holl wasanaethau lleol sydd ag un neu ragor o arosfannau yn yr ardal y mae'r cynllun yn berthynol iddi ac mewn perthynas â'r cyfryw yr oedd y gweithredwr wedi gwneud cais i'r comisiynydd traffig i gofrestru manylion o dan adran 6 o Ddeddf 1985, a'r cais hwnnw wedi ei wneud ar neu cyn y diwrnod y rhoddodd yr awdurdod neu'r awdurdodau hysbysiad gyntaf o dan adran 115(1) o'r Ddeddf.

7

Nid yw gwasanaeth lleol yn wasanaeth perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn os yw'r gweithredwr, ar ôl y diwrnod y rhoddodd yr awdurdod neu'r awdurdodau hysbysiad gyntaf o dan adran 115(1) o'r Ddeddf—

a

mewn perthynas â gwasanaeth lleol y mae paragraff (6)(a) yn gymwys iddo, yn cyflwyno cais i'r comisiynydd traffig o dan adran 6(7) o Ddeddf 1985 i amrywio neu ddiddymu cofrestriad y gwasanaeth, ac effaith hynny fel a ddisgrifir ym mharagraff (8); neu

b

mewn perthynas â gwasanaeth lleol arfaethedig y mae paragraff (6)(b) yn gymwys iddo, yn tynnu'n ôl y cais i gofrestru'r gwasanaeth.

8

Yr effaith yw, ar yr adeg y byddai'r amrywiad neu'r diddymiad yn effeithiol, na fyddai gan y gwasanaeth lleol neu, yn ôl fel y digwydd, y gwasanaeth lleol arfaethedig, a fyddai'n wasanaeth perthnasol oni bai am baragraff (7) a'r paragraff hwn, unrhyw arosfannau yn yr ardal y mae'r cynllun yn berthynol iddi.

Gweithdrefn ar gyfer gwrthwynebu8

1

Rhaid i weithredwr sy'n dymuno gwrthwynebu gofyniad sy'n dod o fewn adran 114(6)(b) neu (6A) o'r Ddeddf wneud y gwrthwynebiad mewn ysgrifen a'i gyflwyno i'r awdurdod arweiniol o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad a roddir o dan adran 115(1) o'r Ddeddf mewn perthynas â'r gofyniad hwnnw.

2

Rhaid i'r gwrthwynebydd, yr un pryd ag y cyflwynir y gwrthwynebiad a wneir o dan baragraff (1) i'r awdurdod arweiniol, anfon copi o'r gwrthwynebiad at y comisiynydd traffig.

3

Rhaid i wrthwynebiad a wneir o dan baragraff (1) gynnwys—

a

datganiad sy'n disgrifio ar ba sail y mae'r gwrthwynebydd o'r farn bod y gwrthwynebydd yn weithredwr perthnasol at ddibenion adrannau 114(6B) a 122(3)(c) o'r Ddeddf;

b

datganiad sy'n disgrifio ar ba sail y mae'r gwrthwynebydd o'r farn y bodlonir y naill neu'r llall neu'r ddwy o'r seiliau a bennir yn rheoliad 7(3); ac

c

tystiolaeth i ategu'r datganiadau a ddisgrifir yn is-baragraffau (a) a (b).

Cais gan awdurdod arweiniol am ragor o wybodaeth9

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff yr awdurdod arweiniol, o fewn cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod pan geir gwrthwynebiad fel a ddisgrifir yn rheoliad 8, ofyn i'r gwrthwynebydd am ba bynnag wybodaeth bellach neu dystiolaeth a ystyrir yn angenrheidiol gan yr awdurdod hwnnw er mwyn penderfynu a yw gwrthwynebiad yn wrthwynebiad derbyniadwy, neu a yw'r gwrthwynebydd yn weithredwr perthnasol.

2

Caiff yr awdurdod arweiniol, gyda chaniatâd ysgrifenedig y gwrthwynebydd, estyn y cyfnod o 14 diwrnod a bennir ym mharagraff (1).

3

Os yw'r awdurdod arweiniol yn gofyn am wybodaeth neu dystiolaeth yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r awdurdod bennu o fewn pa gyfnod y mae'r cyfryw wybodaeth neu dystiolaeth i'w chyflwyno gan y gwrthwynebydd, a rhaid i'r cyfnod hwnnw—

a

fod yn ddigon hir, o ystyried natur a chymhlethdod y cais, i roi amser rhesymol i'r gwrthwynebydd ymateb; a

b

peidio â bod yn llai na 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y gwneir y cais gan yr awdurdod.

4

Os yw'r gwrthwynebydd yn methu ag ymateb i gais a wneir o dan baragraff (1) o fewn y cyfnod a bennir yn y cais yn unol â pharagraff (3), caiff yr awdurdod arweiniol, er gwaethaf hynny, fynd ymlaen i wneud penderfyniad o dan reoliad 10.

Penderfyniad yr awdurdod arweiniol10

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y ceir gwrthwynebiad neu, yn ôl fel y digwydd, ddiwrnod olaf y cyfnod y mae'n rhaid cyflwyno'r cyfryw wybodaeth bellach neu dystiolaeth ynddo o dan reoliad 9, rhaid i'r awdurdod arweiniol benderfynu—

a

a yw'r gwrthwynebydd yn weithredwr perthnasol; a

b

a yw'r gwrthwynebiad yn wrthwynebiad derbyniadwy;

a dyroddi hysbysiad ysgrifenedig i hysbysu'r gwrthwynebydd o'r penderfyniad hwnnw.

2

Caiff yr awdurdod arweiniol, gyda chaniatâd ysgrifenedig y gwrthwynebydd, estyn y cyfnod o 28 diwrnod a bennir ym mharagraff (1).

3

Os yw'r awdurdod arweiniol yn penderfynu—

a

bod y gwrthwynebydd yn weithredwr perthnasol, a

b

bod y gwrthwynebiad yn wrthwynebiad derbyniadwy,

rhaid i'r hysbysiad ysgrifenedig a ddyroddir yn unol â pharagraff (1) fodloni'r gofyniad a ddisgrifir ym mharagraff (4).

4

Y gofyniad yw fod rhaid i'r hysbysiad ysgrifenedig naill ai—

a

disgrifio'r addasiadau y mae'r awdurdod arweiniol yn bwriadu eu gwneud yn y safon gwasanaethau a bennir yn y cynllun, o ganlyniad i'r penderfyniad; neu

b

disgrifio pa bryd ac ym mha fodd y bydd yr awdurdod arweiniol yn dyroddi hysbysiad atodol i hysbysu'r gwrthwynebydd o'r addasiadau arfaethedig.

5

Rhaid i'r awdurdod arweiniol anfon copi o'r hysbysiad ysgrifenedig a ddyroddir yn unol â pharagraff (1), a phan fo'n briodol yr hysbysiad atodol a ddyroddir yn unol â pharagraff (4)(b) at y comisiynydd traffig.

Atgyfeirio at y comisiynydd traffig11

1

Caiff y gwrthwynebydd, o fewn cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 10(1) neu, pan fo'n briodol, yr hysbysiad atodol a ddisgrifir yn rheoliad 10 (4)(b), atgyfeirio'r naill neu'r llall o'r materion a ddisgrifir ym mharagraff (2) at y comisiynydd traffig, i'w benderfynu o dan reoliad 14.

2

Y materion yw—

a

gwrthwynebiad i benderfyniad yr awdurdod arweiniol o dan reoliad 10(1) nad yw gwrthwynebydd yn weithredwr perthnasol neu nad yw gwrthwynebiad yn wrthwynebiad derbyniadwy; neu

b

gwrthwynebiad i'r safon addasedig o wasanaethau y mae'r awdurdod arweiniol yn cynnig ei phennu yn y cynllun, o ganlyniad i benderfyniad fel a ddisgrifir yn rheoliad 10(3).

3

Pan atgyfeirir mater at y comisiynydd traffig yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i'r gwrthwynebydd, yr un pryd, anfon at y comisiynydd traffig–

a

copi o'r gwrthwynebiad fel y'i cyflwynwyd i'r awdurdod arweiniol;

b

copi o unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth a gyflwynwyd i'r awdurdod arweiniol wrth ymateb i unrhyw gais o dan reoliad 9(1);

c

pan yw'r mater yn wrthwynebiad fel a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a), datganiad sy'n disgrifio pam, ym marn y gwrthwynebydd, y mae'r penderfyniad a wnaed gan yr awdurdod arweiniol o dan reoliad 10 yn anghywir; ac

ch

pan yw'r mater yn wrthwynebiad fel a ddisgrifir ym mharagraff (2)(b), datganiad sy'n disgrifio pam, ym marn y gwrthwynebydd, y bodlonir y naill neu'r llall neu'r ddwy o'r seiliau a bennir yn rheoliad 7(3) mewn perthynas â'r safon addasedig o wasanaethau y cynigir ei phennu mewn cynllun.

4

Rhaid i'r gwrthwynebydd, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno'r wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (3) i'r comisiynydd traffig, gyflwyno copi o'r wybodaeth honno i'r awdurdod arweiniol.

Darparu gwybodaeth i'r comisiynydd traffig12

1

Pan atgyfeirir mater o dan reoliad 11 i'w benderfynu gan y comisiynydd traffig, rhaid i'r awdurdod arweiniol, o fewn cyfnod o 14 diwrnod, sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y ceir yr wybodaeth a ddarperir yn rhinwedd rheoliad 11(4), gyflwyno i'r comisiynydd traffig—

a

datganiad sy'n disgrifio ar ba sail y gwnaed y penderfyniad o dan reoliad 10; a

b

unrhyw dystiolaeth ychwanegol neu wybodaeth sydd, ym marn yr awdurdod, yn berthnasol i'r penderfyniad.

2

Rhaid i'r awdurdod arweiniol, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno'r datganiad a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a), anfon at y gwrthwynebydd gopi o'r datganiad hwnnw a pha bynnag dystiolaeth ychwanegol neu wybodaeth a gyflwynir gan yr awdurdod arweiniol i'r comisiynydd traffig yn unol â pharagraff (1)(b).

3

Os yw'r awdurdod arweiniol yn methu â chyflwyno'r deunydd a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a) a (b) o fewn y cyfnod a bennir yn y paragraff hwnnw, caiff y comisiynydd traffig, er gwaethaf hynny, fynd ymlaen i wneud penderfyniad o dan reoliad 14.

4

Caiff y comisiynydd traffig, o fewn cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno'r deunydd a ddisgrifir ym mharagraff (1)(a) a (b), ofyn am ba bynnag wybodaeth bellach neu dystiolaeth gan y gwrthwynebydd neu'r awdurdod arweiniol ag a ystyrir yn angenrheidiol gan y comisiynydd traffig er mwyn gwneud penderfyniad.

5

Pan ofynnir am wybodaeth o'r fath yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r gwrthwynebydd neu, yn ôl fel y digwydd, yr awdurdod arweiniol, gyflwyno'r cyfryw wybodaeth neu dystiolaeth o fewn cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y ceir y cais.

6

Rhaid i'r gwrthwynebydd neu, yn ôl fel y digwydd, yr awdurdod arweiniol, yr un pryd ag y mae'n cyflwyno unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth a geisiwyd o dan baragraff (4) i'r comisiynydd traffig, anfon copi o'r wybodaeth neu'r dystiolaeth honno at yr awdurdod arweiniol neu, yn ôl fel y digwydd, at y gwrthwynebydd.

7

Os yw'r gwrthwynebydd neu, yn ôl fel y digwydd, yr awdurdod arweiniol, yn methu ag ymateb i gais o dan baragraff (4) o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (5) caiff y comisiynydd traffig, er gwaethaf hynny, fynd ymlaen i wneud penderfyniad o dan reoliad 14.

Aseswyr i gynorthwyo comisiynwyr traffig13

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan yw'n ofynnol bod y comisiynydd traffig, wrth ystyried unrhyw fater a atgyfeirir o dan reoliad 11, yn penderfynu a yw'r sail a bennir yn rheoliad 7(3)(b) wedi ei bodloni.

2

Wrth wneud penderfyniad o'r fath caiff y comisiynydd fanteisio ar gymorth asesydd a ddewisir o banel o bersonau a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion adran 17A o Ddeddf 198113.

3

Pan fo comisiynydd traffig yn ceisio cymorth gan berson fel a ddisgrifir ym mharagraff (2), rhaid i'r comisiynydd traffig dalu i'r person hwnnw pa bynnag gydnabyddiaeth a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Penderfyniad y comisiynydd traffig14

1

O fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad y diweddaraf o'r canlynol—

a

diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno'r deunydd a ddisgrifir yn rheoliad 12(1)(a) a (b); neu

b

diwedd y cyfnod y mae'n rhaid i unrhyw wybodaeth bellach neu dystiolaeth a geisir o dan reoliad 12(4) gael ei chyflwyno ynddo;

rhaid i'r comisiynydd traffig benderfynu'r mater a atgyfeirir o dan reoliad 11, a dyroddi hysbysiad ysgrifenedig i'r gwrthwynebydd ac i'r awdurdod arweiniol i'w hysbysu o'r penderfyniad.

2

Os penderfyniad y comisiynydd traffig yw y dylid cadarnhau'r gwrthwynebiad, caiff y comisiynydd traffig argymell bod yr awdurdod arweiniol yn gwneud pa bynnag addasiadau i'r gofynion yn y cynllun arfaethedig, o ran amlderau, amseriadau neu brisiau teithio uchaf, a ystyrir yn briodol gan y comisiynydd traffig.

3

Os yw'r comisiynydd traffig yn gwneud argymhellion i'r awdurdod arweiniol yn unol â pharagraff (2) a'r awdurdod naill ai—

a

yn addasu'r cynllun yn unol â'r argymhellion hynny; neu

b

yn dileu'r gofyniad y mae'r gwrthwynebiad derbyniadwy yn ymwneud ag ef;

nid fydd y gwrthwynebiad wedyn yn wrthwynebiad derbyniadwy at ddibenion adran 114(6B) o'r Ddeddf.

4

Naill ai—

a

os nad yw'r comisiynydd traffig yn gwneud argymhellion i'r awdurdod arweiniol ynglŷn â phenderfyniad fel a ddisgrifir ym mharagraff (2); neu

b

os yw'r awdurdod yn cynnig addasiadau i'r cynllun sy'n wahanol i'r rheini a argymhellir gan y comisiynydd traffig o dan baragraff (2);

mae'r paragraffau (5) i (9) yn gymwys.

5

Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i'r awdurdod arweiniol, o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod mae'n cael y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (1), anfon hysbysiad ysgrifenedig at y gwrthwynebydd gan ddisgrifio'r addasiadau y mae'r awdurdod yn bwriadu eu gwneud yn y safon o wasanaethau a bennir yn y cynllun, o ganlyniad i benderfyniad fel a ddisgrifir ym mharagraff (2).

6

Caiff yr awdurdod arweiniol, gyda chaniatâd ysgrifenedig y gwrthwynebydd, estyn y cyfnod o 28 diwrnod a bennir ym mharagraff (5).

7

Os na fydd y gwrthwynebydd wedi tynnu'n ôl y gwrthwynebiad o fewn cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r gwrthwynebydd yn cael yr hysbysiad o dan baragraff (5), caiff yr awdurdod arweiniol atgyfeirio'r mater yn ôl at y comisiynydd traffig am benderfyniad.

8

Pan fo unrhyw fater wedi ei atgyfeirio yn ôl at y comisiynydd traffig yn rhinwedd paragraff (7), rhaid i'r comisiynydd traffig wneud penderfyniad o fewn 14 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r dyddiad yr atgyfeirir y mater.

9

Os yw'r comisiynydd traffig, wrth ymateb i atgyfeiriad o dan baragraff (7), yn penderfynu nad yw'r gwrthwynebiad yn wrthwynebiad derbyniadwy, ni fydd y gwrthwynebiad wedyn yn wrthwynebiad derbyniadwy at ddibenion adran 114(6B) o'r Ddeddf.

Estyniad amser15

1

Pan fo'r comisiynydd traffig o'r farn bod hynny'n angenrheidiol er mwyn ymdrin yn deg a chyfiawn ag achos penodol, caiff y comisiynydd traffig, yn unol â pharagraff (2), estyn unrhyw un o'r cyfnodau a ddisgrifir ym mharagraff (3).

2

Ni cheir estyn cyfnod a ddisgrifir ym mharagraff (3) ac eithrio am y cyfryw gyfnod a ystyrir yn briodol yn amgylchiadau'r achos gan y comisiynydd traffig

3

Y cyfnodau yw'r rheini a bennir yn—

a

rheoliad 11(1);

b

rheoliad 12(1);

c

rheoliad 12(4);

ch

rheoliad 12(5);

d

rheoliad 14(1); a

dd

rheoliad 14(8).

RHAN 3ADOLYGU GOFYNION O RAN AMLDERAU, AMSERIADAU NEU BRISIAU TEITHIO UCHAF

Dehongli Rhan 316

At ddibenion y Rhan hon—

a

mae adolygiad yn “orffenedig” (“completed”) ar y diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

i

pan fo gwrthwynebiad i'r cyfan neu unrhyw ran o ganlyniad yr adolygiad wedi ei gyflwyno yn rhinwedd rheoliad 25(2), y dyddiad y penderfynir y gwrthwynebiad hwnnw yn derfynol,

ii

y dyddiad y daw'r amser ar gyfer cyflwyno gwrthwynebiad o dan reoliad 25(2) i ben heb i unrhyw wrthwynebiad o'r fath gael ei wneud, neu

iii

y dyddiad y rhoddir y gorau i wrthwynebiad a wnaed yn unol â rheoliad 25(2) neu y tynnir y gwrthwynebiad yn ôl,

ac y mae “gwrthwynebiad” (“objection”) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw atgyfeiriad pellach at gomisiynydd traffig am benderfyniad o dan reoliad 11, fel y'i cymhwysir gan reoliad 25;

b

mae cais am adolygu gofyniad o ran amlderau, amseriadau neu brisiau teithio uchaf yn “gais a eithrir” (“excepted request”) os yw'r awdurdod arweiniol o'r farn na ddigwyddodd, er y dyddiad perthnasol, unrhyw newid yn amodau'r farchnad sy'n effeithio'n sylweddol ar allu'r gweithredwr neu'r gweithredwyr sy'n gwneud y cais i sicrhau, gan weithredu mewn modd cymwys ac effeithlon, cyfradd enillion briodol wrth barhau i weithredu gwasanaethau presennol yn unol â'r safon a bennir yn y cynllun;

c

ystyr “gwasanaethau presennol” (“existing services”), mewn perthynas â gweithredwr penodol, yw'r holl wasanaethau lleol a gofrestrwyd o dan adran 6 o Ddeddf 1985 yn enw'r gweithredwr hwnnw—

i

sydd ag un neu ragor o arosfannau yn yr ardal y mae'r cynllun yn berthynol iddi; a

ii

mewn perthynas â'r cyfryw, ar y diwrnod pan yw'r awdurdod arweiniol, heb gael cais gan weithredwr cyfranogol perthnasol, yn penderfynu cychwyn adolygiad neu, yn ôl fel y digwydd, pan wneir gais am adolygiad gan weithredwr cyfranogol perthnasol, y mae'r cofrestriad yn bodoli;

ch

mae i “cyfnod gofyniad prisiau teithio uchaf” (“maximum fares requirement period”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad17(2);

d

ystyr “gweithredwr cyfranogol” (“participating operator”), mewn perthynas â chynllun penodol, yw gweithredwr—

i

a roddodd ymgymeriad ysgrifenedig i'r comisiynydd traffig yn unol ag adran 118(4)(a) o'r Ddeddf mewn perthynas â'r cynllun hwnnw; a

ii

sydd, ar y dyddiad perthnasol, yn gweithredu gwasanaethau lleol yn unol â thelerau'r ymgymeriad hwnnw;

dd

ystyr “dyddiad perthnasol”, mewn perthynas â gofyniad o ran amlderau, amseriadau neu brisiau teithio uchaf, yw naill ai—

i

y dyddiad y cyflwynwyd y gofyniad gyntaf, neu, os amrywir gofyniad o ran prisiau teithio uchaf yn unol â fformiwla, y dyddiad y cyflwynwyd y fformiwla gyntaf; neu

ii

os cynhaliwyd adolygiad blaenorol o'r gofyniad hwnnw neu'r fformiwla honno, y dyddiad y cwblhawyd yr adolygiad hwnnw;

e

ystyr “gweithredwr cyfranogol perthnasol” (“relevant participating operator”), mewn perthynas ag unrhyw ofyniad o ran amlderau, amseriadau neu brisiau teithio uchaf a bennir mewn cynllun, yw gweithredwr cyfranogol y mae'r gofyniad hwnnw'n gymwys iddo; ac

f

ystyr “hysbysiad adolygu” (“review notice”) yw hysbysiad a ddyroddir gan awdurdod arweiniol i gychwyn adolygiad o ofynion o ran amlderau, amseriadau neu brisiau teithio uchaf o dan y Rheoliadau hyn.

Adolygu gofynion o ran prisiau teithio uchaf gan yr awdurdod arweiniol17

1

Ac eithrio pan fo rheoliad 20 yn gymwys, pan fo cynllun a wneir gan awdurdod neu awdurdodau yn pennu safon gwasanaethau sy'n cynnwys gofynion o ran y prisiau teithio uchaf y ceir eu codi am deithiau penodol, neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol, rhaid i'r cynllun hwnnw bennu cyfnod gofyniad prisiau teithio uchaf, yn unol â pharagraffau (2) a (3).

2

Cyfnod gofyniad prisiau teithio uchaf yw, yn ôl fel y digwydd, y cyfnod—

a

rhwng y dyddiad pan ddaw'r gofynion o ran prisiau teithio uchaf i rym gyntaf a'r dyddiad a bennwyd fel y dyddiad olaf, erbyn y cyfryw y mae'n rhaid cychwyn yr adolygiad cyntaf o'r gofynion hynny; neu

b

rhwng cwblhau adolygiad o'r gofynion o ran prisiau teithio uchaf a'r dyddiad a bennwyd fel y dyddiad olaf, erbyn y cyfryw y mae'n rhaid cychwyn yr adolygiad nesaf o'r gofynion hynny.

3

Ni chaiff y cyfnod gofyniad prisiau teithio uchaf fod yn fwy na 12 mis.

4

Cyn diwedd y cyfnod gofyniad prisiau teithio uchaf, rhaid i'r awdurdod arweiniol gychwyn adolygiad drwy ddyroddi hysbysiad adolygu ysgrifenedig i'r gweithredwyr cyfranogol hynny y mae'r gofynion prisiau teithio uchaf yn gymwys iddynt.

5

Rhaid i'r hysbysiad adolygu gynnig—

a

bod y gofynion o ran y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol, a gynhwysir yn y cynllun neu mewn unrhyw ran o'r cynllun, yn peidio â chael effaith;

b

bod y prisiau teithio uchaf presennol y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol yn parhau i gael effaith tan yr adolygiad nesaf; neu

c

gofynion diwygiedig o ran y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol.

6

Ar yr amod bod yr awdurdod arweiniol yn dyroddi hysbysiad adolygu cyn diwedd y cyfnod gofyniad prisiau teithio uchaf, bydd y gofynion presennol o ran y prisiau teithio uchaf a gynhwysir yn y cynllun yn parhau i gael effaith, oni fydd paragraff (7) yn gymwys, hyd nes bo'r awdurdod hwnnw'n gwneud penderfyniad yn unol â rheoliad 24(2).

7

Os y penderfyniad a wneir yn unol â rheoliad 24(2) yw y dylai gofynion diwygiedig o ran y prisiau teithio uchaf gael eu cynnwys yn y cynllun, bydd y gofynion presennol o ran y prisiau teithio uchaf a gynhwysir yn y cynllun yn parhau i gael effaith hyd nes bo'r gofynion diwygiedig hynny yn dod i rym yn unol â'r amserlen a bennir yn unol â rheoliad 24(5)(b).

8

Os yw'r awdurdod arweiniol o'r farn bod y naill neu'r llall neu'r ddau o'r amodau ym mharagraff (9) wedi eu bodloni mewn perthynas â rhai neu bob un o'r gofynion o ran y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol, caiff yr awdurdod, ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod gofyniad prisiau teithio uchaf, gychwyn adolygiad o'r gofynion hynny drwy ddyroddi hysbysiad adolygu ysgrifenedig i'r gweithredwyr cyfranogol perthnasol.

9

Yr amodau yw—

a

er y dyddiad perthnasol, bod newid wedi digwydd yn amodau'r farchnad sy'n effeithio'n sylweddol ar allu gweithredwyr cyfranogol perthnasol, drwy weithredu mewn modd cymwys ac effeithlon, i sicrhau cyfradd enillion briodol am barhau i weithredu gwasanaethau presennol yn unol â'r gofynion o ran prisiau teithio uchaf a bennir yn y cynllun; neu

b

nad yw'r gofynion presennol bellach yn gyson â pholisïau trafnidiaeth leol14 yr awdurdod arweiniol, neu'r awdurdod arall neu unrhyw un o'r awdurdodau eraill (yn ôl fel y digwydd), y gwnaed y cynllun ganddynt.

Methiant awdurdod arweiniol i adolygu gofynion o ran prisiau teithio uchaf18

1

Os yw awdurdod arweiniol yn methu â dyroddi hysbysiad adolygu cyn diwedd y cyfnod gofyniad prisiau teithio uchaf, caiff unrhyw weithredwr cyfranogol y mae gofynion o ran prisiau teithio uchaf yn gymwys iddo wneud cais am adolygu'r gofynion.

2

Rhaid i weithredwr sy'n dymuno gwneud cais o dan baragraff (1) wneud y cais mewn ysgrifen a'i gyflwyno i'r awdurdod arweiniol o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod pan yw cyfnod y gofyniad prisiau teithio uchaf yn dod i ben.

3

Rhaid anfon copi o'r cais a wneir o dan baragraff (1) at y comisiynydd traffig, yr un pryd ag y cyflwynir y cais i'r awdurdod arweiniol.

4

Os na fydd yr awdurdod arweiniol, o fewn cyfnod o 14 diwrnod sy'n cychwyn ar y diwrnod y ceir cais a wnaed yn unol â pharagraff (1), wedi dyroddi hysbysiad adolygu, bydd unrhyw ofynion o ran y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol yn peidio â chael effaith.

5

Os yw awdurdod arweiniol yn methu â dyroddi hysbysiad adolygu cyn diwedd y cyfnod gofyniad prisiau teithio uchaf, ac na wneir cais o dan baragraff (1), bydd unrhyw ofynion o ran y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol yn parhau mewn grym—

a

hyd nes daw gofynion diwygiedig i rym ar ôl adolygiad dilynol; neu

b

hyd nes peidia'r gofynion â chael effaith ar ôl adolygiad dilynol;

pa un bynnag fo'r cynharaf.

Cais gan weithredwr am adolygu gofynion o ran prisiau teithio uchaf19

1

Ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod gofyniad prisiau teithio uchaf, caiff y canlynol wneud cais am adolygu unrhyw ofyniad neu ofynion o ran prisiau teithio uchaf—

a

tri neu ragor o weithredwyr cyfranogol perthnasol; neu

b

50% o leiaf o'r gweithredwyr cyfranogol perthnasol;

(pa un bynnag yw'r lleiaf).

2

Pan wneir cais am adolygiad yn unol â pharagraff (1) rhaid i'r gweithredwr neu weithredwyr sy'n gwneud y cais—

a

nodi â pha ofyniad neu ofynion o ran prisiau teithio uchaf y mae'r cais yn ymwneud;

b

cyflwyno sylwadau a thystiolaeth i gefnogi'r cais; ac

c

cynnig gofynion diwygiedig o ran y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol.

3

Ac eithrio pan fo'r cais am adolygiad yn gais a eithrir, rhaid i'r awdurdod arweiniol, o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y ceir cais a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (1), ddyroddi hysbysiad adolygu ysgrifenedig i'r gweithredwyr cyfranogol perthnasol.

Adolygu fformiwla ar gyfer amrywio prisiau teithio uchaf, gan yr awdurdod arweiniol20

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cynllun yn cynnwys gofynion o ran y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol, a'r cynllun hwnnw yn cynnwys mecanwaith yr amrywir y prisiau teithio uchaf hynny odano, o leiaf bob 12 mis, yn unol â fformiwla.

2

Os yw'r awdurdod arweiniol o'r farn bod yr amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni mewn perthynas â rhai neu bob un o'r gofynion o ran y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol, a amrywir yn unol â fformiwla, caiff yr awdurdod arweiniol, ar unrhyw adeg, gychwyn adolygiad o'r fformiwla honno drwy ddyroddi hysbysiad adolygu ysgrifenedig i'r gweithredwyr cyfranogol perthnasol yn unol â pharagraff (4).

3

Yr amodau yw—

a

er y dyddiad perthnasol, bod newid wedi digwydd yn amodau'r farchnad sy'n effeithio'n sylweddol ar allu gweithredwyr cyfranogol perthnasol, drwy weithredu mewn modd cymwys ac effeithlon, i sicrhau cyfradd enillion briodol am barhau i weithredu gwasanaethau presennol yn unol â'r gofynion o ran prisiau teithio uchaf a bennir yn y cynllun os amrywir y prisiau teithio yn unol â'r fformiwla; neu

b

nad yw effaith y fformiwla bellach yn gyson â pholisïau trafnidiaeth leol yr awdurdod arweiniol, neu'r awdurdod arall neu unrhyw un o'r awdurdodau eraill (yn ôl fel y digwydd), y gwnaed y cynllun ganddynt.

4

Rhaid i'r hysbysiad adolygu gynnig—

a

bod y gofynion o ran y prisiau teithio uchaf y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol, a gynhwysir yn y cynllun neu mewn unrhyw ran o'r cynllun, yn peidio â chael effaith;

b

un neu ragor o addasiadau i'r fformiwla y cyfeirir at ym mharagraff (1); neu

c

disodli'r fformiwla gan brisiau teithio uchaf penodedig y caniateir eu codi am deithiau penodol neu am deithiau o ddisgrifiadau penodol.

Cais gan weithredwyr am adolygu fformiwla ar gyfer amrywio prisiau teithio uchaf21

1

Ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod pan fo fformiwla fel a ddisgrifir yn rheoliad 20(1) yn gymwys, caiff y canlynol wneud cais am adolygu'r fformiwla—

a

tri neu ragor o weithredwyr cyfranogol perthnasol; neu

b

50% o leiaf o'r gweithredwyr cyfranogol perthnasol;

(pa un bynnag yw'r lleiaf).

2

Pan wneir cais am adolygiad o'r fformiwla yn unol â pharagraff (1) rhaid i'r gweithredwr neu weithredwyr sy'n gwneud y cais—

a

nodi â pha ran o'r fformiwla y mae'r cais yn ymwneud;

b

cyflwyno sylwadau a thystiolaeth i gefnogi'r cais; ac

c

cynnig fformiwla ddiwygiedig ar gyfer amrywio'r prisiau teithio uchaf.

3

Ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys rhaid i'r awdurdod arweiniol o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod pan geir y cais a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (1), ddyroddi hysbysiad adolygu ysgrifenedig i'r gweithredwyr cyfranogol perthnasol.

4

Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (3) yn gymwys os yw'r cais a gyflwynir yn unol â pharagraff (1)—

a

wedi ei gael o fewn llai na 12 mis ar ôl y dyddiad perthnasol; a

b

yn gais a eithrir.

Adolygu gofynion o ran amlderau ac amseriadau, gan yr awdurdod arweiniol22

1

Pan fo cynllun a wneir gan awdurdod neu awdurdodau yn pennu safon gwasanaethau sy'n cynnwys gofynion o ran amlder neu amseriad y gwasanaethau, caiff yr awdurdod arweiniol, os yw o'r farn bod y naill neu'r llall neu'r ddau o'r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni mewn perthynas â rhai neu bob un o'r gofynion hynny, gychwyn adolygiad o'r gofynion hynny drwy ddyroddi hysbysiad adolygu ysgrifenedig i'r gweithredwyr cyfranogol perthnasol.

2

Yr amodau yw—

a

er y dyddiad perthnasol, bod newid wedi digwydd yn amodau'r farchnad sy'n effeithio'n sylweddol ar allu gweithredwyr cyfranogol perthnasol, drwy weithredu mewn modd cymwys ac effeithlon, i sicrhau cyfradd enillion briodol am barhau i weithredu gwasanaethau presennol yn unol â'r gofynion o ran amlder neu amseriad a bennir yn y cynllun; neu

b

nad yw'r gofynion presennol bellach yn gyson â pholisïau trafnidiaeth leol yr awdurdod arweiniol, neu'r awdurdod arall neu unrhyw un o'r awdurdodau eraill (yn ôl fel y digwydd), y gwnaed y cynllun ganddynt.

3

Rhaid i'r hysbysiad adolygu gynnig naill ai—

a

bod y gofynion o ran amlder neu amseriad gwasanaethau, a gynhwysir yn y cynllun neu mewn unrhyw ran o'r cynllun, yn peidio â chael effaith; neu

b

y dylid diwygio'r gofynion hynny.

Cais gan weithredwr am adolygu gofynion o ran amlderau ac amseriadau23

1

Ar unrhyw adeg, caiff y canlynol wneud cais am adolygu unrhyw ofyniad neu ofynion o ran amlder neu amseriad gwasanaethau—

a

tri neu ragor o weithredwyr cyfranogol perthnasol; neu

b

50% o leiaf o'r gweithredwyr cyfranogol perthnasol;

(pa un bynnag yw'r lleiaf).

2

Pan wneir cais am adolygiad yn unol â pharagraff (1) rhaid i'r gweithredwr neu weithredwyr sy'n gwneud y cais—

a

nodi â pha ofyniad neu ofynion o ran amlder neu amseriad gwasanaethau y mae'r cais yn ymwneud;

b

cyflwyno sylwadau a thystiolaeth i gefnogi'r cais; ac

c

cynnig gofynion diwygiedig o ran amlderau ac amseriadau.

3

Ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys rhaid i'r awdurdod arweiniol o fewn cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod pan geir y cais a gyflwynwyd yn unol â pharagraff (1), ddyroddi hysbysiad adolygu ysgrifenedig i'r gweithredwyr cyfranogol perthnasol.

4

Nid yw'r ddyletswydd ym mharagraff (3) yn gymwys os yw'r cais a gyflwynir yn unol â pharagraff (1)—

a

wedi ei gael o fewn llai na 12 mis ar ôl y dyddiad perthnasol; a

b

yn gais a eithrir.

Gweithdrefn ar gyfer adolygiadau24

1

Rhaid i hysbysiad adolygu bennu'r dyddiad olaf ar gyfer cael sylwadau gan weithredwyr cyfranogol perthnasol, yn ymateb i'r hysbysiad hwnnw, a rhaid i'r dyddiad hwnnw fod—

a

ddim llai na 28 diwrnod; a

b

ddim mwy na 42 diwrnod;

ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad adolygu.

2

Rhaid i'r awdurdod arweiniol, o fewn cyfnod o 35 diwrnod sy'n cychwyn gyda'r diwrnod a bennir yn yr hysbysiad adolygu yn unol â pharagraff (1), benderfynu a ddylai'r gofynion o ran amlderau, amseriadau neu brisiau teithio uchaf neu, yn ôl fel y digwydd, y fformiwla a ddefnyddir i amrywio prisiau teithio uchaf—

a

barhau i gael effaith tan yr adolygiad nesaf,

b

peidio â chael effaith, neu

c

gael eu diwygio.

3

Rhaid i'r awdurdod arweiniol, unwaith y gwneir penderfyniad yn rhinwedd paragraff (2), ddyroddi hysbysiad ysgrifenedig i'r holl weithredwyr cyfranogol perthnasol.

4

Caiff yr awdurdod arweiniol, gyda chaniatâd ysgrifenedig yr holl weithredwyr cyfranogol perthnasol, estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (2).

5

Os y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw y dylai'r gofynion o ran amlderau, amseriadau neu brisiau teithio uchaf, neu'r fformiwla a ddefnyddir i amrywio prisiau teithio uchaf, gael eu diwygio, rhaid i'r hysbysiad a ddyroddir o dan baragraff (3)—

a

nodi manylion y diwygiadau arfaethedig; a

b

yn ddarostyngedig i baragraff (6), pennu'r amserlen ar gyfer gweithrediad arfaethedig y diwygiadau.

6

Rhaid i'r amserlen a bennir yn unol â pharagraff (5)(b)—

a

ddarparu ar gyfer rhoi effaith i unrhyw ddiwygiadau yn y gofynion o ran prisiau teithio uchaf, neu'r fformiwla a ddefnyddir i amrywio prisiau teithio uchaf, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cwblhau'r adolygiad;

b

darparu ar gyfer rhoi effaith i unrhyw ddiwygiadau yn y gofynion o ran amlderau neu amseriadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cwblhau'r adolygiad, gan gymryd i ystyriaeth yr angen i weithredwyr gofrestru gwasanaeth lleol newydd neu amrywio neu ddiddymu cofrestriad gwasanaeth lleol presennol, fel y bo'n briodol, yn unol ag adran 6 o Ddeddf 1985; ac

c

pan fo'r awdurdod arweiniol yn ymwybodol bod gweithredwr cyfranogol perthnasol yn barti mewn cytundeb partneriaeth gwirfoddol yn unol â'r diffiniad o “voluntary partnership agreement” yn adran 153(2) o'r Ddeddf, neu unrhyw gytundeb arall gyda gweithredwyr gwasanaethau lleol, cymryd i ystyriaeth unrhyw amodau y gallai'r cytundeb hwnnw eu cynnwys, sy'n cyfyngu cyflawni newidiadau yn y gofynion o ran amlderau, amseriadau neu brisiau teithio uchaf i ddyddiadau neu amseroedd penodol yn ystod y flwyddyn.

Gwrthwynebu canlyniad adolygiad25

1

Caiff gofynion diwygiedig o ran amlderau, amseriadau neu brisiau teithio uchaf (gan gynnwys unrhyw ddiwygiad mewn fformiwla fel a ddisgrifir yn rheoliad 20(1)) ddod i rym, yn unig, os nad oes gwrthwynebiadau derbyniadwy i'r gofynion diwygiedig gan weithredwyr cyfranogol perthnasol.

2

Os yw gweithredwr cyfranogol perthnasol, ar ôl cael yr hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 24(3), yn dymuno cyflwyno gwrthwynebiad i'r cyfan neu unrhyw ran o ganlyniad yr adolygiad, mae'r gweithdrefnau yn rheoliadau 8 i 15 yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriad at hysbysiad a roddir o dan adran 115(1) o'r Ddeddf yn gyfeiriad at hysbysiad a roddir o dan reoliad 24(3).

Ieuan Wyn JonesY Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynlluniau partneriaeth ansawdd sy'n cynnwys gofynion o ran amlderau, amseriadau a phrisiau teithio uchaf. Cynllun partneriaeth ansawdd yw cynllun a wneir gan awdurdod trafnidiaeth lleol, neu ddau neu ragor o awdurdodau trafnidiaeth lleol, lle mae'r awdurdodau yn darparu cyfleusterau penodol ar y llwybrau a ddefnyddir gan wasanaethau bysiau lleol, tra bo gweithredwyr gwasanaethau bysiau sy'n dymuno defnyddio'r cyfleusterau hynny yn cytuno i ddarparu gwasanaethau o safon benodol. Gwneir y cynlluniau partneriaethau lleol o dan Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008.

Mae Rhan 1 o'r rheoliadau yn gwneud darpariaethau cyffredinol. Mae rheoliad 3 yn pennu bod rhaid, mewn cynllun a wneir gan ddau neu ragor o awdurdodau, dynodi un o'r awdurdodau hynny yn awdurdod arweiniol ar ddibenion y Rheoliadau hyn. Yn y rheoliad hwn hefyd, gosodir dyletswyddau ar awdurdod arweiniol i ymgynghori, a phan fo'n briodol, i weithredu yn unol â sylwadau'r awdurdodau eraill sy'n gwneud y cynllun ar y cyd ag ef. O dan reoliad 4 pan weithredir gwasanaeth bysiau lleol gyda chymhorthdal gan yr awdurdod, a phan fo cytundeb cymhorthdal yn pennu bod y gwasanaeth i'w ddarparu yn unol â safon y bwriedir ei phennu mewn cynllun, ni chaiff y gweithredwyr wrthwynebu cynnwys y safon honno yn y cynllun.

Mae Rhan 2 o'r rheoliadau yn diffinio, at ddibenion adrannau 114(6B) a 122(3)(c) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, y termau “gwrthwynebiad derbyniadwy” a “gweithredwr perthnasol”. Mae'n rhagnodi hefyd y weithdrefn sydd i'w dilyn gan weithredwr sy'n dymuno gwrthwynebu cynnwys gofynion o ran amlderau, amseriadau neu'r prisiau teithio uchaf mewn cynllun. Er mwyn bod yn dderbyniadwy, rhaid i wrthwynebiad gael ei gyflwyno gan weithredwr perthnasol yn unol â'r weithdrefn ragnodedig, a rhai'r i'r gwrthwynebiad fodloni'r naill neu'r llall neu'r ddwy o'r seiliau a bennir yn rheoliad 7(3). Y seiliau yw naill ai na fyddai'n ymarferol, neu na fyddai'n fasnachol hyfyw, i ddarparwyr ddarparu gwasanaethau o'r safon benodedig. Rhaid cyflwyno unrhyw wrthwynebiad i'r awdurdod arweiniol i'w benderfynu, ac os yw'r gwrthwynebydd yn anfodlon ar y penderfyniad hwnnw, gellir atgyfeirio'r mater i'w benderfynu gan y comisiynydd traffig.

Mae Rhan 3 o'r rheoliadau yn pennu'r weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn ar gyfer adolygu amlderau, amseriadau a'r prisiau teithio uchaf. Os yw cynllun yn pennu gofynion o ran y prisiau teithio uchaf, rhaid adolygu'r prisiau hynny bob 12 mis o leiaf. Ni phennir unrhyw gyfnod hwyaf rhwng adolygiadau o'r gofynion o ran amlderau ac amseriadau, a mater i'r awdurdodau yw penderfynu pa bryd y dylid cynnal yr adolygiadau hynny. Yn gyffredinol, os oes nifer penodedig o weithredwyr yn gofyn am adolygiad o'r gofynion sy'n gymwys iddynt hwy, mae dyletswydd ar yr awdurdod i gynnal adolygiad o'r fath. Nid yw'r ddyletswydd honno'n gymwys os aeth llai na 12 mis heibio er pan gynhaliwyd yr adolygiad blaenorol o'r gofynion hynny, oni ddigwyddodd newid yn amodau'r farchnad sydd wedi effeithio'n sylweddol ar allu'r gweithredwr i sicrhau cyfradd enillion briodol am weithredu'r gwasanaethau presennol. Ar ôl cynnal adolygiad, caiff gweithredwyr wrthwynebu canlyniad yr adolygiad hwnnw drwy ddilyn y gweithdrefnau yn Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn.

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi, a gellir cael copïau ohono gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Mae'r asesiad wedi ei atodi i'r Memorandwm Esboniadol, sydd ar gael ynghyd â'r offeryn ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (www.opsi.gov.uk).