Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3272 (Cy.288) (C.145)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009

Wedi'i wneud

9 Rhagfyr 2009

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2009.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2010

2.  Mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2010

3.—(1Ac eithrio fel y darperir ym mharagraffau (2) i (5), mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.

(2Tan 1 Ebrill 2011 mae'r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) yn dal yn effeithiol, at y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (4), fel pe baent heb eu diwygio neu heb eu diddymu gan y Mesur.

(3Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw'r adrannau canlynol yn Neddf Llywodraeth Leol 1999—

(a)1(1)(k), (6) a (7) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 10A, 11, 12A, 13A, 15 a 25 o'r Ddeddf honno,

(b)10A(1)(a),

(c)25(2)(d),

(ch)29(1A) i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 10A, 12A, 13A, 15 a 25 o'r Ddeddf honno, a

(d)29(2A) a (4).

(4Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal arolygiadau o sut mae awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru yn cydymffurfio â gofynion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 i'r graddau y mae'r gofynion hynny'n ymwneud â blwyddyn ariannol 2009-2010.

(5Mae adrannau 15 a 29(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn dal yn effeithiol—

(a)(i)tan 1 Ebrill 2011; neu

(ii)hyd nes y daw unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 15 cyn y dyddiad hwnnw i ben; neu

(iii)hyd nes y caiff unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir o dan adran 15 ei dynnu'n ôl cyn y dyddiad hwnnw;

p'un bynnag fydd olaf; neu

(b)pan fo cyfarwyddyd wedi'i ddyroddi o dan adran 15 cyn 1 Ebrill 2011 (y “cyfarwyddyd gwreiddiol”), o ran unrhyw gyfarwyddyd pellach a ddyroddir cyn i'r cyfarwyddyd gwreiddiol ddod i ben i'r un awdurdod gwerth gorau yng Nghymru a oedd yn destun y cyfarwyddyd gwreiddiol, hyd nes y daw'r cyfarwyddyd pellach hwnnw i ben.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ebrill 2011

4.  Mae'r darpariaethau yn y Mesur a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yn dod i rym ar 1 Ebrill 2011.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

9 Rhagfyr 2009

Erthygl 2

ATODLEN 1DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 IONAWR 2010

  • Adran 15(7) er mwyn rhoi ei effaith i'r pŵer i wneud Gorchmynion yn adran 15(7)(b);

  • Adran 37;

  • Adrannau 39 i 44;

  • Adran 46;

  • Adran 51(2) a (3) ac Atodlen 2 a 3; ac

  • Adran 52 ac Atodlen 4 at ddibenion adran 4, is-adran (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Erthygl 3

ATODLEN 2DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2010

  • Adran 2(1);

  • Adran 3;

  • Adran 8(7);

  • Adrannau 9 i 13;

  • Adrannau 15(1), (6) a (7);

  • Adran 17(1)(a) at ddibenion cynnal archwiliad i benderfynu a yw awdurdod gwella yng Nghymru wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(6) a (7);

  • Adran 18;

  • Adran 19(1)(b) at ddibenion cyhoeddi adroddiad yn datgan a yw awdurdod gwella yng Nghymru wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 15(6) a (7);

  • Adran 19(1)(c) i (h), (2), (3) a (4);

  • Adrannau 20 i 24;

  • Adrannau 26 i 30;

  • Adrannau 33 a 34;

  • Adran 51(1) ac Atodlen 1; ac

  • Adran 52 ac Atodlen 4 i'r graddau y mae'n ymwneud â Deddf y Comisiwn Archwilio 1998 a Deddf Llywodraeth Leol 1999.

Erthygl 4

ATODLEN 3DARPARIAETHAU SY'N DOD I RYM AR 1 EBRILL 2011

  • Adran 14;

  • Adran 15(2), (3), (4) a (5);

  • Adran 17;

  • Adran 19(1)(a);

  • Adran 19(1)(b); ac

  • Adran 24(2)(a).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r ail orchymyn cychwyn sydd wedi'i wneud gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Ionawr 2010 y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn Atodlen 1 o'r Gorchymyn..

Mae erthygl 3(1) o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2010 y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn. Mae erthygl 3(2) i (4) o'r Gorchymyn yn arbed effaith darpariaethau penodol yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 ( “Deddf 1999”) er mwyn galluogi Archwilydd Cyffredinol Cymru i gynnal arolygiadau o sut mae awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru yn cydymffurfio â gofynion y Rhan honno o Ddeddf 1999. Mae erthygl 3(5) yn arbed effaith adrannau 15 a 29(4) o Ddeddf 1999 at ddibenion unrhyw gyfarwyddiadau a ddyroddir o dan adran 15 o Ddeddf 1999. Bydd y darpariaethau hynny'n parhau mewn grym tan 1 Ebrill 2011 neu nes bod y cyfarwyddiadau a ddyroddir cyn y dyddiad hwnnw wedi'u tynnu'n ôl neu wedi dod i ben, p'un bynnag fydd olaf. Mae erthygl 3(5) hefyd yn arbed effaith adrannau 15 a 29(4) at ddibenion dyroddi cyfarwyddyd pellach o dan adran 15 ar ôl 1 Ebrill 2011, ond cyn i unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir cyn y dyddiad hwnnw ddod i ben.

Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2011 y darpariaethau hynny yn y Mesur a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daethpwyd â'r darpariaethau canlynol ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i rym ar 17 Gorffennaf 2009 gan Orchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1) 2009 (2009/1796) (Cy.163) (C.88):

(a)Adran 1;

(b)Adran 2(2) a (3);

(c)Adran 4;

(ch)Adran 5;

(d)Adran 6;

(dd)Adran 7;

(e)Adran 8(1) i (6) yn gynwysedig;

(f)Adran 15(8) a (9);

(ff)Adran 16;

(g)Adran 25;

(ng)Adran 31;

(h)Adran 32;

(i)Adran 35;

(j)Adran 36;

(l)Adran 38;

(ll)Adran 45; ac

(m)Adran 47.