- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 (1) yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)Dileer diffiniad o “gweithrediad a gymeradwywyd”,
(b)Yn y man priodol mewnosoder y diffiniadau canlynol—
“ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd neu gost sefydlu a gymeradwywyd” (“approved operation or approved setting up cost”) yw gweithrediad neu gost sefydlu y mae Gweinidogion Cymru wedi'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ar gyfer cael cymorth ariannol, ac mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval) i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr “cost sefydlu” (“setting up cost”) yw gwariant a dynnir neu sydd i'w dynnu wrth sefydlu ffermwyr ifanc yn unol ag Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1857/2006 ar 15 Rhagfyr 2006 ar gymhwysiad Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad i gymorth gwladwriaethol i fusnesau bach a chanolig sy'n weithgar ym maes cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 70/2001.”(2).
(3) Yn rheoliadau 3(1), 6(1), 7(1)(a), 7(1)(b), 7(2)(a), 7(7), 8(1) 9(1), 9(1)(ch), 9(1)(e), 9(1)(f), 9(1)(ff), 9(1)(h), 9(2)(b) ar ôl “gweithrediad a gymeradwywyd” mewnosoder “neu gost sefydlu a gymeradwywyd”.
(4) Yn rheoliadau 4(1) a 9(2)(a) ar ôl “gweithrediad” mewnosoder “neu gost sefydlu”.
(5) Yn lle rheoliad 4(2), rhodder—
“4—(2) Caiff Gweinidogion Cymru,
(i)ar yr amod eu bod wedi'u bodloni bod gweithrediad y mae'r cais yn ymwneud ag ef yn gymwys i gael cymorth Cymunedol, gymeradwyo'r gweithrediad hwnnw, neu
(ii)gymeradwyo'r gost sefydlu ar gyfer cael cymorth ariannol, a chaniateir rhoi cymeradwyaeth o'r fath yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y caiff Gweinidogion Cymru eu penderfynu.”.
(6) Yn rheoliad 8(1) yn lle “â'r gweithrediad hwnnw” mewnosoder “ â gweithrediad neu gost sefydlu”.
(7) Yn yr Atodlen—
(a)Ym mharagraff 4 disodler y cofnod gan y testun canlynol—
“4. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1120/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu'r cynllun taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Nheitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.”(3);
(b)Ym mharagraff 5 disodler y cofnod gan y testun canlynol—
“5. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1122/2009 dyddiedig 30 Tachwedd 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 o ran trawsgydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli, o dan y cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad hwnnw, yn ogystal â gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran trawsgydymffurfio o dan y cynllun cymorth a ddarperir i'r sector gwin.”(4);
(c)Ym mharagraff 6 disodler y cofnod gan y testun canlynol—
“6. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 dyddiedig 19 Ionawr 2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.”(5).
O.S. 2006/3343 (Cy. 304), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/2900 (Cy. 251).
OJ Rhif 358, 16.12.2006, t. 3.
OJ Rhif 316, 2.12.09, t. 1.
OJ Rhif 316, 2.12.09, t. 65.
OJ Rhif 30, 31.1.09, t. 16.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: