Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3343 (Cy. 304) (“y prif Reoliadau”).
Diben y diwygio yw rhoi pwerau i Weinidogion Cymru o ran Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid i fyd ffermio (“y Cynllun”) a fydd yn agor yn 2010. Bydd y Cynllun yn caniatáu rhoi cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc o'r fath yn unol ag Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1857/2006 ar 15 Rhagfyr 2006 ar gymhwysiad Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad i gymorth gwladwriaethol i fusnesau bach a chanolig sy'n weithgar ym maes cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 70/2001. Rhaid i'r newydd-ddyfodiaid fodloni meini prawf a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar 20 Medi 2005 ar gymorth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Diwygir y prif Reoliadau i ganiatáu i Weinidogion Cymru, o ran y Cynllun, wneud y canlynol: cymeradwyo gwariant ar gyfer cael cymorth ariannol; clymu amodau wrth unrhyw gymeradwyaeth o'r fath; talu cymorth ariannol; gosod yr amgylchiadau y caniateir dirymu cymeradwyaeth o'r gwariant ac y caniateir atal neu adennill unrhyw gymorth ariannol i fuddiolwr odanynt; darparu pwerau mynediad a phwerau archwilio i bersonau awdurdodedig o ran tir neu ddogfennau sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd; ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwyr cymorth ariannol gadw cofnodion perthnasol am gyfnod penodol, rhoi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gwariant a gymeradwywyd a chynorthwyo personau awdurdodedig; ei gwneud yn dramgwydd os bydd buddiolwyr yn gwneud datganiadau anwir, yn fwriadol yn rhwystro person awdurdodedig wrth iddo arfer pwerau'r person hwnnw, methu â chadw cofnodion perthnasol am y cyfnod y mae ei angen, methu â rhoi cymorth i'r person awdurdodedig; ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwr roi ymgymeriad pan fo'n briodol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru'r cyfeiriadau at offerynnau deddfwriaethol Ewropeaidd penodol a restrir yn y prif Reoliadau.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Polisi Cefn Gwlad, Adran Materion Gwledig, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3UR.
