Diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002(1)
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “corff” (“organisation”) ar ôl “corff corfforaethol” ychwaneger “neu gymdeithas anghorfforedig”.
(3) Yn rheoliad 4(2)(b)(i) ar ôl “un o'i swyddogion eraill” ychwaneger “os corff corfforaethol neu swyddog neu aelod o gorff llywodraethu pan fo'r corff yn gymdeithas anghorfforedig yw'r corff hwnnw”.
(4) Ar ddiwedd Atodlen 3 ychwaneger—
“(14) Enw, cyfeiriad cartref a Rhif ffôn pob aelod cyfredol o bwyllgor neu gorff llywodraethu cymdeithas anghorfforedig.”
