- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
9 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
20 Ionawr 2010
Mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd iddynt gan adrannau 79C a 104(4) o Ddeddf Plant 1989.(1)
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 20 Ionawr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “corff” (“organisation”) ar ôl “corff corfforaethol” ychwaneger “neu gymdeithas anghorfforedig”.
(3) Yn rheoliad 4(2)(b)(i) ar ôl “un o'i swyddogion eraill” ychwaneger “os corff corfforaethol neu swyddog neu aelod o gorff llywodraethu pan fo'r corff yn gymdeithas anghorfforedig yw'r corff hwnnw”.
(4) Ar ddiwedd Atodlen 3 ychwaneger—
“(14) Enw, cyfeiriad cartref a Rhif ffôn pob aelod cyfredol o bwyllgor neu gorff llywodraethu cymdeithas anghorfforedig.”
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o “organisation” ar ôl “corporate” ychwaneger “and, in the case of provision of day care only, a body corporate or unincorporated association”.
(3) Dirymir rheoliad 17(1)(e) a (2).
(4) Yn rheoliad 17(1)(d) dileer y geiriau “except where paragraph (2) applies,”.
(5) Yn Atodlen 7, paragraff 2(a), ar ôl “and” ychwaneger “, where the organisation is a body corporate,”;
(6) Yn Atodlen 8, paragraff 5, rhodder “a corporate body” yn lle “an organisation”.
4. Mae Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2009(4) wedi eu dirymu.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
9 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deddf Plant 1989 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2009 a oedd yn cynnwys gwallau drafftio.
Estynnwyd gan Ddeddf Plant 2004 ystyr “organisation” yn Neddf Plant 1989 i gynnwys cymdeithas anghorfforedig. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 ac i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 i roi effaith weinyddol i'r diwygiad hwnnw. Maent hefyd yn diwygio'r atodlen sy'n rhestru'r dogfennau a'r wybodaeth y mae'n ofynnol i geisydd sydd am gael ei gofrestru eu darparu pan fo person wedi ei benodi i fod â gofal am ofal dydd
1989 p.41. Mewnosodwyd adran 79C gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: