2009 Rhif 3174 (Cy.276) (C.141)
Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 48(2) a 49(2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 20091, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Drosiannol) 2009.
2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 20022;
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.
Diwrnodau Penodedig2
1
Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 7 Rhagfyr 2009 —
a
adran 1 (dehongli);
b
adran 4 (llunio cwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) at y diben o wneud y gwaith paratoi angenrheidiol i lunio cwricwlwm lleol yn unol â darpariaethau adran 4 pan ddaw i rym yn llawn ac at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 116A(5) o Ddeddf 2002 a rhoi cyfarwyddiadau o dan adran 116A(6) o Ddeddf 2002;
c
adran 7 (dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol) at y diben o wneud rheoliadau o dan adran 116D(2) o Ddeddf 2002;
ch
adran 9 (penderfyniad pennaeth ysgol ynghylch hawlogaeth) at y diben o wneud rheoliadau o dan adran 116F(3) o Ddeddf 2002;
d
adran 11 (penderfyniad pennaeth ysgol i ddileu hawlogaeth) at y diben o wneud rheoliadau o dan adran 116H(3) o Ddeddf 2002;
dd
adran 12 (cynllunio'r cwricwlwm lleol);
e
adran 13 (cyflawni hawolgaethau'r cwricwlwm lleol: cydweithio);
f
adran 14 (cydweithio: canllawiau a chyfarwyddiadau);
ff
adran 18 (cwricwlwm lleol: cyfarwyddiadau);
g
adran 20 (rheoliadau a gorchmynion: y weithdrefn);
ng
adran 40 (gwasanaethau a ddarperir gan ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach);
h
adran 41 (dyletswyddau cyrff llywodraethu);
i
adran 42 (diwygiadau i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000);
j
adran 43 (y ddogfen llwybr dysgu);
l
adran 44 (llwybrau dysgu: dehongli);
ll
adran 45 (darparu gwybodaeth am y cwricwlwm);
m
adran 47 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau'r Atodlen a bennir ym mharagraff (n);
n
paragraffau 11 i 22 o'r Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
2
Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Ionawr 2010—
a
adran 2 (dyletswydd i weithredu gofynion cyffredinol);
b
adran 3 (y cwricwlwm sylfaenol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru);
c
adran 4 (llunio cwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) yn llawn;
ch
adran 5 (cwricwla lleol: yr Iaith Gymraeg);
d
adran 6 (awdurdodau â mwy nag un cwricwlwm lleol);
dd
adran 7 (dewisiadau disgyblion o gyrsiau cwricwlwm lleol) yn llawn;
e
adran 8 (hawlogaethau disgyblion o ran y cwricwlwm lleol);
f
adran 9 (penderfyniad pennaeth ysgol ynghylch hawlogaeth) yn llawn;
ff
adran 10 (cyflawni hawlogaethau'r cwricwlwm lleol);
g
adran 11 (penderfyniad pennaeth ysgol i ddileu hawlogaeth) yn llawn.
ng
adran 15 (pŵer i ddiwygio meysydd dysgu);
h
adran 16 (cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i blant nad ydynt yn ddisgyblion cofrestredig);
i
adran 17 (cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i blant sy'n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig);
j
adran 19 (pwerau i newid neu ddileu gofynion ar gyfer y pedwerydd cyfnod allweddol).
Darpariaeth drosiannol3
Er bod adran 5 o'r Mesur yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010 nid yw'r gofyniad ar awdurdod addysg lleol i ddarparu adroddiad o dan adran 116B o Ddeddf 2002 yn gymwys mewn perthynas â diwedd y flwyddyn academaidd 2009 i 2010.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)