Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3161 (Cy.275)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009

Gwnaed

2 Rhagfyr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

1 Ionawr 2010

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2010.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006

2.—(1Mae Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 10(8), yn lle'r gair “Rhaid”, rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (8A), rhaid”.

(3Ar ôl paragraff (8) o reoliad 10 mewnosoder—

(8A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu'n unol â pharagraff (8) y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth pan fo'r swydd wag honno mewn ysgol a enwir mewn cynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998 fel un y caiff disgyblion sydd mewn ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu (“yr ysgol newydd”) ac—

(a)bod person a gyflogir yn yr ysgol newydd neu yn yr ysgol sydd i'w therfynu wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth; neu

(b)nad oes unrhyw berson o'r math a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (a), ond bod person yn cael ei gyflogi mewn ysgol yn rhywle arall yn ardal yr awdurdod sydd naill ai i'w therfynu'n unol â chynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998, neu sydd wedi ei henwi mewn cynigion o'r fath fel un y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu a bod y person hwnnw wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth..

(4Yn rheoliad 24(7), yn lle'r gair “Rhaid”, rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (7A), rhaid”.

(5Ar ôl paragraff (7) o reoliad 24 mewnosoder—

(7A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu'n unol â pharagraff (7) y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth pan fo'r swydd wag honno mewn ysgol a enwir mewn cynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998 fel un y caiff disgyblion sydd mewn ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu (“yr ysgol newydd”) ac—

(a) bod person a gyflogir yn yr ysgol newydd neu yn yr ysgol sydd i'w therfynu wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth; neu

(b)nad oes unrhyw berson o'r math a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (a), ond bod person yn cael ei gyflogi mewn ysgol yn rhywle arall yn ardal yr awdurdod sydd naill ai i'w therfynu'n unol â chynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998, neu sydd wedi ei henwi mewn cynigion o'r fath fel un y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu a bod y person hwnnw wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth..

3.  Yn rheoliad 34—

(a)yn is-baragraff (a) o baragraff (5), ar ôl y geiriau “ailhysbysebu'r swydd wag” mewnosoder y geiriau “, neu pan na fo eisoes wedi ei hysbysebu yn rhinwedd rheoliad 24(7A), caiff ei hysbysebu”;

(b)yn is-baragraff (b) o baragraff (5), ar ôl y geiriau “p'un a fydd yn” mewnosoder y geiriau “hysbysebu neu'n”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

2 Rhagfyr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”).

Mae rheoliad 10(8) o Reoliadau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, o ran ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ac ysgolion meithrin, hysbysebu swydd wag i bennaeth a dirprwy bennaeth. Mae rheoliad 24(7) o Reoliadau 2006 yn gosod yr un gofyniad ar gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, o ran ysgolion sefydledig, ysgolion arbennig sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir.

Mae rheoliadau 2(3) a 2(5) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ddyletswydd yn rheoliadau 10(8) a 24(7) yn ôl eu trefn o Reoliadau 2006 er mwyn caniatáu i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gael disgresiwn i beidio â hysbysebu swydd wag i bennaeth a dirprwy bennaeth os caiff amodau penodol eu bodloni. Rhaid i'r swydd wag fod mewn ysgol a enwir mewn cynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) fel un y caiff disgyblion sydd mewn ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu.

(1)

2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gweler adran 212 i gael y diffiniad o “regulations”.

(2)

O.S. 2006/873 (Cy.81), fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)), Rheoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.206)) a Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/2708 (Cy.226)).