- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
2 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
1 Ionawr 2010
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 35(4) a (5), 36(4) a (5) a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10(8), yn lle'r gair “Rhaid”, rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (8A), rhaid”.
(3) Ar ôl paragraff (8) o reoliad 10 mewnosoder—
“(8A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu'n unol â pharagraff (8) y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth pan fo'r swydd wag honno mewn ysgol a enwir mewn cynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998 fel un y caiff disgyblion sydd mewn ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu (“yr ysgol newydd”) ac—
(a)bod person a gyflogir yn yr ysgol newydd neu yn yr ysgol sydd i'w therfynu wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth; neu
(b)nad oes unrhyw berson o'r math a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (a), ond bod person yn cael ei gyflogi mewn ysgol yn rhywle arall yn ardal yr awdurdod sydd naill ai i'w therfynu'n unol â chynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998, neu sydd wedi ei henwi mewn cynigion o'r fath fel un y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu a bod y person hwnnw wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth.”.
(4) Yn rheoliad 24(7), yn lle'r gair “Rhaid”, rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (7A), rhaid”.
(5) Ar ôl paragraff (7) o reoliad 24 mewnosoder—
“(7A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu peidio â hysbysebu'n unol â pharagraff (7) y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth pan fo'r swydd wag honno mewn ysgol a enwir mewn cynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998 fel un y caiff disgyblion sydd mewn ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu (“yr ysgol newydd”) ac—
(a) bod person a gyflogir yn yr ysgol newydd neu yn yr ysgol sydd i'w therfynu wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth; neu
(b)nad oes unrhyw berson o'r math a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (a), ond bod person yn cael ei gyflogi mewn ysgol yn rhywle arall yn ardal yr awdurdod sydd naill ai i'w therfynu'n unol â chynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf 1998, neu sydd wedi ei henwi mewn cynigion o'r fath fel un y caiff disgyblion yn yr ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu a bod y person hwnnw wedi mynegi ei ddymuniad mewn ysgrifen i'r corff llywodraethu i wneud cais am y swydd wag i bennaeth neu ddirprwy bennaeth.”.
3. Yn rheoliad 34—
(a)yn is-baragraff (a) o baragraff (5), ar ôl y geiriau “ailhysbysebu'r swydd wag” mewnosoder y geiriau “, neu pan na fo eisoes wedi ei hysbysebu yn rhinwedd rheoliad 24(7A), caiff ei hysbysebu”;
(b)yn is-baragraff (b) o baragraff (5), ar ôl y geiriau “p'un a fydd yn” mewnosoder y geiriau “hysbysebu neu'n”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”).
Mae rheoliad 10(8) o Reoliadau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, o ran ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ac ysgolion meithrin, hysbysebu swydd wag i bennaeth a dirprwy bennaeth. Mae rheoliad 24(7) o Reoliadau 2006 yn gosod yr un gofyniad ar gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, o ran ysgolion sefydledig, ysgolion arbennig sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir.
Mae rheoliadau 2(3) a 2(5) o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ddyletswydd yn rheoliadau 10(8) a 24(7) yn ôl eu trefn o Reoliadau 2006 er mwyn caniatáu i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gael disgresiwn i beidio â hysbysebu swydd wag i bennaeth a dirprwy bennaeth os caiff amodau penodol eu bodloni. Rhaid i'r swydd wag fod mewn ysgol a enwir mewn cynigion a gyhoeddir o dan adrannau 29 i 32 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) fel un y caiff disgyblion sydd mewn ysgol sydd i'w therfynu ei mynychu.
2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gweler adran 212 i gael y diffiniad o “regulations”.
O.S. 2006/873 (Cy.81), fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)), Rheoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.206)) a Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/2708 (Cy.226)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: