xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3147 (Cy.274)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed Rhagfyr

30 Tachwedd 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru Rhagfyr

2 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 60, 140(4) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992

2.—(1Diwygier Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2) fel a ganlyn parthed blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2010.

(2Yn lle Atodlen 4, rhoddir yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

30 Tachwedd 2009

Rheoliad 2

YR ATODLEN

SCHEDULE 4ADULT POPULATION FIGURES

Billing authority areaPrescribed figure
Blaenau Gwent54,106
Bridgend105,734
Caerphilly133,407
Carmarthenshire142,757
Cardiff257,295
Ceredigion64,378
Conwy89,672
Denbighshire77,402
Flintshire118,412
Gwynedd94,009
Isle of Anglesey54,831
Merthyr Tydfil43,312
Monmouthshire69,544
Neath Port Talbot108,821
Newport107,931
Pembrokeshire93,178
Powys105,487
Rhondda Cynon Taf183,191
Swansea183,388
Torfaen71,054
Vale of Glamorgan (The)96,769
Wrexham104,557

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mae'n ofynnol i awdurdodau bilio (yng Nghymru, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Weinidogion Cymru. Mae Rheoliadau 1992 yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo'r cyfraniadau hynny ar gyfer awdurdodau bilio Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi Atodlen 4 newydd yn lle'r un bresennol (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).

(1)

1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.