xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2Y GOFYNION O RAN CYMHWYSTRA

RHAN 2Y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer categorïau penodol o swyddog-aelodau

Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol

2.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n gyfarwyddwr meddygol yn rheoliad 3(2)(b), rhaid i berson fod wedi ei restru yng Nghofrestr Ymarferwyr Cyffredinol(1) neu yng Nghofrestr Arbenigwyr(2) y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Nyrs-gyfarwyddwr Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol

3.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n nyrs-gyfarwyddwr yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(3).

(1)

Cedwir y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 10 o Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).

(2)

Cedwir y Gofrestr Arbenigwyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 13 o Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).

(3)

Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cadw cofrestr yn unol ag Erthygl 5 o Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2002 (O.S. 2002/253).