xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 5(1), (2) a (3)
1.—(1) Mae'r Rhan hon o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra person i gael ei benodi'n gadeirydd a'n swyddog-aelod y cyd-bwyllgor.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod os yw—
(a)yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw wedi ei hatal ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;
(b)yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr;
(c)wedi ei ddiswyddo, ac eithrio oherwydd anghyflogaeth, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu
(ch)os yw ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd, wedi ei therfynu am reswm ac eithrio anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi wedi dod i ben.
(3) At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y bydd y cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais, neu'r dyddiad y rhoddir y gorau i'r naill neu'r llall, neu'r dyddiad y mae'r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu'r dyddiad y mae'r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.
(5) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(b)—
(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar ddyddiad y diddymiad;
(b)os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar ddyddiad y rhyddhau;
(c)os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar y dyddiad y caiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac
(ch)ar ôl gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person yn dod yn gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu'r trefniant.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff, ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra'n dod i ben.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.
(8) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2) (ch), daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad terfynu'r aelodaeth neu derfyn unrhyw gyfnod hirach a bennwyd gan y corff a derfynodd yr aelodaeth, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt mewn ysgrifen gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.
2. I fod yn gymwys i gael ei benodi'n gyfarwyddwr meddygol yn rheoliad 3(2)(b), rhaid i berson fod wedi ei restru yng Nghofrestr Ymarferwyr Cyffredinol(1) neu yng Nghofrestr Arbenigwyr(2) y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
3. I fod yn gymwys i gael ei benodi'n nyrs-gyfarwyddwr yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(3).
Cedwir y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 10 o Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).
Cedwir y Gofrestr Arbenigwyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 13 o Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).
Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cadw cofrestr yn unol ag Erthygl 5 o Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2002 (O.S. 2002/253).