Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (“y cyd-bwyllgor”) gan gynnwys ei weithdrefnau a'i drefniadau gweinyddol. Mae Cyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a wnaed ar 1 Hydref 2009 yn darparu y bydd y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn gweithio ar y cyd i arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio a sicrhau gwasanaethau arbenigol a thrydyddol ac er mwyn arfer y swyddogaethau hynny ar y cyd, bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn sefydlu'r cyd-bwyllgor cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl 1 Hydref 2009.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cyfansoddiad ac aelodaeth y cyd-bwyllgor (rheoliad 3);

(b)penodi i'r cyd-bwyllgor gadeirydd, swyddog-aelodau, is-gadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion (rheoliad 4);

(c)y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer aelodau o'r cyd-bwyllgor (rheoliad 5 ac Atodlen 2); ac

(ch)deiliadaeth swydd yr aelodau o'r cyd-bwyllgor, terfynu penodiad yr aelodau hynny a'u hatal dros dro (rheoliadau 6 i 11).

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â chyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gan gynnwys pwerau'r is-gadeirydd (rheoliadau 12 a 13).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.