(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (“y cyd-bwyllgor”) gan gynnwys ei weithdrefnau a'i drefniadau gweinyddol. Mae Cyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a wnaed ar 1 Hydref 2009 yn darparu y bydd y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn gweithio ar y cyd i arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio a sicrhau gwasanaethau arbenigol a thrydyddol ac er mwyn arfer y swyddogaethau hynny ar y cyd, bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn sefydlu'r cyd-bwyllgor cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl 1 Hydref 2009.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer—

a

cyfansoddiad ac aelodaeth y cyd-bwyllgor (rheoliad 3);

b

penodi i'r cyd-bwyllgor gadeirydd, swyddog-aelodau, is-gadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion (rheoliad 4);

c

y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer aelodau o'r cyd-bwyllgor (rheoliad 5 ac Atodlen 2); ac

ch

deiliadaeth swydd yr aelodau o'r cyd-bwyllgor, terfynu penodiad yr aelodau hynny a'u hatal dros dro (rheoliadau 6 i 11).

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â chyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gan gynnwys pwerau'r is-gadeirydd (rheoliadau 12 a 13).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.