Search Legislation

Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3097 (Cy.270)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009

Gwnaed

25 Tachwedd 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Tachwedd 2009

Yn dod i rym

17 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 11, 12(3), 13(2)(c) a (4)(c) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 4 o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2009.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aelod cyswllt” (“associate member”) yw person sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(3);

  • ystyr “aelod nad yw'n swyddog” (“non-officer member”) yw aelod o'r cyd-bwyllgor sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(1)(c);

  • ystyr “aelodau presennol o Fwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion” (“existing non-officer members of a Local Health Board”) yw'r aelodau o Fwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion ac sydd wedi eu penodi yn unol â Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009(2);

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlir yn unol ag adran 11(2) o'r Ddeddf(3);

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol” (“host Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf;

  • ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig, Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;

  • ystyr “y cyd-bwyllgor” (“the joint committee”) yw Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a sefydlwyd yn unol â Chyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a wnaed ar 1 Hydref 2009;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “prif weithredwyr” (“chief executives”) yw prif weithredwr pob Bwrdd Iechyd Lleol; ac

  • ystyr “swyddog-aelod” (“officer member”) yw aelod o'r cyd-bwyllgor sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2).

RHAN 2Aelodaeth o'r cyd-bwyllgor

Aelodaeth o'r cyd-bwyllgor

3.—(1Mae aelodau o'r cydbwyllgor yn cynnwys y prif weithredwyr ynghyd â'r canlynol—

(a)cadeirydd;

(b)is-gadeirydd a benodir gan y cyd-bwyllgor o blith aelodau Bwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion;

(c)dau aelod nad ydynt yn swyddogion ac a benodir gan y cyd-bwyllgor o blith aelodau presennol Bwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion; ac

(ch)swyddog-aelodau a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.

(2Mae'r swyddog-aelodau'n cynnwys—

(a)cyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol;

(b)cyfarwyddwr meddygol gwasanaethau arbenigol a thrydyddol;

(c)cyfarwyddwr cyllid gwasanaethau arbenigol a thrydyddol; ac

(ch)nyrs-gyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol.

(3Yn ychwanegol, bydd tri aelod cyswllt, sef Prif Weithredwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Penodi'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r swyddog-aelodau

4.—(1Penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru.

(2Penodir yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion gan y cyd-bwyllgor.

(3Penodir y swyddog-aelodau gan y cyd-bwyllgor.

(4Rhaid i'r penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) fod yn unol â'r darpariaethau yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

(5Pan fo'r cyd-bwyllgor yn penodi'r is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn unol â pharagraff (2) a'r swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (3), rhaid i'r penodiadau fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy'n ymwneud â'r cyd-bwyllgor.

(6Pan fo cadeirydd yn cael ei benodi'n unol â pharagraff (1), rhaid rhoi sylw i'r angen i hyrwyddo amrywiaeth yn y rhychwant o bersonau y caniateir eu penodi.

Y gofynion o ran cymhwystra i fod yn aelodau o'r cyd-bwyllgor

5.—(1Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n gadeirydd y cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a pharhau i gyflawni'r gofynion tra bo'n dal y swydd honno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n swyddog-aelod o'r cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a pharhau i gyflawni'r gofynion tra bo'n dal y swydd honno.

(3Yn ychwanegol at fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, rhaid i swyddog-aelod sy'n gyfarwyddwr meddygol gwasanaethau arbenigol a thrydyddol neu sy'n nyrs-gyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol y cyd-bwyllgor fodloni hefyd y gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Rhan 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

(4Caiff unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 4(2) i fod yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog neu sy'n aelod cyswllt o'r cyd-bwyllgor neu'n brif weithredwr y cyd-bwyllgor ddim ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor cyhyd â'i fod yn parhau i ddal y swydd honno fel y bo'n briodol fel aelod presennol o Fwrdd Iechyd Lleol nad yw'n swyddog neu fel Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol.

Deiliadaeth swydd cadeirydd

6.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor.

(2Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, bydd cadeirydd yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.

(3Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na phedair blynedd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(1).

(5Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd i'r cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.

Deiliadaeth swydd is-gadeirydd a deiliadaeth swydd aelodau nad ydynt yn swyddogion

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor neu'n aelod o'r cyd-bwyllgor nad yw'n swyddog.

(2Caniateir i is-gadeirydd ac aelod nad yw'n swyddog gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 5(4) a pharagraff (4), caniateir i is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(2).

(4Ni chaiff person ddal swydd fel is-gadeirydd y cyd-bwyllgor neu fel aelod o'r cyd-bwyllgor nad yw'n swyddog am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.

Terfynu penodiad cadeirydd

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru symud cadeirydd o'i swydd ar unwaith os byddant yn penderfynu—

(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; neu

(b)nad yw'n ffafriol i reoli da ar y cyd-bwyllgor,

i'r cadeirydd hwnnw barhau i ddal y swydd honno.

(2Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd.

(3Rhaid i gadeirydd a benodwyd hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

(4Os yw cadeirydd a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni —

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd y cadeirydd yn gallu bod yn bresennol yn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd Gweinidogion Cymru yn credu sy'n rhesymol.

(5Caiff cadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru a phob Bwrdd Iechyd Lleol ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.

Atal cadeirydd dros dro

9.—(1Cyn penderfynu a ddylid symud cadeirydd o swydd o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.

(2Pan fo cadeirydd wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cadeirydd hwnnw a phob Bwrdd Iechyd Lleol ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3Ni chaiff cadeirydd y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau cadeirydd.

Terfynu penodiad swyddog-aelodau

10.—(1Caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud swyddog-aelod o'i swydd ar unwaith—

(a)os ydynt o'r farn nad yw er budd y cyd-bwyllgor i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal y swydd honno fel aelod; neu

(b)os ydynt, ar ôl cael eu hysbysu gan swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), o'r farn nad yw er budd y cyd-bwyllgor i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal ei swydd.

(2Os yw'r holl swyddog-aelodau (ac eithrio swyddog-aelod sy'n destun hysbysiad o dan y paragraff hwn) o'r farn na ddylai person sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod, cânt hysbysu'r cyd-bwyllgor.

(3Pan fo'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr yn symud person o swydd yn unol â pharagraff (1) neu, ar ôl iddynt gael eu hysbysu gan y swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu na ddylai person barhau i ddal swydd, rhaid iddynt hysbysu pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad.

(4Pan fo person wedi ei benodi i fod yn swyddog-aelod, os daw i sylw'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, unrhyw un o'r aelodau nad ydynt yn swyddogion neu'r prif weithredwyr fod y person hwnnw—

(a)wedi dod yn anghymwys i'w benodi o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn; neu

(b)adeg ei benodi, yn anghymwys i gael ei benodi o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn,

rhaid iddo hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith a rhaid i'r cadeirydd hysbysu'r swyddog-aelod hwnnw, pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen o'r anghymhwystra hwnnw.

(5Rhaid i swyddog-aelod hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'r aelod hwnnw'n anghymwys o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

(6Pan fo hysbysiad wedi ei roi yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud y person hwnnw o'i swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.

(7Os yw'n ymddangos i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr fod swyddog-aelod wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17 o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 (anabledd aelodau oherwydd buddiant ariannol), caniateir iddynt symud y person hwnnw o'i swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.

(8Pan fo swyddog-aelod wedi ei symud o'i swydd yn unol â pharagraffau (6) a (7), rhaid i'r cadeirydd hysbysu pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru o hynny ar unwaith.

(9Os bydd person sy'n swyddog-aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud y person hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni—

(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr yn credu sy'n rhesymol.

Atal swyddog-aelodau dros dro

11.—(1Cyn penderfynu a ddylid symud person o'i swydd yn unol â rheoliad 10, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr, os byddant yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, atal dros dro ddeiliadaeth swydd swyddog-aelod am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.

(2Pan fo swyddog-aelod wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr hysbysu'r aelod hwnnw, pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.

(3Ni chaiff swyddog-aelod y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei hatal dros dro gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r cyd-bwyllgor.

RHAN 3Cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor

Cyfarfodydd a thrafodion

12.—(1Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol gytuno ar y rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor.

(2Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gael eu cynnal yn unol â'r rheolau sefydlog sy'n ymwneud â'r cyd-bwyllgor.

(3Ni chaiff aelodau cyswllt bleidleisio yn unrhyw un o gyfarfodydd neu drafodion y cyd-bwyllgor.

Pwerau is-gadeirydd

13.  Pan fo cadeirydd yr is-bwyllgor—

(a)wedi marw;

(b)wedi peidio â dal ei swydd; neu

(c)yn analluog i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,

caiff yr is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes y bydd y cadeirydd presennol yn ailafael yn ei ddyletswyddau fel cadeirydd, yn ôl y digwydd.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

25 Tachwedd 2009

Rheoliad 4(1) a (4)

ATODLEN 1Y GWEITHDREFNAU AR GYFER PENODI CADEIRYDD

1.  Mae'r Atodlen hon yn gymwys i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor.

2.  Rhaid i Weinidogion Cymru'n sicrhau bod trefniadau priodol wedi eu gwneud ar gyfer penodi'r cadeirydd a bod y trefniadau hynny'n cymryd i ystyriaeth —

(a)yr egwyddorion a osodir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus;

(b)ei bod yn ofynnol i'r penodi fod yn agored a thryloyw;

(c)ei bod yn ofynnol penodi drwy gystadleuaeth deg ac agored; ac

(ch)yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni'r gofynion ynghylch cymhwystra a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Rheoliad 5(1), (2) a (3)

ATODLEN 2Y GOFYNION O RAN CYMHWYSTRA

RHAN 1Y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer cadeirydd a swyddog-aelodau

Gofynion cyffredinol

1.—(1Mae'r Rhan hon o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra person i gael ei benodi'n gadeirydd a'n swyddog-aelod y cyd-bwyllgor.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod os yw—

(a)yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw wedi ei hatal ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;

(b)yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr;

(c)wedi ei ddiswyddo, ac eithrio oherwydd anghyflogaeth, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu

(ch)os yw ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd, wedi ei therfynu am reswm ac eithrio anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi wedi dod i ben.

(3At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y bydd y cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais, neu'r dyddiad y rhoddir y gorau i'r naill neu'r llall, neu'r dyddiad y mae'r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu'r dyddiad y mae'r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.

(4At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.

(5Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(b)—

(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar ddyddiad y diddymiad;

(b)os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar ddyddiad y rhyddhau;

(c)os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar y dyddiad y caiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac

(ch)ar ôl gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person yn dod yn gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu'r trefniant.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff, ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra'n dod i ben.

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.

(8Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2) (ch), daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad terfynu'r aelodaeth neu derfyn unrhyw gyfnod hirach a bennwyd gan y corff a derfynodd yr aelodaeth, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt mewn ysgrifen gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.

RHAN 2Y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer categorïau penodol o swyddog-aelodau

Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol

2.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n gyfarwyddwr meddygol yn rheoliad 3(2)(b), rhaid i berson fod wedi ei restru yng Nghofrestr Ymarferwyr Cyffredinol(4) neu yng Nghofrestr Arbenigwyr(5) y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Nyrs-gyfarwyddwr Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol

3.  I fod yn gymwys i gael ei benodi'n nyrs-gyfarwyddwr yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth(6).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (“y cyd-bwyllgor”) gan gynnwys ei weithdrefnau a'i drefniadau gweinyddol. Mae Cyfarwyddiadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009 a wnaed ar 1 Hydref 2009 yn darparu y bydd y saith Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn gweithio ar y cyd i arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio a sicrhau gwasanaethau arbenigol a thrydyddol ac er mwyn arfer y swyddogaethau hynny ar y cyd, bydd y Byrddau Iechyd Lleol yn sefydlu'r cyd-bwyllgor cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl 1 Hydref 2009.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer—

(a)cyfansoddiad ac aelodaeth y cyd-bwyllgor (rheoliad 3);

(b)penodi i'r cyd-bwyllgor gadeirydd, swyddog-aelodau, is-gadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion (rheoliad 4);

(c)y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer aelodau o'r cyd-bwyllgor (rheoliad 5 ac Atodlen 2); ac

(ch)deiliadaeth swydd yr aelodau o'r cyd-bwyllgor, terfynu penodiad yr aelodau hynny a'u hatal dros dro (rheoliadau 6 i 11).

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â chyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor gan gynnwys pwerau'r is-gadeirydd (rheoliadau 12 a 13).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148 (Cy.18)). Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy.66)).

(4)

Cedwir y Gofrestr Ymarferwyr Cyffredinol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 10 o Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).

(5)

Cedwir y Gofrestr Arbenigwyr gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol o dan erthygl 13 o Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003 (O.S. 2003/1250).

(6)

Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cadw cofrestr yn unol ag Erthygl 5 o Orchymyn Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth 2002 (O.S. 2002/253).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources