- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
CYFRAITH TROSEDD, CYMRU
Gwnaed
16 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Tachwedd 2009
Yn dod i rym
28 Rhagfyr 2009
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 28 Rhagfyr 2009.
2.—(1) Mae'r erthygl hon yn rhagnodi, at ddibenion adran 5(2) o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998, y disgrifiadau o bersonau neu o gyrff y mae'n ofynnol i awdurdodau cyfrifol gydweithredu â hwy wrth iddynt arfer y swyddogaethau a roddwyd gan adran 6 o'r Ddeddf honno.
(2) Y personau neu'r cyrff hynny, o ran pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru, yw—
(a)cyngor cymuned yn yr ardal honno;
(b)Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan Ran 1 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990(3) neu Ran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4);
(c)corff llywodraethu ysgol, o fewn ystyr adran 4(1) o Ddeddf Addysg 1996(5), yn yr ardal honno, a honno'n ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol;
(ch)perchennog ysgol annibynnol, o fewn ystyr adran 463 o'r Ddeddf honno, yn yr ardal honno;
(d)corff llywodraethu sefydliad o fewn y sector addysg bellach, fel y'i diffinnir yn adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(6), yn yr ardal honno;
(dd)Gweinidogion Cymru;
(e)landlord cymdeithasol, sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996(7), sy'n landlord llety yn yr ardal honno.
3.—(1) Mae'r erthygl hon yn rhagnodi, at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998, y disgrifiadau o bersonau neu o gyrff y mae'n rhaid i o leiaf un o bob disgrifiad ohonynt gael ei wahodd gan awdurdodau cyfrifol i gymryd rhan wrth iddynt arfer y swyddogaethau a roddwyd gan adran 6 o'r Ddeddf honno.
(2) Y personau neu'r cyrff hynny, o ran pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru, yw—
(a)Asiantaeth yr Amgylchedd;
(b)sefydliad gwirfoddol sy'n gweithredu yn yr ardal honno a'i amcanion yw rhoi cymorth i bobl ifanc drwy waith ieuenctid neu addysg anffurfiol;
(c)Gwasanaeth Erlyn y Goron;
(ch)Rheolwr Llys yn Llys y Goron;
(d)yr Arglwydd Ganghellor;
(dd)cynrychiolydd Cynlluniau Gwarchod Cymdogaeth yn yr ardal honno;
(e)aelod o Gynllun Cymorth i Ddioddefwyr yn yr ardal honno sy'n gysylltiedig â Chymdeithas Genedlaethol Cynlluniau Cymorth i Ddioddefwyr;
(f)heddlu'r lluoedd fel y'i diffinnir ym mharagraff (3), os oes unrhyw sefydliad milwrol o fewn yr ardal honno;
(ff)heddlu'r Weinyddiaeth Amddiffyn, os oes unrhyw fan y mae adran 2(2) o Ddeddf Heddlu'r Weinyddiaeth Amddiffyn 1987(8) yn gymwys iddi o fewn yr ardal honno;
(g)corff sy'n darparu cludiant i'r ysgol o fewn yr ardal honno;
(ng)corff sy'n darparu neu'n gweithredu trafnidiaeth gyhoeddus o fewn yr ardal honno;
(h)o ran pob un o'r disgrifiadau a ganlyn, corff sy'n hybu buddiannau pobl o'r disgrifiad hwnnw o fewn yr ardal honno, neu sy'n darparu gwasanaethau iddynt—
(i)menywod;
(ii)yr ieuanc, gan gynnwys plant;
(iii)yr henoed;
(iv)y rheini ag anabledd corfforol a'r rheini ag anabledd meddyliol;
(v)y rheini o grwpiau hiliol gwahanol o fewn ystyr adran 3(1) o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976(9);
(vi)gwrywgydwyr;
(vii)preswylwyr;
(i)corff nad yw'n dod o fewn is-baragraff (h) uchod, ac y mae gostwng troseddau ac anhrefn yn yr ardal honno yn un o'i ddibenion;
(j)corff a sefydlwyd at ddibenion crefyddol o fewn yr ardal honno;
(l)cwmni neu bartneriaeth sydd â man busnes o fewn yr ardal honno;
(ll)corff a sefydlwyd i hybu busnesau manwerthu yn yr ardal honno;
(m)undeb llafur, o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992(10);
(n)ymarferydd meddygol cofrestredig—
(i)sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yn yr ardal honno yn unol â threfniadau a wnaed o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006; neu
(ii)sy'n cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal honno yn unol â threfniadau a wnaed o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
(o)corff sy'n cynrychioli ymarferwyr meddygol cofrestredig—
(i)sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol yn yr ardal honno; neu
(ii)sy'n cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol yn yr ardal honno;
(p)corff llywodraethu sefydliad o fewn y sector addysg uwch, fel y'i diffinnir yn adran 91 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn yr ardal honno;
(ph)prif swyddog y gwasanaeth tân ac achub y mae unrhyw ran o'i ardal o fewn yr ardal honno;
(r)Yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.
(3) Ym mharagraff (2)(f) uchod, ystyr “heddlu'r lluoedd” yw Heddlu'r Llynges Frenhinol, Heddlu'r Fyddin Frenhinol, Heddlu'r Awyrlu Brenhinol neu Brofost Milwrol yr Awyrlu Brenhinol.
4. Mae'r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu drwy hyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—
(a)Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) 1998(11);
(b)Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Diwygio) 1998(12);
(c)Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Diwygio) 1999(13); ac
(ch)Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Diwygio) 2000(14).
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
16 Tachwedd 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi disgrifiadau o bersonau neu o gyrff y mae'n ofynnol i awdurdodau cyfrifol (a ddiffinnir yn adran 5(1) o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998) gydweithredu â hwy wrth arfer swyddogaethau llunio a gweithredu strategaethau i ostwng troseddau ac anhrefn a brwydro yn erbyn camddefnyddio cyffuriau o fewn ardaloedd llywodraeth leol (a ddiffinnir yn adran 5(4)(b) o'r Ddeddf honno) yng Nghymru. Mae erthygl 3 yn rhagnodi disgrifiadau o bersonau ac o gyrff y mae'n rhaid gwahodd o leiaf un o bob disgrifiad ohonynt i gymryd rhan wrth arfer y swyddogaethau hynny.
Mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn dirymu, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, y Gorchmynion a bennir ym mharagraffau (a) i (ch).
1998 p.37. Diwygiwyd adran 5(2) gan adran 97(4) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002 (p.30) a pharagraff 13(2) o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Tramgwyddwyr 2007 (Diwygiadau Canlyniadol) 2008 (O.S. 2008/912). Diwygiwyd adran 5(3) gan adran 97(5) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002. Amnewidiwyd adran 6 gan baragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p.48).
Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd gan adran 5(2) a (3) o Ddeddf 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: