- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Gwnaed
2 Tachwedd 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Tachwedd 2009
Yn dod i rym
27 Tachwedd 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac 17(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2009, ac y maent yn dod i rym ar 27 Tachwedd 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009(2) fel a ganlyn.
(2) Yn nhestun Cymraeg rheoliad 2(1), yn lle “Rhif XXX/2008” rhodder “Rhif 124/2009”.
Gwenda Thomas
Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Tachwedd 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2009 (“y Prif Reoliadau”) yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/840 (Cy.73), fel y'i diwygiwyd).
Mae'r Prif Reoliadau, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n pennu'r lefelau uchaf a ganiateir (“LUGau”) o halogion mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5).
Maent yn darparu hefyd ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 124/2009 (OJ Rhif L40, 11.2.2009, t.7) sy'n ymwneud â'r LUGau o ychwanegion penodol at fwyd anifeiliaid y gellir eu cael o dan amgylchiadau penodedig mewn bwyd.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 2(1) o'r Prif Reoliadau, i gywiro gwall argraffyddol yn y testun Cymraeg.
1990 p. 16. Diwygiwyd adrannau 16 a 17 gan Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28), (“Deddf 1999”).
Trosglwyddwyd swyddogaethau, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/1972) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) Ddeddf 1999. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: