2009 Rhif 2864 (Cy.251)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 131 a 210 o Ddeddf Addysg 20021 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Am fod y Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau ac am nad ydynt yn codi pwyntiau o egwyddor newydd nid oedd Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol i ymgynghori ag unrhyw un neu unrhyw rai o'r personau a'r cyrff a restrir yn adran 131(7) o Ddeddf Addysg 2002.

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) (Diwygiad Rhif 2) 2009 ac maent yn dod i rym ar 24 Tachwedd 2009.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio2

1

Mae Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Cymru) 20022 wedi'u diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3(1):

a

yn y diffiniad o “ysgol” (“school”) mewnosoder ar y diwedd “neu ysgol feithrin a gynhelir”;

b

yn y diffiniad o “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) dileer “mewn dim mwy na dwy ysgol”.

3

Yn rheoliad 4(2) ar ôl “mewn dwy ysgol” mewnosoder “neu fwy”, yn lle “perfformiad yn y ddwy ysgol” rhodder “perfformiad ym mhob un o'r ysgolion” ac yn lle “cyfeiriad at y ddwy ysgol” rhodder “cyfeiriad at bob un o'r ysgolion”.

4

Hepgorer rheoliad 4(3) ac yn ei le rhodder—

3

Pan fo awdurdod yn dirprwyo i athro neu athrawes ysgol rai o'r dyletswyddau neu'r holl ddyletswyddau a osodir ar werthuswr fel a ganiateir gan reoliad 36(2), dyletswydd corff llywodraethu a phennaeth yr ysgol yw arfer eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn gyda'r bwriad o sicrhau bod perfformiad yr athro neu'r athrawes ddigyswllt wrth iddo neu wrth iddi gyflawni ei ddyletswyddau neu ei dyletswyddau yn yr ysgol honno ac mewn ysgolion eraill yn cael ei werthuso'n rheolaidd yn unol â'r Rheoliadau hyn.

5

Yn rheoliad 22(4A) mewnosoder “a gynhelir” ar ôl “ysgol feithrin” ac yn lle “nac yn ddiweddarach na” rhodder “a dim hwyrach na”.

6

Yn rheoliad 22(4B) yn lle “reoli” rhodder “werthuso”.

7

Yn rheoliad 38(2) hepgorer “41” ac yn ei le rhodder “43” a hepgorer “caiff y” ac yn ei le rhodder “rhaid i'r”.

8

Yn rheoliad 43(8), hepgorer “(7)” ac yn ei le rhodder “(6)”.

Jane E. HuttY Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwallau drafftio yn Rheoliadau Gwerthuso Athrawon Ysgol (Diwygio) (Cymru) 2009. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud dau ddiwygiad i wneud yn eglur bod athrawon a gyflogir mewn dwy ysgol neu fwy, os cyflogir hwy gan awdurdodau addysg lleol neu gan gyrff llywodraethu ysgolion, i'w gwerthuso ym mhob un o'r ysgolion.