xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 2819 (Cy.245) (C.124)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2009

Gwnaed

16 Hydref 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 28(2) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2009.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008.

Diwrnodau penodedig

2.—(1Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 30 Hydref 2009:

(a)adran 1(4)(j) (y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn) at ddibenion adran 12;

(b)adran 12 (cod ymddygiad wrth deithio);

(c)adran 26 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod;

(ch)yn Atodlen 2 (diddymiadau), diddymu paragraff 4 o Atodlen 10 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(2Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 4 Ionawr 2010:

(a)adran 13 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: disgyblion mewn ysgolion perthnasol);

(b)adran 14 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithio);

(c)adran 17(4) (cydweithredu: gwybodaeth neu gymorth arall).

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

16 Hydref 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 i rym ar 30 Hydref 2009 a 4 Ionawr 2010.

Mae effaith y darpariaethau yn y Mesur sy'n cael eu dwyn i rym ar 30 Hydref 2009 fel a ganlyn:

Mae effaith y darpariaethau yn y Mesur sy'n cael eu dwyn i rym ar 4 Ionawr 2010 fel a ganlyn:

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 wedi eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a gafodd eu gwneud cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethY dyddiad cychwynO.S. Rhif
Adran 1 (ac eithrio is-adran (4)(j))6 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 26 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 31 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 41 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 56 Mawrth 2009 ac 1 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 66 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 71 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 81 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 91 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 106 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 116 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 156 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 166 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 17 yn rhannol6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 181 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 196 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 201 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 216 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 221 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 236 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 246 Mawrth 20092009/371 (Cy.39)
Adran 256 Mawrth 2009 ac 1 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Adran 26 yn rhannol6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Atodlen 16 Mawrth 2009 ac 1 Medi 20092009/371 (Cy.39)
Atodlen 2 yn rhannol6 Mawrth 2009 ac 1 Medi 20092009/371 (Cy.39)

Gweler hefyd adran 28(1) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 10 Chwefror 2009 (deufis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor).