Diwrnodau penodedig
2.—(1) Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 30 Hydref 2009:
(a)adran 1(4)(j) (y prif dermau a ddefnyddir yn y Mesur hwn) at ddibenion adran 12;
(b)adran 12 (cod ymddygiad wrth deithio);
(c)adran 26 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 2 isod;
(ch)yn Atodlen 2 (diddymiadau), diddymu paragraff 4 o Atodlen 10 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
(2) Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 4 Ionawr 2010:
(a)adran 13 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: disgyblion mewn ysgolion perthnasol);
(b)adran 14 (gorfodi cod ymddygiad wrth deithio: tynnu'n ôl drefniadau teithio);
(c)adran 17(4) (cydweithredu: gwybodaeth neu gymorth arall).