RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Benthyciadau at gostau byw sy'n daladwy ar gyfer tri chwarter o'r flwyddyn academaidd51

1

Yn ddarostyngedig i reoliad 53, mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd.

2

Nid yw benthyciad at gostau byw yn daladwy—

a

yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, mewn perthynas â'r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;

b

mewn unrhyw achos arall, mewn perthynas â'r chwarter y mae'r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn Gweinidogion Cymru.