- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13.—(1) Ni chaiff cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.
(2) At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, nid yw sefydliad sy'n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999(1) i'w ystyried yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am ddim rheswm arall ond am ei fod yn cael cronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992(2).
(3) Ymdrinnir â myfyriwr y mae paragraff (4) yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer cymorth at ffioedd.
(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r canlynol—
(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;
(b)myfyriwr anabl—
(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a
(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.
O.S. 1999/2263, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2893.
1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: