Search Legislation

Gorchymyn y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) 2009

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989, Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Canolog) 1989 a Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 o ran Cymru. Mae'n darparu ar gyfer cyflwyno hysbysiadau a gwybodaeth benodol drwy gyfathrebiad electronig ar berson sydd wedi cytuno i dderbyn cyflwyniad electronig.

Mae erthygl 3 yn mewnosod diffiniadau newydd yn rheoliad 1 o'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (“Rheoliadau 1989”).

Mae erthygl 4(2) yn ychwanegu paragraffau newydd i reoliad 2 o Reoliadau 1989.

O dan y paragraff (3) newydd o reoliad 2 caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o dan Ran II (Bilio) neu o dan reoliad 11 (Gorchmynion dyled: camau rhagarweiniol) o Reoliadau 1989 neu unrhyw wybodaeth y mae angen ei chyflenwi pan gyflwynir hysbysiadau galw am dalu yn rhinwedd Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 yn electronig ar berson sydd wedi cytuno i dderbyn dogfennau o'r fath drwy gyflwyniad electronig. Fel arall, os yw'r awdurdod bilio wedi cytuno â'r derbynnydd, caniateir cyhoeddi'r dogfennau hyn ar wefan a chaniateir i'r awdurdod bilio hysbysu'r derbynnydd ei fod wedi gwneud hynny, ac o ble y gellir canfod yr hysbysiad neu'r wybodaeth a sut mae cael atynt.

Mae'r paragraff (4) newydd yn darparu y bernir y bydd hysbysiad o dan Ran II neu o dan reoliad 11 wedi cael ei gyflwyno at ddibenion unrhyw achos cyfreithiol ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl y diwrnod y'i hanfonwyd neu, os cyhoeddwyd ef ar wefan, ar yr ail ddiwrnod busnes ar ôl hysbysu ei gyhoeddi.

Mae'r paragraff (5) newydd yn darparu fod rhaid i'r sawl sy'n cael hysbysiadau neu wybodaeth o'r fath hysbysu'r awdurdod bilio yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn eu cyfeiriad electronig.

Mae'r paragraffau (6) a (7) newydd yn eu trefn yn gwneud darpariaeth i'r derbynnydd dynnu'n ôl ei gytundeb i dderbyn dogfennau o'r fath drwy gyflwyniad electronig neu i gael at ddogfennau o'r fath ar wefan.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Canolog) 1989 o ran Cymru.

Mae erthygl 6 yn mewnosod diffiniadau newydd yn rheoliad 2 ac mae erthygl 7 yn disodli rheoliad 3. Mae'r rheoliad 3(1) newydd yn caniatáu cyflwyno'n electronig hysbysiadau y mae angen i Weinidogion Cymru eu cyflwyno (yn benodol hysbysiadau galw am dalu o dan reoliad 4 a hysbysiadau galw am dalu pellach o dan reoliad 8). Oni fydd trethdalwr yn pennu cyfeiriad ar gyfer cyflwyniad electronig, bydd y trethdalwr hwnnw yn parhau i gael hysbysiadau ar bapur. Mae paragraffau (3) a (4) o'r rheoliad 3 newydd yn darparu fod rhaid i'r rheini sy'n cael hysbysiadau electronig roi gwybod i Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig o unrhyw newid yn eu cyfeiriad electronig ac y caniateir iddynt dynnu'n ôl eu cytundeb i dderbyn cyflwyniad electronig.

Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 mewn modd cyffelyb i Reoliadau 1989 gan erthygl 9 sy'n mewnosod diffiniadau newydd yn rheoliad 1 a chan erthygl 10 sy'n ychwanegu paragraffau (4) i (8) newydd at reoliad 2.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources