Search Legislation

Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 2705 (Cy.224)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009

Gwnaed

4 Hydref 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Hydref 2009

Yn dod i rym

30 Hydref 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), (26)(1)(a) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Gwybodaeth Faethol) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Hydref 2009.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

2.—(1Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(4) wedi'u diwygio'n unol â pharagraffau (2) i (4) a rheoliad 3.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o Gyfarwyddeb 90/496, ar ôl y geiriau “Commission Directive 2003/120/EC” mewnosoder “and Commission Directive 2008/100/EC”; a

(b)ar ôl y diffiniad o “fat” mewnosoder y canlynol—

  • “fibre”, in the context of nutrition labelling, means carbohydrate polymers with three or more monomeric units, which are neither digested nor absorbed in the human small intestine and belong to the following categories:

    • edible carbohydrate polymers naturally occurring in the food as consumed;

    • edible carbohydrate polymers which have been obtained from food raw material by physical, enzymatic or chemical means and which have a beneficial physiological effect demonstrated by generally accepted scientific evidence; or

    • edible synthetic carbohydrate polymers which have a beneficial physiological effect demonstrated by generally accepted scientific evidence;.

(3Yn Atodlen 6, Rhan II—

(a)yn lle'r cofnodion yn Nhabl A (fitaminau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) rhodder y cofnodion a welir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn; a

(b)yn lle'r cofnodion yn Nhabl B (mwynau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) rhodder y cofnodion a welir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

(4Yn Atodlen 7, Rhan I, paragraff 5—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (g), yn lle'r atalnod llawn, rhodder hanner colon; a

(b)ar ôl is-baragraff (g), ychwaneger yr is-baragraffau a ganlyn—

(h)1 gram of fibre is deemed to contribute 8kJ (2 kcal);

(i)1 gram of erythritol is deemed to contribute 0kJ (0kcal)..

Darpariaeth drosiannol

3.  Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), ar ôl paragraff (15) ychwaneger y canlynol fel paragraff (16)—

(16) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(b), it is a defence to prove that—

(a)the food concerned—

(i)if sold, was sold before 31 October 2012, and

(ii)if advertised for sale, was advertised for sale before 31 October 2012 but not on or after that date; and

(b)the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2 of the Food Labelling (Nutrition Information) (Wales) Regulations 2009(5) had not been in operation when the food was sold..

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

4 Hydref 2009

Rheoliad 2(3)(a)

ATODLEN 1

Tabl o'r cofnodion i'w rhoi yn lle'r cofnodion presennol yn Nhabl A (fitaminau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) yn Atodlen 6, Rhan II, i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

Column 1Column 2
VitaminRecommended Daily Allowance
Vitamin A800 μg
Vitamin D5 μg
Vitamin E12 mg
Vitamin K75 μg
Vitamin C80 mg
Thiamin1.1 mg
Riboflavin1.4 mg
Niacin16 mg
Vitamin B61.4 mg
Folic acid200 μg
Vitamin B122.5 μg
Biotin50 μg
Pantothenic acid6 mg

Rheoliad 2(3)(b)

ATODLEN 2

Tabl o'r cofnodion i'w rhoi yn lle'r cofnodion presennol yn Nhabl B (mwynau y caniateir i honiadau gael eu gwneud amdanynt) yn Atodlen 6, Rhan II, i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

Column 1Column 2
VitaminRecommended Daily Allowance
Potassium200 mg
Chloride800 mg
Calcium800 mg
Phosphorus700 mg
Magnesium375 mg
Iron14 mg
Zinc10 mg
Copper1 mg
Manganese2 mg
Fluoride3.5 mg
Selenium55 μg
Chromium40 μg
Molybdenum50 μg
Iodine150 μg

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (“y prif Reoliadau”) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r prif Reoliadau yn rhychwantu Prydain Fawr gyfan.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/100/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC am labeli maeth ar gyfer deunyddiau bwyd o ran lwfansau dyddiol a argymhellir, ffactorau trosi ynni a diffiniadau (OJ Rhif L285, 29.10.2008, t.9) (“Cyfarwyddeb y Comisiwn”).

3.  Mae'r Rheoliadau yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn drwy ddiwygio'r prif Reoliadau yn y fath fodd ag i wneud y canlynol—

(a)cynnwys diffiniad o “fibre” (rheoliad 2(2));

(b)diwygio'r rhestrau o fitaminau a mwynau y caniateir gwneud honiadau maeth amdanynt, o ran y sylweddau sydd wedi'u cynnwys a'r lwfansau dyddiol a argymhellir (rheoliad 2(3) ac Atodlenni 1 a 2);

(c)darparu ffactorau trosi ar gyfer cyfrifo gwerth ynni ffibr ac erythritol (rheoliad 2(4)); ac

(ch)darparu ar gyfer cyfnod trosiannol i gyflwyno ynddo y darpariaethau newydd fesul cam (rheoliad 3).

4.  Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes ar gael oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn ôl eu trefn o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) ac Atodlen 11, paragraff 30 iddi.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, p.3).

(4)

O.S. 1996/1499, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2008/1268 (Cy.128). Diwygiwyd y diffiniad o Gyfarwyddeb 90/496 a pharagraff 5 Rhan I o Atodlen 7 ill dau o'r blaen o ran Cymru gan O.S. 2004/2558 (Cy.229).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources