- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gan y person perthnasol alluedd o ran y cwestiwn pwy ddylai ei gynrychiolydd fod.
(2) Caiff y person perthnasol ddethol person ar gyfer ei benodi i fod yn gynrychiolydd iddo.
(3) Os yw'r person perthnasol yn cael dethol person yn unol â pharagraff (2) ond nad yw'n gwneud hynny, mae rheoliad 10 yn gymwys.
8.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad oes gan y person perthnasol alluedd o ran y cwestiwn pwy ddylai ei gynrychiolydd fod.
(2) Pan fo'r canlynol yn wir—
(a)bod gan y person perthnasol roddai neu ddirprwy(1), a
(b)ei bod o fewn awdurdod y rhoddai neu'r dirprwy i wneud hynny,
caiff y rhoddai neu'r dirprwy ddethol person i'w benodi yn gynrychiolydd.
(3) Os yw rhoddai neu ddirprwy yn cael dethol person yn unol â pharagraff (2) ond nad yw'n gwneud hynny, mae rheoliad 10 yn gymwys.
9.—(1) Rhaid i berson a ddetholir yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2) gael ei gymeradwyo gan yr asesydd lles pennaf neu gan y corff goruchwylio.
(2) Os nad yw'r asesydd lles pennaf neu'r corff goruchwylio yn cymeradwyo person a ddetholir—
(a)caiff gymeradwyo person arall a ddetholir yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2); neu
(b)caiff yr asesydd lles pennaf ddethol person yn unol â rheoliad 10.
10.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys——
(a)pan nad oes person wedi ei ddethol i'w benodi yn gynrychiolydd yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2), neu
(b)pan fo'r asesydd lles pennaf neu'r corff goruchwylio heb gymeradwyo person yn unol â rheoliad 9.
(2) Caiff yr asesydd lles pennaf ddethol person i fod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.
(3) Os nad yw'r asesydd lles pennaf yn gallu dethol person i'w benodi'n gynrychiolydd, mae rheoliad 11 yn gymwys.
11.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan nad oes person wedi'i ddethol yn unol â rheoliadau 7(2), 8(2) neu 10(2).
(2) Rhaid i'r corff goruchwylio ddethol person i'w benodi yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.
(3) Os bydd person a ddetholir yn unol â pharagraff (2) yn gweithredu mewn swyddogaeth broffesiynol
(a)rhaid i'r person hwnnw fod â'r hyfforddiant a'r profiad priodol, a
(b)rhaid bod y corff goruchwylio wedi'i fodloni bod y canlynol ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw—
(i)tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(2); neu
(ii)os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol ati yn un a ragnodir o dan is-adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno.
(4) At ddibenion paragraff (3), person sy'n gweithredu mewn swyddogaeth broffesiynol yw person a gafodd ei ddethol gan yr asesydd lles pennaf neu gan y corff goruchwylio a hwnnw'n berson nad yw'n aelod o'r teulu, yn gyfaill nac yn ofalwr i'r person perthnasol.
Caiff “deputy” ei ddiffinio yn adran 64(1) o'r Ddeddf.
1997 p.50. Mae adrannau 113A i 113D wedi'u mewnosod gan adran 163 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p.14).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: