- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Mae dethol person i'w benodi yn gynrychiolydd i ddigwydd yn unol â Rhan 4.
(2) Mae penodi person yn gynrychiolydd i ddigwydd yn unol â Rhan 5.
5. Rhaid i'r weithdrefn ar gyfer penodi cynrychiolydd ddechrau—
(a)cyn gynted ag y bydd asesydd lles pennaf wedi ei ddethol gan y corff goruchwylio(1) at ddibenion cais am awdurdodiad safonol(2); neu
(b)cyn gynted ag y bo penodiad cynrychiolydd person perthnasol yn terfynu, neu i'w derfynu yn unol â rheoliad 14, a bod y person perthnasol yn parhau i fod yn ddarostyngedig i awdurdodiad safonol.
6.—(1) Mae person yn gymwys i'w benodi yn gynrychiolydd—
(a)os yw'n 18 oed neu drosodd;
(b)os yw'n abl i gadw mewn cysylltiad â'r person perthnasol(3);
(c)onid yw wedi'i rwystro gan afiechyd rhag cyflawni swyddogaeth cynrychiolydd;
(ch)os yw'n fodlon bod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol;
(d)os nad oes ganddo fuddiant ariannol yn y cartref gofal(4) neu yn yr ysbyty annibynnol(5) lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw;
(dd)onid yw'n berthynas i berson sydd â buddiant ariannol yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw;
(e)onid yw'n darparu gwasanaethau i'r cartref gofal lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw, neu onid yw'n cael ei gyflogi i weithio yno;
(f)onid yw'n cael ei gyflogi i weithio yn yr ysbyty(6) lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw, mewn swyddogaeth sy'n gysylltiedig ag achos y person perthnasol, neu a allai fod yn gysylltiedig â'r achos hwnnw; ac
(ff)onid yw'n cael ei gyflogi i weithio ar gorff goruchwylio'r person perthnasol mewn swyddogaeth sy'n gysylltiedig ag achos y person perthnasol, neu a allai fod yn gysylltiedig â'r achos hwnnw.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “perthynas” (“relative”) yw:
(a)tad, mam, llystad, llysfam, mab, merch, llysfab, llysferch, nain (mam-gu), taid (tad-cu), ŵyr neu wyres y person hwnnw, neu o briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw; neu
(b)brawd, chwaer, ewythr, modryb, nith, nai, neu gefnder cyfan (p'un ai o waed cyfan neu hanner gwaed neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) y person hwnnw neu briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)mae “priod” (“spouse”) neu “partner sifil” (“civil partner”) yn cynnwys person nad yw'n briod â pherson nac mewn partneriaeth sifil â pherson ond sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai mewn perthynas o'r fath, a
(b)mae gan berson fuddiant ariannol mewn cartref gofal neu mewn ysbyty annibynnol os yw'r person hwnnw'n bartner, yn gyfarwyddwr, yn ddeiliad swydd arall neu'n brif gyfranddaliwr y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol sydd wedi gwneud cais am awdurdodiad safonol.
(c)ystyr “prif gyfranddaliwr” (“major shareholder”) yw—
(i)unrhyw berson sy'n dal degfed ran neu fwy o'r cyfranddaliadau sydd wedi eu dyroddi yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol, os yw'r cartref gofal neu'r ysbyty yn gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, a
(ii)ym mhob achos arall, unrhyw un o berchnogion y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol.
Penderfynir p'un yw'r corff goruchwylio yn unol â pharagraffau 128, 180, 181 a 182 o Atodlen A1 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (“y Ddeddf”).
Caiff “standard authorisation” ei ddiffinio ym mharagraff 8 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.
Caiff “relevant person” ei ddiffinio ym mharagraff 7 o Atodlen A1 i'r Ddeddf.
Caiff “care home” ei ddiffinio ym mharagraff 178 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.
Diffinnir “independent hospital” ym mharagraff 175(3) o Atodlen A1 i'r Ddeddf.
Caiff “ysbyty” ei ddiffinio ym mharagraff 175(1) o Atodlen A1 i'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: