RHAN 1

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Penodi Cynrychiolydd Person Perthnasol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “asesydd lles pennaf” (“best interests assessor”) yw person a ddetholwyd i wneud asesiad lles pennaf o dan baragraff 38 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;

  • ystyr “rhoddai” (“donee”) yw person y rhoddwyd iddo atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus gofrestredig gan y person perthnasol.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn mae “corff goruchwylio” (“supervisory body”) yn cynnwys Bwrdd Iechyd Lleol sy'n arfer swyddogaethau goruchwylio yn unol â rheoliad 3.

RHAN 2Swyddogaethau goruchwylio

Swyddogaethau goruchwylio sy'n arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol3

1

Bydd pob Bwrdd Iechyd Lleol yn arfer swyddogaethau goruchwylio—

a

mewn perthynas ag unrhyw berson sydd â lle ganddo mewn ysbyty neu sy'n debygol o gael lle mewn ysbyty (p'un a ydynt yn ysbytai'r GIG neu'n ysbytai annibynnol) yn ei ardal er mwyn derbyn gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol3; a

b

os bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn comisiynu gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol i berson mewn ysbyty (p'un ai ysbyty'r GIG neu ysbyty annibynnol) yn Lloegr mewn perthynas â'r ysbyty hwnnw.

2

Os bydd Gweinidogion Cymru yn comisiynu gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol i unrhyw berson sydd â lle ganddo mewn ysbyty neu sy'n debygol o gael lle mewn ysbyty (p'un ai ysbyty'r GIG neu ysbyty annibynnol) yn Lloegr y corff goruchwylio fydd y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal y mae'r person fel arfer yn byw ynddi.

3

Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru, mae modd i swyddogaethau goruchwylio sy'n arferadwy gan Fwrdd Iechyd Lleol, drwy drefniant â'r Bwrdd hwnnw, ac yn ddarostyngedig i'r fath gyfyngiadau ac amodau ag y tybia'r Bwrdd hwnnw eu bod yn briodol, gael eu harfer—

a

ar ran y Bwrdd hwnnw gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r Bwrdd;

b

ar y cyd â Bwrdd Iechyd Lleol arall;

4

Mae i “swyddogaethau goruchwylio” yr un ystyr ag sydd i “supervisory functions” ym mharagraff 165(3) o Atodlen A1 i'r Ddeddf.

RHAN 3Penodi — cyffredinol

Y weithdrefn benodi4

1

Mae dethol person i'w benodi yn gynrychiolydd i ddigwydd yn unol â Rhan 4.

2

Mae penodi person yn gynrychiolydd i ddigwydd yn unol â Rhan 5.

Cychwyn y weithdrefn benodi5

Rhaid i'r weithdrefn ar gyfer penodi cynrychiolydd ddechrau—

a

cyn gynted ag y bydd asesydd lles pennaf wedi ei ddethol gan y corff goruchwylio4 at ddibenion cais am awdurdodiad safonol5; neu

b

cyn gynted ag y bo penodiad cynrychiolydd person perthnasol yn terfynu, neu i'w derfynu yn unol â rheoliad 14, a bod y person perthnasol yn parhau i fod yn ddarostyngedig i awdurdodiad safonol.

Cymhwystra person i fod yn gynrychiolydd6

1

Mae person yn gymwys i'w benodi yn gynrychiolydd—

a

os yw'n 18 oed neu drosodd;

b

os yw'n abl i gadw mewn cysylltiad â'r person perthnasol6;

c

onid yw wedi'i rwystro gan afiechyd rhag cyflawni swyddogaeth cynrychiolydd;

ch

os yw'n fodlon bod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol;

d

os nad oes ganddo fuddiant ariannol yn y cartref gofal7 neu yn yr ysbyty annibynnol8 lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw;

dd

onid yw'n berthynas i berson sydd â buddiant ariannol yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw;

e

onid yw'n darparu gwasanaethau i'r cartref gofal lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw, neu onid yw'n cael ei gyflogi i weithio yno;

f

onid yw'n cael ei gyflogi i weithio yn yr ysbyty9 lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw, mewn swyddogaeth sy'n gysylltiedig ag achos y person perthnasol, neu a allai fod yn gysylltiedig â'r achos hwnnw; ac

ff

onid yw'n cael ei gyflogi i weithio ar gorff goruchwylio'r person perthnasol mewn swyddogaeth sy'n gysylltiedig ag achos y person perthnasol, neu a allai fod yn gysylltiedig â'r achos hwnnw.

2

At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “perthynas” (“relative”) yw:

a

tad, mam, llystad, llysfam, mab, merch, llysfab, llysferch, nain (mam-gu), taid (tad-cu), ŵyr neu wyres y person hwnnw, neu o briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw; neu

b

brawd, chwaer, ewythr, modryb, nith, nai, neu gefnder cyfan (p'un ai o waed cyfan neu hanner gwaed neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) y person hwnnw neu briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw.

3

At ddibenion y rheoliad hwn—

a

mae “priod” (“spouse”) neu “partner sifil” (“civil partner”) yn cynnwys person nad yw'n briod â pherson nac mewn partneriaeth sifil â pherson ond sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai mewn perthynas o'r fath, a

b

mae gan berson fuddiant ariannol mewn cartref gofal neu mewn ysbyty annibynnol os yw'r person hwnnw'n bartner, yn gyfarwyddwr, yn ddeiliad swydd arall neu'n brif gyfranddaliwr y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol sydd wedi gwneud cais am awdurdodiad safonol.

c

ystyr “prif gyfranddaliwr” (“major shareholder”) yw—

i

unrhyw berson sy'n dal degfed ran neu fwy o'r cyfranddaliadau sydd wedi eu dyroddi yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol, os yw'r cartref gofal neu'r ysbyty yn gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, a

ii

ym mhob achos arall, unrhyw un o berchnogion y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol.

RHAN 4Dethol

Dethol gan y person perthnasol7

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gan y person perthnasol alluedd o ran y cwestiwn pwy ddylai ei gynrychiolydd fod.

2

Caiff y person perthnasol ddethol person ar gyfer ei benodi i fod yn gynrychiolydd iddo.

3

Os yw'r person perthnasol yn cael dethol person yn unol â pharagraff (2) ond nad yw'n gwneud hynny, mae rheoliad 10 yn gymwys.

Dethol gan roddai neu ddirprwy8

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad oes gan y person perthnasol alluedd o ran y cwestiwn pwy ddylai ei gynrychiolydd fod.

2

Pan fo'r canlynol yn wir—

a

bod gan y person perthnasol roddai neu ddirprwy10, a

b

ei bod o fewn awdurdod y rhoddai neu'r dirprwy i wneud hynny,

caiff y rhoddai neu'r dirprwy ddethol person i'w benodi yn gynrychiolydd.

3

Os yw rhoddai neu ddirprwy yn cael dethol person yn unol â pharagraff (2) ond nad yw'n gwneud hynny, mae rheoliad 10 yn gymwys.

Cymeradwyo gan yr asesydd lles pennaf neu'r corff goruchwylio9

1

Rhaid i berson a ddetholir yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2) gael ei gymeradwyo gan yr asesydd lles pennaf neu gan y corff goruchwylio.

2

Os nad yw'r asesydd lles pennaf neu'r corff goruchwylio yn cymeradwyo person a ddetholir—

a

caiff gymeradwyo person arall a ddetholir yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2); neu

b

caiff yr asesydd lles pennaf ddethol person yn unol â rheoliad 10.

Dethol gan yr asesydd lles pennaf10

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys——

a

pan nad oes person wedi ei ddethol i'w benodi yn gynrychiolydd yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2), neu

b

pan fo'r asesydd lles pennaf neu'r corff goruchwylio heb gymeradwyo person yn unol â rheoliad 9.

2

Caiff yr asesydd lles pennaf ddethol person i fod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.

3

Os nad yw'r asesydd lles pennaf yn gallu dethol person i'w benodi'n gynrychiolydd, mae rheoliad 11 yn gymwys.

Dethol gan y corff goruchwylio11

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan nad oes person wedi'i ddethol yn unol â rheoliadau 7(2), 8(2) neu 10(2).

2

Rhaid i'r corff goruchwylio ddethol person i'w benodi yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.

3

Os bydd person a ddetholir yn unol â pharagraff (2) yn gweithredu mewn swyddogaeth broffesiynol

a

rhaid i'r person hwnnw fod â'r hyfforddiant a'r profiad priodol, a

b

rhaid bod y corff goruchwylio wedi'i fodloni bod y canlynol ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw—

i

tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 199711; neu

ii

os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol ati yn un a ragnodir o dan is-adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno.

4

At ddibenion paragraff (3), person sy'n gweithredu mewn swyddogaeth broffesiynol yw person a gafodd ei ddethol gan yr asesydd lles pennaf neu gan y corff goruchwylio a hwnnw'n berson nad yw'n aelod o'r teulu, yn gyfaill nac yn ofalwr i'r person perthnasol.

RHAN 5Penodi cynrychiolwyr

Penodi cynrychiolydd12

Bydd corff goruchwylio yn penodi mewn ysgrifen unrhyw berson a ddetholir yn unol â Rhan 4 yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.

Gofynion ffurfiol penodi cynrychiolydd13

Rhaid hysbysu'r personau canlynol o benodiad cynrychiolydd—

a

y person perthnasol;

b

yr awdurdod rheoli perthnasol;

c

unrhyw roddai neu ddirprwy i'r person perthnasol;

ch

unrhyw eiriolwr annibynnol o ran galluedd meddyliol12 a benodwyd yn unol â'r Ddeddf; a

d

unrhyw berson y bydd yr asesydd lles pennaf wedi ymgynghori ag ef.

RHAN 6

Terfynu penodiad cynrychiolydd14

Bydd person yn peidio â bod yn gynrychiolydd—

a

os bydd farw;

b

os bydd yn hysbysu'r corff goruchwylio nad yw mwyach yn fodlon parhau â'r swyddogaeth;

c

os daw cyfnod ei benodiad i ben;

ch

os yw cynrychiolydd wedi'i benodi ar ôl cael ei ddethol yn unol â rheoliad 7(2) a bod y person perthnasol yn hysbysu'r corff goruchwylio ei fod yn gwrthwynebu i'r person hwnnw barhau i fod yn gynrychiolydd iddo;

d

os yw cynrychiolydd wedi'i benodi ar ôl cael ei ddethol yn unol â rheoliad 8(2) a bod y rhoddai neu'r dirprwy yn gwrthwynebu i'r person hwnnw barhau i fod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol;

dd

os bydd y corff goruchwylio yn terfynu'r penodiad am ei fod wedi'i fodloni nad yw'r cynrychiolydd yn cadw cyswllt digonol â'r person perthnasol i'w gefnogi ac i'w gynrychioli;

e

os bydd y corff goruchwylio yn terfynu'r penodiad am ei fod wedi'i fodloni nad yw'r person yn gymwys mwyach at ddibenion 6(1) i fod yn gynrychiolydd; neu

f

os bydd y corff goruchwylio yn terfynu'r penodiad am ei fod wedi'i fodloni nad yw'r person yn gweithredu er lles pennaf y person perthnasol.

Monitro cynrychiolwyr15

Rhaid i'r awdurdod rheoli roi gwybod i'r corff goruchwylio os daw yn ymwybodol nad yw'r cynrychiolydd yn gweithredu er lles pennaf y person perthnasol neu os nad yw wedi cadw cyswllt rheolaidd ag ef.

Gofynion ffurfiol terfynu penodiad cynrychiolydd16

1

Os yw penodiad cynrychiolydd i'w derfynu yn unol â pharagraffau (b) i (f) o reoliad 14, rhaid i'r corff goruchwylio hysbysu'r person hwnnw fod ei benodiad i'w derfynu a rhaid iddo roi rhesymau pam y mae'r penodiad i'w derfynu.

2

Os yw penodiad cynrychiolydd i'w derfynu'n unol â rheoliad 14, rhaid i'r corff goruchwylio hysbysu—

a

y person perthnasol;

b

yr awdurdod rheoli;

c

unrhyw roddai neu ddirprwy i'r person perthnasol;

ch

unrhyw eiriolwr annibynnol o ran galluedd meddyliol a benodir yn unol â'r Ddeddf; a

d

unrhyw berson yr ymgynghorir ag ef gan yr asesydd lles pennaf.

RHAN 7Cynrychiolwyr — amrywiol

Talu i gynrychiolwyr17

Caiff corff goruchwylio wneud taliadau i unrhyw berson, neu mewn perthynas ag unrhyw berson, a benodwyd yn unol â rheoliad 12 ac sy'n arfer swyddogaethau fel cynrychiolydd y person perthnasol.

RHAN 8

Diwygio Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007

18

1

Mae Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 200713 wedi'u diwygio'n unol â'r paragraff canlynol.

2

Yn lle'r geiriau “adrannau 37, 38 a 39 o'r Ddeddf” yn rheoliad 2(2) (dehongli), rhodder y geiriau canlynol—

  • adrannau 37, 38, 39, 39A, 39C neu 39D o'r Ddeddf

19

Yn lle'r geiriau “adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf” yn rheoliad 5(1) (penodi eiriolwyr annibynnol o ran galluedd meddyliol) rhodder y geiriau canlynol—

  • adrannau 37, 38, 39, 39A, 39C neu 39D o'r Ddeddf

Edwina HartY Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru