Search Legislation

Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Penodi Cynrychiolydd Person Perthnasol) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Penodi Cynrychiolydd Person Perthnasol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “asesydd lles pennaf” (“best interests assessor”) yw person a ddetholwyd i wneud asesiad lles pennaf o dan baragraff 38 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;

  • ystyr “rhoddai” (“donee”) yw person y rhoddwyd iddo atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus gofrestredig gan y person perthnasol.

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn mae “corff goruchwylio” (“supervisory body”) yn cynnwys Bwrdd Iechyd Lleol sy'n arfer swyddogaethau goruchwylio yn unol â rheoliad 3.

RHAN 2Swyddogaethau goruchwylio

Swyddogaethau goruchwylio sy'n arferadwy gan Fyrddau Iechyd Lleol

3.—(1Bydd pob Bwrdd Iechyd Lleol yn arfer swyddogaethau goruchwylio—

(a)mewn perthynas ag unrhyw berson sydd â lle ganddo mewn ysbyty neu sy'n debygol o gael lle mewn ysbyty (p'un a ydynt yn ysbytai'r GIG neu'n ysbytai annibynnol) yn ei ardal er mwyn derbyn gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol(1); a

(b)os bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn comisiynu gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol i berson mewn ysbyty (p'un ai ysbyty'r GIG neu ysbyty annibynnol) yn Lloegr mewn perthynas â'r ysbyty hwnnw.

(2Os bydd Gweinidogion Cymru yn comisiynu gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol i unrhyw berson sydd â lle ganddo mewn ysbyty neu sy'n debygol o gael lle mewn ysbyty (p'un ai ysbyty'r GIG neu ysbyty annibynnol) yn Lloegr y corff goruchwylio fydd y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal y mae'r person fel arfer yn byw ynddi.

(3Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru, mae modd i swyddogaethau goruchwylio sy'n arferadwy gan Fwrdd Iechyd Lleol, drwy drefniant â'r Bwrdd hwnnw, ac yn ddarostyngedig i'r fath gyfyngiadau ac amodau ag y tybia'r Bwrdd hwnnw eu bod yn briodol, gael eu harfer—

(a)ar ran y Bwrdd hwnnw gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r Bwrdd;

(b)ar y cyd â Bwrdd Iechyd Lleol arall;

(4Mae i “swyddogaethau goruchwylio” yr un ystyr ag sydd i “supervisory functions” ym mharagraff 165(3) o Atodlen A1 i'r Ddeddf.

RHAN 3Penodi — cyffredinol

Y weithdrefn benodi

4.—(1Mae dethol person i'w benodi yn gynrychiolydd i ddigwydd yn unol â Rhan 4.

(2Mae penodi person yn gynrychiolydd i ddigwydd yn unol â Rhan 5.

Cychwyn y weithdrefn benodi

5.  Rhaid i'r weithdrefn ar gyfer penodi cynrychiolydd ddechrau—

(a)cyn gynted ag y bydd asesydd lles pennaf wedi ei ddethol gan y corff goruchwylio(2) at ddibenion cais am awdurdodiad safonol(3); neu

(b)cyn gynted ag y bo penodiad cynrychiolydd person perthnasol yn terfynu, neu i'w derfynu yn unol â rheoliad 14, a bod y person perthnasol yn parhau i fod yn ddarostyngedig i awdurdodiad safonol.

Cymhwystra person i fod yn gynrychiolydd

6.—(1Mae person yn gymwys i'w benodi yn gynrychiolydd—

(a)os yw'n 18 oed neu drosodd;

(b)os yw'n abl i gadw mewn cysylltiad â'r person perthnasol(4);

(c)onid yw wedi'i rwystro gan afiechyd rhag cyflawni swyddogaeth cynrychiolydd;

(ch)os yw'n fodlon bod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol;

(d)os nad oes ganddo fuddiant ariannol yn y cartref gofal(5) neu yn yr ysbyty annibynnol(6) lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw;

(dd)onid yw'n berthynas i berson sydd â buddiant ariannol yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw;

(e)onid yw'n darparu gwasanaethau i'r cartref gofal lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw, neu onid yw'n cael ei gyflogi i weithio yno;

(f)onid yw'n cael ei gyflogi i weithio yn yr ysbyty(7) lle mae'r person perthnasol yn cael ei gadw, neu lle mae i'w gadw, mewn swyddogaeth sy'n gysylltiedig ag achos y person perthnasol, neu a allai fod yn gysylltiedig â'r achos hwnnw; ac

(ff)onid yw'n cael ei gyflogi i weithio ar gorff goruchwylio'r person perthnasol mewn swyddogaeth sy'n gysylltiedig ag achos y person perthnasol, neu a allai fod yn gysylltiedig â'r achos hwnnw.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “perthynas” (“relative”) yw:

(a)tad, mam, llystad, llysfam, mab, merch, llysfab, llysferch, nain (mam-gu), taid (tad-cu), ŵyr neu wyres y person hwnnw, neu o briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw; neu

(b)brawd, chwaer, ewythr, modryb, nith, nai, neu gefnder cyfan (p'un ai o waed cyfan neu hanner gwaed neu drwy briodas neu bartneriaeth sifil) y person hwnnw neu briod, cyn briod, partner sifil neu gyn bartner sifil y person hwnnw.

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae “priod” (“spouse”) neu “partner sifil” (“civil partner”) yn cynnwys person nad yw'n briod â pherson nac mewn partneriaeth sifil â pherson ond sy'n byw gyda'r person hwnnw fel petai mewn perthynas o'r fath, a

(b)mae gan berson fuddiant ariannol mewn cartref gofal neu mewn ysbyty annibynnol os yw'r person hwnnw'n bartner, yn gyfarwyddwr, yn ddeiliad swydd arall neu'n brif gyfranddaliwr y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol sydd wedi gwneud cais am awdurdodiad safonol.

(c)ystyr “prif gyfranddaliwr” (“major shareholder”) yw—

(i)unrhyw berson sy'n dal degfed ran neu fwy o'r cyfranddaliadau sydd wedi eu dyroddi yn y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol, os yw'r cartref gofal neu'r ysbyty yn gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, a

(ii)ym mhob achos arall, unrhyw un o berchnogion y cartref gofal neu'r ysbyty annibynnol.

RHAN 4Dethol

Dethol gan y person perthnasol

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo gan y person perthnasol alluedd o ran y cwestiwn pwy ddylai ei gynrychiolydd fod.

(2Caiff y person perthnasol ddethol person ar gyfer ei benodi i fod yn gynrychiolydd iddo.

(3Os yw'r person perthnasol yn cael dethol person yn unol â pharagraff (2) ond nad yw'n gwneud hynny, mae rheoliad 10 yn gymwys.

Dethol gan roddai neu ddirprwy

8.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os nad oes gan y person perthnasol alluedd o ran y cwestiwn pwy ddylai ei gynrychiolydd fod.

(2Pan fo'r canlynol yn wir—

(a)bod gan y person perthnasol roddai neu ddirprwy(8), a

(b)ei bod o fewn awdurdod y rhoddai neu'r dirprwy i wneud hynny,

caiff y rhoddai neu'r dirprwy ddethol person i'w benodi yn gynrychiolydd.

(3Os yw rhoddai neu ddirprwy yn cael dethol person yn unol â pharagraff (2) ond nad yw'n gwneud hynny, mae rheoliad 10 yn gymwys.

Cymeradwyo gan yr asesydd lles pennaf neu'r corff goruchwylio

9.—(1Rhaid i berson a ddetholir yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2) gael ei gymeradwyo gan yr asesydd lles pennaf neu gan y corff goruchwylio.

(2Os nad yw'r asesydd lles pennaf neu'r corff goruchwylio yn cymeradwyo person a ddetholir—

(a)caiff gymeradwyo person arall a ddetholir yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2); neu

(b)caiff yr asesydd lles pennaf ddethol person yn unol â rheoliad 10.

Dethol gan yr asesydd lles pennaf

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys——

(a)pan nad oes person wedi ei ddethol i'w benodi yn gynrychiolydd yn unol â rheoliadau 7(2) neu 8(2), neu

(b)pan fo'r asesydd lles pennaf neu'r corff goruchwylio heb gymeradwyo person yn unol â rheoliad 9.

(2Caiff yr asesydd lles pennaf ddethol person i fod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.

(3Os nad yw'r asesydd lles pennaf yn gallu dethol person i'w benodi'n gynrychiolydd, mae rheoliad 11 yn gymwys.

Dethol gan y corff goruchwylio

11.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan nad oes person wedi'i ddethol yn unol â rheoliadau 7(2), 8(2) neu 10(2).

(2Rhaid i'r corff goruchwylio ddethol person i'w benodi yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.

(3Os bydd person a ddetholir yn unol â pharagraff (2) yn gweithredu mewn swyddogaeth broffesiynol

(a)rhaid i'r person hwnnw fod â'r hyfforddiant a'r profiad priodol, a

(b)rhaid bod y corff goruchwylio wedi'i fodloni bod y canlynol ar gael mewn perthynas â'r person hwnnw—

(i)tystysgrif cofnod troseddol fanwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997(9); neu

(ii)os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol ati yn un a ragnodir o dan is-adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno.

(4At ddibenion paragraff (3), person sy'n gweithredu mewn swyddogaeth broffesiynol yw person a gafodd ei ddethol gan yr asesydd lles pennaf neu gan y corff goruchwylio a hwnnw'n berson nad yw'n aelod o'r teulu, yn gyfaill nac yn ofalwr i'r person perthnasol.

RHAN 5Penodi cynrychiolwyr

Penodi cynrychiolydd

12.  Bydd corff goruchwylio yn penodi mewn ysgrifen unrhyw berson a ddetholir yn unol â Rhan 4 yn gynrychiolydd i'r person perthnasol.

Gofynion ffurfiol penodi cynrychiolydd

13.  Rhaid hysbysu'r personau canlynol o benodiad cynrychiolydd—

(a)y person perthnasol;

(b)yr awdurdod rheoli perthnasol;

(c)unrhyw roddai neu ddirprwy i'r person perthnasol;

(ch)unrhyw eiriolwr annibynnol o ran galluedd meddyliol(10) a benodwyd yn unol â'r Ddeddf; a

(d)unrhyw berson y bydd yr asesydd lles pennaf wedi ymgynghori ag ef.

RHAN 6

Terfynu penodiad cynrychiolydd

14.  Bydd person yn peidio â bod yn gynrychiolydd—

(a)os bydd farw;

(b)os bydd yn hysbysu'r corff goruchwylio nad yw mwyach yn fodlon parhau â'r swyddogaeth;

(c)os daw cyfnod ei benodiad i ben;

(ch)os yw cynrychiolydd wedi'i benodi ar ôl cael ei ddethol yn unol â rheoliad 7(2) a bod y person perthnasol yn hysbysu'r corff goruchwylio ei fod yn gwrthwynebu i'r person hwnnw barhau i fod yn gynrychiolydd iddo;

(d)os yw cynrychiolydd wedi'i benodi ar ôl cael ei ddethol yn unol â rheoliad 8(2) a bod y rhoddai neu'r dirprwy yn gwrthwynebu i'r person hwnnw barhau i fod yn gynrychiolydd i'r person perthnasol;

(dd)os bydd y corff goruchwylio yn terfynu'r penodiad am ei fod wedi'i fodloni nad yw'r cynrychiolydd yn cadw cyswllt digonol â'r person perthnasol i'w gefnogi ac i'w gynrychioli;

(e)os bydd y corff goruchwylio yn terfynu'r penodiad am ei fod wedi'i fodloni nad yw'r person yn gymwys mwyach at ddibenion 6(1) i fod yn gynrychiolydd; neu

(f)os bydd y corff goruchwylio yn terfynu'r penodiad am ei fod wedi'i fodloni nad yw'r person yn gweithredu er lles pennaf y person perthnasol.

Monitro cynrychiolwyr

15.  Rhaid i'r awdurdod rheoli roi gwybod i'r corff goruchwylio os daw yn ymwybodol nad yw'r cynrychiolydd yn gweithredu er lles pennaf y person perthnasol neu os nad yw wedi cadw cyswllt rheolaidd ag ef.

Gofynion ffurfiol terfynu penodiad cynrychiolydd

16.—(1Os yw penodiad cynrychiolydd i'w derfynu yn unol â pharagraffau (b) i (f) o reoliad 14, rhaid i'r corff goruchwylio hysbysu'r person hwnnw fod ei benodiad i'w derfynu a rhaid iddo roi rhesymau pam y mae'r penodiad i'w derfynu.

(2Os yw penodiad cynrychiolydd i'w derfynu'n unol â rheoliad 14, rhaid i'r corff goruchwylio hysbysu—

(a)y person perthnasol;

(b)yr awdurdod rheoli;

(c)unrhyw roddai neu ddirprwy i'r person perthnasol;

(ch)unrhyw eiriolwr annibynnol o ran galluedd meddyliol a benodir yn unol â'r Ddeddf; a

(d)unrhyw berson yr ymgynghorir ag ef gan yr asesydd lles pennaf.

RHAN 7Cynrychiolwyr — amrywiol

Talu i gynrychiolwyr

17.  Caiff corff goruchwylio wneud taliadau i unrhyw berson, neu mewn perthynas ag unrhyw berson, a benodwyd yn unol â rheoliad 12 ac sy'n arfer swyddogaethau fel cynrychiolydd y person perthnasol.

RHAN 8

Diwygio Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007

18.—(1Mae Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007(11) wedi'u diwygio'n unol â'r paragraff canlynol.

(2Yn lle'r geiriau “adrannau 37, 38 a 39 o'r Ddeddf” yn rheoliad 2(2) (dehongli), rhodder y geiriau canlynol—

  • adrannau 37, 38, 39, 39A, 39C neu 39D o'r Ddeddf.

19.  Yn lle'r geiriau “adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf” yn rheoliad 5(1) (penodi eiriolwyr annibynnol o ran galluedd meddyliol) rhodder y geiriau canlynol—

  • adrannau 37, 38, 39, 39A, 39C neu 39D o'r Ddeddf.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Chwefror 2009

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources