2009 Rhif 2623 (Cy.215)
Gorchymyn Canolfan Iechyd Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2009
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 3(4), (5) a (6) ac 8 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 20031 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Canolfan Iechyd Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau a Diddymu) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Hydref 2009.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Canolfan Iechyd Cymru” (“Wales Centre for Health”) yw'r corff o'r enw Canolfan Iechyd Cymru neu Wales Centre for Health a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003;
ystyr “Deddf 2003” (“the 2003 Act”) yw Deddf Iechyd (Cymru) 2003;
ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Hydref 2009.
Trosglwyddo swyddogaethau Canolfan Iechyd Cymru i Weinidogion Cymru3
A hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, trosglwyddir holl swyddogaethau Canolfan Iechyd Cymru, fel y'u nodir yn adran 3 o Ddeddf 2003, i Weinidogion Cymru.
Trosglwyddo eiddo4
A hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, trosglwyddir holl eiddo Canolfan Iechyd Cymru, gan gynnwys yr eiddo a restrir yn Atodlen 1, i Weinidogion Cymru.
Gorfodadwyedd hawliau a throsglwyddo rhwymedigaethau5
1
Trosglwyddir i Weinidogion Cymru unrhyw hawl a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn orfodadwy gan neu yn erbyn Canolfan Iechyd Cymru.
2
Trosglwyddir i Weinidogion Cymru unrhyw rwymedigaeth sy'n codi o arfer ei swyddogaethau a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn orfodadwy yn erbyn Canolfan Iechyd Cymru.
Diddymu Canolfan Iechyd Cymru6
Diddymir Canolfan Iechyd Cymru a hynny'n effeithiol o 1 Hydref 2009 ymlaen.
Dirymu Canlyniadol Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 20047
Diddymir Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 20042 a hynny'n effeithiol o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
ATODLEN 1
Eiddo | Deiliadaeth |
---|---|
Y Llawr Cyntaf, 14 Heol y Gadeirlan Caerdydd, CF11 9LJ | Lesddaliad |
Llawr Daear, 14 Heol y Gadeirlan Caerdydd, CF11 9LJ | Lesddaliad |
Swyddfa yn Uned S5 | Lesddaliad |
Neuadd Croesnewydd | |
Parc Technoleg Wrecsam | |
Wrecsam , LL13 7YP |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)