2009 Rhif 2578 (Cy.209)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 73, 77(4) a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt2, ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol â pharagraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfod 20073:

Enwi, cychwyn a chymhwysoI11

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Tribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim a Phwyllgorau Safonau) (Diwygio) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 19 Hydref 2009.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wrandawiad gan—

a

tribiwnlys achos neu dribiwnlys achos interim o dan Reoliadau'r Tribiwnlys Achos; a

b

pwyllgor safonau o dan Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau,

sy'n dechrau ar neu ar ôl 19 Hydref 2009.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 19.10.2009, gweler rhl. 1(1)

DehongliI22

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Rheoliadau'r Pwyllgorau Safonau” (“the Standards Committees Regulations”)yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 20014;

  • ystyr “Rheoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos” (“the Case Tribunals Regulations”) yw Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 20015.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 19.10.2009, gweler rhl. 1(1)

Diwygio Rheoliadau'r Pwyllgorau Safonau

I33

Diwygier Rheoliadau'r Pwyllgorau Safonau yn unol â rheoliad 4.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 19.10.2009, gweler rhl. 1(1)

I44

1

Yn rheoliad 4(4)(b), yn lle “gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “gan Weinidogion Cymru”.

2

Yn lle rheoliad 8(2) a (3) rhodder—

2

Mae paragraffau (3) i (3CH) yn gymwys—

a

mewn cysylltiad ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn achos o ymchwiliad yr ymgymerir ag ef gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac a gyfeiriwyd at swyddog monitro'r awdurdod perthnasol o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000; a

b

mewn cysylltiad â swyddog monitro'r awdurdod perthnasol mewn achos o ymchwiliad a gyfeiriwyd at y swyddog monitro o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000.

3

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro yr hawl i fod yn bresennol gerbron y Pwyllgor Safonau at ddibenion—

a

cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a

b

fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.

3A

Caniateir i'r Pwyllgor Safonau wneud cais i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro fod yn bresennol ger ei fron at ddibenion—

a

cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a

b

fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r Pwyllgor Safonau ag y mae'r Pwyllgor Safonau yn ystyried ei bod yn briodol.

3B

Rhaid peidio â gwrthod yn afresymol gais a wneir o dan baragraff (3A) ac os gwrthodir cais o'r fath rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru neu'r swyddog monitro roi rhesymau ysgrifenedig i'r Pwyllgor Safonau am beidio â chydymffurfio â'r cais i fod yn bresennol.

3C

Bydd y presenoldeb hwnnw'n digwydd pan fydd Pwyllgor Safonau awdurdod perthnasol yn ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y person sy'n destun yr ymchwiliad neu, os na wnaed sylwadau o'r fath, ar unrhyw adeg resymol.

3CH

Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r swyddog monitro gael eu cynrychioli gan gwnsler neu gan gyfreithiwr.”.

3

Yn rheoliad 10(2), yn lle “Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru Parc Cathays Caerdydd CF10 3NQ” rhodder—

  • Y Llywydd

  • Panel Dyfarnu Cymru

  • Llywodraeth Cynulliad Cymru

  • Parc Cathays

  • Caerdydd

  • CF10 3NQ.

4

Yn rheoliad 11(5), yn lle “ymgynghori â Chynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “ymgynghori â Gweinidogion Cymru”.

Annotations:
Commencement Information
I4

Rhl. 4 mewn grym ar 19.10.2009, gweler rhl. 1(1)

Diwygio Rheoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos

I55

Diwygier yr Atodlen i Reoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos yn unol â rheoliad 6.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 19.10.2009, gweler rhl. 1(1)

I66

1

Ym mharagraff 1, hepgorer y geiriau “ystyr “swyddog ymchwilio” (“investigating officer”) yw person a gynhaliodd yr ymchwiliad a arweiniodd at y cyfeiriad at Banel Dyfarnu Cymru o dan adran 71(3) neu 72(4) o'r Ddeddf”.

2

Yn lle paragraff 9 (presenoldeb swyddogion ymchwilio) rhodder—

Presenoldeb Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru9

1

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yr hawl i fod yn bresennol, a chaniateir i'r tribiwnlys wneud cais i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod yn bresennol, mewn gwrandawiad dyfarnu at ddibenion—

a

cyflwyno'r adroddiad a/neu esbonio unrhyw un neu unrhyw rai o'r materion sydd ynddo; a

b

fel arall chwarae'r cyfryw ran neu gynorthwyo'r tribiwnlys yn y gwrandawiad ag y mae'r tribiwnlys yn ystyried ei bod yn briodol.

2

Rhaid peidio â gwrthod yn afresymol gais a wneir o dan is-baragraff (1) ac os gwrthodir cais o'r fath rhaid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru roi rhesymau ysgrifenedig i'r tribiwnlys am beidio â chydymffurfio â'r cais i fod yn bresennol mewn gwrandawiad.

3

Caniateir i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru gael ei gynrychioli gan gwnsler neu gyfreithiwr.

3

Ym mharagraff 16(2)—

a

hepgorer is-baragraff (b);

b

yn is-baragraff (ch), ar ôl “ohono” mewnosoder “neu gynrychiolydd y swyddog monitro”.

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 19.10.2009, gweler rhl. 1(1)

Brian GibbonsY Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau'r Pwyllgorau Safonau”) a Rheoliadau Dyfarniadau gan Dribiwnlysoedd Achos a Thribiwnlysoedd Achos Interim (Cymru) 2001 (“Rheoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos”).

Mae Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn gwneud darpariaeth i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau heddlu ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru (“awdurdodau perthnasol”) fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer aelodau ac aelodau cyfetholedig ac yn gwneud darpariaeth i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) ymchwilio i achosion lle yr honnir bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu aelod blaenorol neu aelod cyfetholedig blaenorol) awdurdod perthnasol wedi methu, neu y gallai fod wedi methu, cydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod.

Os bydd yr Ombwdsmon yn rhoi'r gorau i ymchwiliad o'r fath cyn i'r ymchwiliad gael ei gwblhau (o dan adran 70(4) o Ddeddf 2000) caniateir iddo gyfeirio'r mater sy'n destun yr ymchwiliad i swyddog monitro yr awdurdod perthnasol. Ar y llaw arall, o dan adran 71(2) o Ddeddf 2000, os yw'r Ombwdsmon yn penderfynu ar ôl ymchwilio y dylai gyfeirio'r mater i swyddog monitro'r awdurdod perthnasol, rhaid iddo lunio adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad a'i anfon at swyddog monitro'r awdurdod a'r pwyllgor safonau. Mae adran 73 o Ddeddf 2000 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy'n pennu sut y mae awdurdodau perthnasol heblaw awdurdodau heddlu yng Nghymru i ymdrin â'r materion hynny a gyfeiriwyd atynt. Mae Rheoliadau'r Pwyllgorau Safonau yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddogaethau swyddogion monitro a phenderfyniadau pwyllgorau safonau.

Yn dilyn ymchwiliad gan yr Ombwdsmon, caniateir iddo benderfynu y dylid cyfeirio'r materion sydd yn destun yr ymchwiliad at lywydd Panel Dyfarnu Cymru i'w dyfarnu gan dribiwnlys sy'n dod o fewn adran 76(1) o Ddeddf 2000 (“tribiwnlys achos”). Mewn amgylchiadau penodol caniateir i'r Ombwdsmon, cyn cwblhau ymchwiliad, lunio adroddiad interim a chyfeirio'r materion sydd yn destun yr adroddiad at lywydd Panel Dyfarnu Cymru i'w dyfarnu gan dribiwnlys sy'n dod o fewn adran 76(2) o Ddeddf 2000 (“tribiwnlys achos interim”). Mae Rheoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos, a gafodd eu gwneud o dan adran 77(4) a (6) o Ddeddf 2000 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â dyfarniadau gan dribiwnlysoedd achos a thribiwnlysoedd achos interim.

Mae rheoliad 4(2) yn disodli rheoliad 8(2) a (3) o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau gan roi darpariaethau newydd o ran swyddogaethau'r Ombwdsmon a'r swyddogion monitro yng ngwrandawiadau pwyllgorau safonau.

Gwneir mân ddiwygiadau eraill i Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau.

Mae rheoliad 6(1) yn hepgor y diffiniad o “swyddog ymchwilio” ym mharagraff 1 o'r Atodlen i Reoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos. Mae hyn yn digwydd o ganlyniad i ddiwygio rheoliad 6(2).

Mae rheoliad 6(2) yn disodli paragraff 9 o'r Atodlen i Reoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos (presenoldeb swyddogion ymchwilio) gan roi darpariaethau newydd o ran swyddogaethau Ombwdsmon yng ngwrandawiadau tribiwnlysoedd achos a thribiwnlysoedd achos interim.

Mae rheoliad 6(3) yn diwygio paragraff 16 o'r Atodlen i Reoliadau'r Tribiwnlysoedd Achos drwy ddileu darpariaeth ddiangen ynghylch presenoldeb aelodau o'r Cyngor Tribiwnlysoedd blaenorol a thrwy wneud darpariaeth i gynrychiolydd swyddog monitro i fynychu gwrandawiadau tribiwnlysoedd achos a thribiwnlysoedd achos interim.