Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Ysgolion Annibynnol) (Personau Anaddas) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 2558 (Cy.208)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ysgolion Annibynnol) (Personau Anaddas) (Cymru) 2009

Gwnaed

20 Medi 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Medi 2009

Yn dod i rym

12 Hydref 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 169 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion Annibynnol) (Personau Anaddas) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.

Personau anaddas: y math o waith sydd wedi'i ragnodi

2.—(1Mae gwaith o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (2) wedi'i ragnodi at ddibenion adran 169 o Ddeddf 2002.

(2Y math o waith y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) yw unrhyw ffurf ar waith (p'un ai er elw ai peidio)—

(a)y mae'r person (“W”) yn ei wneud yn rheolaidd; a

(b)sy'n rhoi cyfle i W, o ganlyniad i unrhyw beth y caniateir neu y mae'n ofynnol i W ei wneud mewn cysylltiad â'r gwaith, gysylltu â myfyriwr yn y sefydliad neu rywun sy'n blentyn neu'n oedolyn hyglwyf o fewn ystyr “child” neu “vulnerable adult” yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(2).

(3At ddibenion paragraff (2), mewn unrhyw gyfnod o 30 o ddiwrnodau, mae W yn gwneud gwaith yn rheolaidd os yw'n gwneud y gwaith ar fwy na dau ddiwrnod yn y cyfnod hwnnw.

Personau anaddas: disgrifiadau sydd wedi'u rhagnodi o gyfarwyddiadau, gorchmynion a phenderfyniadau

3.  Mae'r disgrifiadau canlynol o gyfarwyddiadau, gorchmynion a phenderfyniadau a wnaed o dan y deddfiadau a ragnodwyd, wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 169 o Ddeddf 2002—

(a)gorchymyn o dan adran 100(2)(e)(3) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980 (penderfynu cwynion);

(b)penderfyniad i gynnwys person (mewn modd gwahanol i dros dro) yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(4) (rhestr o unigolion sy'n anaddas i weithio gyda phlant);

(c)gorchymyn gan y llys o dan adran 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(5) (datgymhwyso rhag gweithio gyda phlant);

(ch)cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf 2002(6) a roddir ar y sail bod y person yn anaddas i weithio gyda phlant neu y mae ei effaith yn gwahardd person mewn modd arall rhag cymryd rhan yng ngwaith rheoli ysgol annibynnol (gwahardd rhag addysgu, etc.);

(d)cyfarwyddyd o dan adran 167A(7) o Ddeddf 2002 (gwahardd cymryd rhan yng ngwaith rheoli ysgolion annibynnol );

(dd)penderfyniad i gynnwys person (mewn modd gwahanol i dros dro) yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003(8) (rhestr o unigolion sy'n anaddas i weithio gyda phlant);

(e)penderfyniad i gynnwys person (mewn modd gwahanol i dros dro) yn y rhestr a gedwir o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003(9) (dyletswydd yr Adran i gadw rhestr);

(f)gorchymyn y llys o dan erthygl 23 neu 24 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 (datgymhwyso oedolion ac ieuaint rhag gweithio gyda phlant);

(ff)penderfyniad i gynnwys person sydd ar restr o bobl waharddedig o fewn ystyr “barred list” yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(10);

(g)penderfyniad i gynnwys person ar restr a gedwir o dan adran 1(1) o Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007(11) (dyletswydd Gweinidogion yr Alban i gadw rhestrau);

(ng)penderfyniad i wahardd person rhag addysgu plant neu weithio gyda phlant o dan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Gwahardd rhag Addysgu Plant neu Weithio gyda Phlant) (Gogledd Iwerddon) 2007(12);

(h)penderfyniad i gynnwys y person ar restr o bobl waharddedig o fewn ystyr “barred list” yn erthygl 2(1) o Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007(13); ac

(i)cyfarwyddyd o dan adran 128 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008(14) (gwahardd cymryd rhan mewn gwaith rheoli).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

20 Medi 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan adran 169 o Ddeddf Addysg 2002 (“Deddf 2002”). Mae adran 169 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru dynnu ysgol annibynnol oddi ar y gofrestr a gedwir o dan adran 158 o Ddeddf 2002. Gellir tynnu ysgol annibynnol oddi ar y gofrestr os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod person sy'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd, gorchymyn neu benderfyniad a ragnodir yn rheoliad 3 wedi bod yn gwneud gwaith sy'n dod o dan reoliad 2. Mae'r pŵer i dynnu sefydliad oddi ar y gofrestr yn codi hefyd os yw perchenogion y sefydliad hwnnw'n ddarostyngedig i gyfarwyddyd, gorchymyn neu benderfyniad a restrir yn rheoliad 3.

Effaith y cyfarwyddiadau, y gorchmynion a'r penderfyniadau a restrir yn rheoliad 3 yw gwahardd yr unigolyn sy'n ddarostyngedig i'r cyfarwyddyd, y gorchymyn neu'r penderfyniad rhag gwneud rhyw fath o waith y caniateir ei wneud mewn ysgol annibynnol.

(1)

2002 p.32. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(2)

2006 p.47; gweler adran 60(1) i gael y diffiniadau o “child” a “vulnerable adult”.

(4)

1999 p.14. Cafodd adran 1 ei diwygio gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14), adrannau 95(2), 96(2), 97(2) a 98(4) a'i diddymu gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47), Atodlen 9, paragraff 8(2).

(5)

2000 p.43. Cafodd adrannau 28, 29 a 29A eu diwygio gan Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p.4), Atodlen 11, paragraff 35(a) a'u diddymu gan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, Atodlen 10. Mewnosodwyd adran 29A gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44), Atodlen 30, paragraff 2.

(6)

2002 p.32. Diddymwyd adran 142 gan Atodlen 10 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(7)

Mewnosodwyd adran 167A gan Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, adran 169 (p.4); diwygiwyd is-adran (6) gan baragraff 22 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.

(8)

2003 dsa 5; a ddiddymwyd gan Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007, Atodlen 4, paragraff 42 (dsa 14).

(9)

O.S. 2003/417 (G.I. 4); diddymwyd y Gorchymyn gan Orchymyn Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2007, Atodlen 8.

(10)

2006 p.47; gweler adran 60(1) ar gyfer y diffiniad o “barred list”.

(14)

2008 p.25.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources