2009 Rhif 2544 (Cy.206)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 342(2), (4) a (5) ac adran 569 o Ddeddf Addysg 19961, a chan adran 21(5) a (6), adran 138(7) ac (8), adran 72 ac adran 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19982, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 12(3), adran 19(3), adran 34(5), adran 35(4) a (5), adran 36(4) a (5), adran 136(c), adran 157(1), adran 168(1) a (2), adran 210(7) ac adran 214(1) a (2) o Ddeddf Addysg 20023, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 19942

1

Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 19944 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 7—

a

ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

ba

a direction under section 142(8) of the Education Act 20025;

b

ar ôl paragraff (1), mewnosoder—

1A

The Welsh Ministers may withdraw their approval for a school on the ground that, in the case of that school, it has employed a person who is barred from regulated activity relating to children in accordance with section 3(2) of the Safeguarding Vulnerable Groups Act 20066.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 20013

1

Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 20017 fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff 5 o Atodlen 2—

a

yn is-baragraff (1), ar ôl “cyfyngir ar eu cyflogi”, mewnosoder “, neu pan yw'n destun cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 20028, neu wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 20069.”.

Diwygio Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 20034

1

Diwygir Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 200310 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol briodol”—

a

ar ôl “adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”;

b

ar ôl “adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”; ac

c

hepgorer y geiriau “ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno;”.

3

Yn yr Atodlen, yn is-baragraff (d) o baragraff 4, yn lle'r geiriau “yn gwneud gwaith” rhodder “wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200611 neu'n gwneud gwaith,”.

Diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 20035

1

Diwygir Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 200312 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol briodol”—

a

ar ôl “adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”;

b

ar ôl “adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”; ac

c

hepgorer y geiriau “ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno;”.

3

Yn lle paragraff (2) o reoliad 2, rhodder—

2

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau at berson a gyflogir mewn ysgol yn gyfeiriad at berson—

a

sy'n darparu addysg—

i

mewn ysgol;

ii

mewn sefydliad addysg bellach;

iii

o dan gontract cyflogaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau pan fo'r parti arall yn y contract yn awdurdod addysg lleol neu'n berson sy'n arfer swyddogaeth ynglŷn â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol;

b

sy'n cymryd rhan mewn rheoli ysgol annibynnol; neu

c

sy'n ymgymryd â gwaith—

i

sy'n dod â'r person hwnnw i gysylltiad yn rheolaidd â phlant, a

ii

a gyflawnir ar gais neu gyda chydsyniad cyflogwr perthnasol (pa un ai dan gontract ai peidio).

3

At ddibenion paragraff (2), ystyr “cyflogwr perthnasol” (“relevant employer”) yw—

a

awdurdod addysg lleol;

b

person sy'n arfer swyddogaeth ynglŷn â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol;

c

perchennog ysgol; neu

ch

corff llywodraethu sefydliad addysg bellach.

Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20056

Yn Atodlen 5 i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 200513

a

ar ôl is-baragraff (b) o baragraff 9, mewnosoder—

ba

wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 14;

bb

yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 200215;

b

ym mharagraff 12, yn lle “113” rhodder “113B”.

Diwygio Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 20067

1

Diwygir Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 200616 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3—

a

ym mharagraff (1)—

i

hepgorer y diffiniad o “datganiad o addasrwydd plant”; a

ii

yn y man priodol, mewnosoder—

  • mae i “tystysgrif cofnod troseddol fanwl” yr ystyr a roddir i “enhanced criminal record certificate” yn adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997, sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno;

b

yn is-baragraff (c) o baragraff (3), yn lle “heb fod yn”, rhodder “heb ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200617 neu os nad yw'n”.

3

Ym mharagraff (2) o reoliad 9A a pharagraff (2) o reoliad 20A, hepgorer “, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath”.

4

Yn rheoliad 15A—

a

yn is-baragraff (a)(ii) o baragraff (1), hepgorer “ynghyd â datganiad o addasrwydd plant”;

b

ym mharagraff (2), yn lle “llai” rhodder “mwy”; ac

c

ym mharagraff (6) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

ba

gwiriad i ganfod a yw person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;

5

Yn rheoliadau 18A a 26A, hepgorer “, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath”.

6

Yn rheoliad 24A—

a

yn is-baragraff (a)(ii) o baragraff (1), hepgorer “ynghyd â datganiad o addasrwydd plant”; a

b

ym mharagraff (2), yn lle “llai” rhodder “mwy”.

Diwygio Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 20078

1

Diwygir Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 200718 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3—

a

ym mharagraff (1)—

i

hepgorer y diffiniad o “datganiad addasrwydd plant”, a

ii

yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol fanwl”, ar ôl “1997”, mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2)19 o'r Ddeddf honno”, a

iii

yn lle paragraff (4) rhodder—

4

Er mwyn gwneud gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol, rhaid i berson wneud cais am, a chael, tystysgrif cofnod troseddol fanwl.

3

Ym mharagraff (ch) o reoliad 5, ar ôl “gwirio a”, mewnosoder “yw wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200620 neu'n”.

4

Yn rheoliad 13, hepgorer “bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a”.

5

Yn is-baragraff (ii) o baragraff (b) o reoliad 17, hepgorer “bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a”.

6

Ym mharagraff (ch) o reoliad 18, ar ôl “gwiriad i gadarnhau a”, mewnosoder “yw wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”.

7

Yn Atodlen 1—

a

ym mharagraff 3 o Ran 1, yn lle “a yw'r person yn”, rhodder “a yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”, a

b

ym mharagraff 2 o Ran 2—

i

yn is-baragraff (b), yn lle “a yw'r person yn”, rhodder “a yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”, a

ii

yn is-baragraff (dd)(ii), yn lle “wedi'i gwneud a bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno” rhodder “wedi ei wneud”.

Jane HuttGweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i wahanol setiau o reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Addysg 1996 (p.56), Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.38), a Deddf Addysg 2002 (p.32) i adlewyrchu newidiadau a fydd yn digwydd o ganlyniad i gychwyn (ar 12 Hydref 2009) y darpariaethau gwahardd yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) (“y DDGH”) a chychwyn darpariaethau newydd (a fewnosodwyd gan y DDGH) yn Neddf yr Heddlu 1997 (p.50).

Hyd at 12 Hydref 2009, bydd gwybodaeth pa un a waharddwyd person ai peidio rhag gweithio gyda phlant ar gael gyda thystysgrif cofnod troseddol, safonol neu fanylach. Nid yw'r wybodaeth wahardd a gynhwysir mewn tystysgrif cofnod troseddol ar hyn o bryd yn nodi a yw person wedi ei gynnwys ai peidio ar y rhestr wahardd ar gyfer plant a sefydlwyd o dan adran 2 o'r DDGH. Sefydlir a chynhelir y rhestr wahardd ar gyfer plant gan yr Awdurdod Diogelu Annibynnol (“ADA”) (Independent Safeguarding Authority (“ISA”)); cyfeirir at yr ADA yn y DDGH fel yr “Independent Barring Board” (neu “IBB”) ond mae'n debygol y diwygir hynny mewn deddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol agos, ac y gosodir cyfeiriad at yr ADA yn ei le.

Mewn rhai o'r rheoliadau a ddiwygir, mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyfeiriad pa un a waharddwyd person rhag gweithio gyda phlant o dan y DDGH, at y cyfeiriadau gwahardd a oedd yn rhagflaenu'r DDGH. Yn ychwanegol, mae'r diwygiadau yn rheoliadau 2(2) a 3(2) yn ychwanegu cyfeiriad pa un a yw person yn destun cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002, at y cyfeiriadau gwahardd a oedd yn rhagflaenu'r DDGH, oherwydd gall personau fod yn destun cyfarwyddyd o'r fath pan nad oes penderfyniad wedi ei wneud i'w hychwanegu at y rhestr o bobl a waherddir rhag gweithio gyda phlant o dan y DDGH.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cysoni darpariaethau yn y rheoliadau a ddiwygir (ynglŷn â gwiriadau gwahardd) â darpariaethau newydd yn Neddf yr Heddlu 1997 (a fewnosodwyd gan y DDGH) a fydd yn gymwys o 12 Hydref 2009 ymlaen. Er enghraifft, gwneir diwygiadau i ddileu cyfeiriadau at “ddatganiad o addasrwydd plant” (“children’s suitability statement”) ac i ddiweddaru'r rheoliadau a ddiwygir pan fo angen gyda chyfeiriadau at “wybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant” (“suitability information relating to children”) o fewn ystyr adran 113BA(2) o Ddeddf yr Heddlu 1997.

O 12 Hydref 2009 ymlaen, bydd gwybodaeth pa un a waharddwyd person rhag gweithio gyda phlant yn cael ei darparu gyda thystysgrif cofnod troseddol fanylach yn yr achosion hynny, yn unig, a ragnodir o dan adran 113BA o Ddeddf yr Heddlu 1997. Mae diwygiadau i rai o'r rheoliadau wedi eu cynnwys i adlewyrchu hynny, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a gafwyd eisoes, i'r perwyl bod person wedi ei wahardd, yn parhau ar gael o 12 Hydref 2009 ymlaen.

O 12 Hydref 2009 ymlaen, bydd tystysgrif sy'n datgan bod rhywun wedi ei wahardd rhag gweithio gyda phlant yn golygu bod y person hwnnw naill ai ar un o'r rhestrau gwahardd cyfredol neu wedi ei wahardd rhag gweithio gyda phlant o dan y cynllun DDGH newydd. Bydd yn dal yn ofynnol gwirio gyferbyn â'r rhestrau cyfredol yn ogystal â'r rhestr wahardd newydd ar gyfer plant o dan y DDGH am gyfnod ar ôl 12 Hydref 2009, hyd nes bo'r ADA wedi penderfynu, ym mhob achos perthnasol, ynglŷn â throsglwyddo unigolyn i'r rhestr wahardd ar gyfer plant. Achosion perthnasol yw achosion lle mae unigolyn yn parhau ar un o'r rhestrau presennol, neu achosion y parheir i'w penderfynu (at ddibenion cyfyngedig) o dan yr hen drefn ar ôl 12 Hydref 2009.