- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 12 Hydref 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994(1) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7—
(a)ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—
“(ba)a direction under section 142(8) of the Education Act 2002(2);”; a
(b)ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
“(1A) The Welsh Ministers may withdraw their approval for a school on the ground that, in the case of that school, it has employed a person who is barred from regulated activity relating to children in accordance with section 3(2) of the Safeguarding Vulnerable Groups Act 2006(3).”.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyrff Sefydledig) (Cymru) 2001(4) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 5 o Atodlen 2—
(a)yn is-baragraff (1), ar ôl “cyfyngir ar eu cyflogi”, mewnosoder “, neu pan yw'n destun cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(5), neu wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(6).”.
4.—(1) Diwygir Rheoliadau Safonau Ysgol Annibynnol (Cymru) 2003(7) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol briodol”—
(a)ar ôl “adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”;
(b)ar ôl “adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”; ac
(c)hepgorer y geiriau “ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno;”.
(3) Yn yr Atodlen, yn is-baragraff (d) o baragraff 4, yn lle'r geiriau “yn gwneud gwaith” rhodder “wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(8) neu'n gwneud gwaith,”.
5.—(1) Diwygir Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003(9) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol briodol”—
(a)ar ôl “adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”;
(b)ar ôl “adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997” mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno”; ac
(c)hepgorer y geiriau “ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno;”.
(3) Yn lle paragraff (2) o reoliad 2, rhodder—
“(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau at berson a gyflogir mewn ysgol yn gyfeiriad at berson—
(a)sy'n darparu addysg—
(i)mewn ysgol;
(ii)mewn sefydliad addysg bellach;
(iii)o dan gontract cyflogaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau pan fo'r parti arall yn y contract yn awdurdod addysg lleol neu'n berson sy'n arfer swyddogaeth ynglŷn â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol;
(b)sy'n cymryd rhan mewn rheoli ysgol annibynnol; neu
(c)sy'n ymgymryd â gwaith—
(i)sy'n dod â'r person hwnnw i gysylltiad yn rheolaidd â phlant, a
(ii)a gyflawnir ar gais neu gyda chydsyniad cyflogwr perthnasol (pa un ai dan gontract ai peidio).
(3) At ddibenion paragraff (2), ystyr “cyflogwr perthnasol” (“relevant employer”) yw—
(a)awdurdod addysg lleol;
(b)person sy'n arfer swyddogaeth ynglŷn â darparu addysg ar ran awdurdod addysg lleol;
(c)perchennog ysgol; neu
(ch)corff llywodraethu sefydliad addysg bellach.”.
6. Yn Atodlen 5 i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(10)—
(a)ar ôl is-baragraff (b) o baragraff 9, mewnosoder—
“(ba)wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (11);
(bb)yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf Addysg 2002(12);”; a
(b)ym mharagraff 12, yn lle “113” rhodder “113B”.
7.—(1) Diwygir Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(13) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer y diffiniad o “datganiad o addasrwydd plant”; a
(ii)yn y man priodol, mewnosoder—
“mae i “tystysgrif cofnod troseddol fanwl” yr ystyr a roddir i “enhanced criminal record certificate” yn adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997, sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2) o'r Ddeddf honno;”; a
(b)yn is-baragraff (c) o baragraff (3), yn lle “heb fod yn”, rhodder “heb ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(14) neu os nad yw'n”.
(3) Ym mharagraff (2) o reoliad 9A a pharagraff (2) o reoliad 20A, hepgorer “, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath”.
(4) Yn rheoliad 15A—
(a)yn is-baragraff (a)(ii) o baragraff (1), hepgorer “ynghyd â datganiad o addasrwydd plant”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “llai” rhodder “mwy”; ac
(c)ym mharagraff (6) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(ba)gwiriad i ganfod a yw person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006;”.
(5) Yn rheoliadau 18A a 26A, hepgorer “, a rhaid anfon datganiad o addasrwydd plant gyda chais am dystysgrif o'r fath”.
(6) Yn rheoliad 24A—
(a)yn is-baragraff (a)(ii) o baragraff (1), hepgorer “ynghyd â datganiad o addasrwydd plant”; a
(b)ym mharagraff (2), yn lle “llai” rhodder “mwy”.
8.—(1) Diwygir Rheoliadau Personau sy'n Darparu Addysg mewn Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru (Amodau) 2007(15) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer y diffiniad o “datganiad addasrwydd plant”, a
(ii)yn y diffiniad o “tystysgrif cofnod troseddol fanwl”, ar ôl “1997”, mewnosoder “sy'n cynnwys gwybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “suitability information relating to children” yn adran 113BA(2)(16) o'r Ddeddf honno”, a
(iii)yn lle paragraff (4) rhodder—
“(4) Er mwyn gwneud gwiriad manwl o'r cofnodion troseddol, rhaid i berson wneud cais am, a chael, tystysgrif cofnod troseddol fanwl.”.
(3) Ym mharagraff (ch) o reoliad 5, ar ôl “gwirio a”, mewnosoder “yw wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006(17) neu'n”.
(4) Yn rheoliad 13, hepgorer “bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a”.
(5) Yn is-baragraff (ii) o baragraff (b) o reoliad 17, hepgorer “bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno a”.
(6) Ym mharagraff (ch) o reoliad 18, ar ôl “gwiriad i gadarnhau a”, mewnosoder “yw wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”.
(7) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 3 o Ran 1, yn lle “a yw'r person yn”, rhodder “a yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”, a
(b)ym mharagraff 2 o Ran 2—
(i)yn is-baragraff (b), yn lle “a yw'r person yn”, rhodder “a yw'r person wedi ei wahardd o weithgarwch rheoledig mewn perthynas â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 neu'n”, a
(ii)yn is-baragraff (dd)(ii), yn lle “wedi'i gwneud a bod datganiad addasrwydd plant wedi cael ei gyflwyno” rhodder “wedi ei wneud”.
Jane Hutt
Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Medi 2009
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: