Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2009

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 2157 (Cy.181)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

1 Awst 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Awst 2009

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2009.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Medi 2009.

(3Mae rheoliadau 8 a 9 yn dod i rym ar 31 Awst 2009.

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008(3); ac

  • ystyr “y Rheoliadau Diwygio” (“the Amendment Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008(4).

Diwygio'r Prif Reoliadau

3.  Mae'r Prif Reoliadau wedi'u diwygio'n unol â Rheoliadau 4 i 7.

4.  Yn rheoliad 18(3), yn lle “27,115 ewro” rhodder “28,200 ewro”.

5.  Yn rheoliad 19(3), yn lle “11,090 ewro” rhodder “13,450 ewro”.

6.  Yn rheoliad 20(3)—

(a)yn lle “A yw £2,402” rhodder “A yw £2,463”; a

(b)yn lle “mae B yn £49”, rhodder “mae B yn £50”.

7.  Yn rheoliad 20(5), yn lle “B yw £99”, rhodder “B yw £102”.

Diwygio'r Rheoliadau Diwygio

8.  Mae'r Rheoliadau Diwygio wedi'u diwygio'n unol â rheoliad 9.

9.  Yn nhestun Cymraeg rheoliad 7(2), yn lle “17,640 ewro”, rhodder “18,099 ewro”.

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

1 Awst 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008 (“y Prif Reoliadau”).

Mae'r Prif Reoliadau yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau dynodedig ym maes addysg uwch yng Nghanolfan Bologna, Coleg Ewrop neu'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Mae'r Prif Reoliadau yn darparu bod grant at ffioedd ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yng Nghanolfan Bologna. Mae grant at ffioedd, grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer hyd at ddau fyfyriwr cymwys yng Ngholeg Ewrop. Mae grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd.

Diwygiwyd y Prif Reoliadau gan Reoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008 er mwyn iddynt fod yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r symiau o gymorth penodol sy'n daladwy i fyfyrwyr am flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.

Mae rheoliad 4 yn diwygio uchafswm y grant at ffioedd sy'n daladwy i fyfyriwr Canolfan Bologna.

Mae rheoliad 5 yn diwygio uchafswm y grant at ffioedd sy'n daladwy i fyfyriwr Coleg Ewrop.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn diwygio'r ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo'r grant at gostau byw a'r grant ar gyfer teithio sy'n daladwy i fyfyriwr Coleg Ewrop.

Mae rheoliadau 8 a 9 yn cywiro gwall teipograffyddol yn nhestun Cymraeg Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008.

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c) (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)), fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Ddeddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)), yn cyfeirio at hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources