- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
1 Awst 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Awst 2009
Yn dod i rym
31 Awst 2009
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2009.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2009 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008(3) yn unol â rheoliadau 3 i 12.
3. Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”), yn lle “Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth”, rhodder “Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg”(4).
4. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3(9), yn lle “1 Medi 2008” rhodder “1 Medi 2009”.
5. Yn rheoliad 5(2) yn lle “paragraff 6 neu 7” rhodder “paragraff 7 neu 8”.
6. Yn rheoliad 6(16)(h), yn lle “1 Medi 2007”, rhodder “1 Medi 2009”.
7. Yn nhestun Cymraeg rheoliad 10(2)(b), yn lle “21(6) neu 21(8)” rhodder “21(3) neu 21(7)”.
8. Yn rheoliad 60(11) yn lle “pharagraff (4)” rhodder “pharagraff (10)”.
9. Yn rheoliad 60(12) yn lle “baragraff (4)” rhodder “baragraff (10)”.
10. Yn rheoliad 80(2) yn lle “paragraff 6 neu 7” rhodder “paragraff 7 neu 8”.
11. Yn nhestun Saesneg paragraff 9(1)(a)(ii) yn Atodlen 1, hepgorer “a” ar ôl “a family member of”.
12. Yn nhestun Cymraeg paragraff 5(1)(a) yn Atodlen 6, yn lle “£39,780” rhodder “£39,793”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
1 Awst 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/3170) (Cy.283) (“Rheoliadau 2008”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn cysylltiad â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro mân wallau technegol a gwallau teipograffyddol yn Rheoliadau 2008.
1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Cafodd y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg ei ffurfio ar lun cyngor ymchwil drwy uno'r Cyngor ar gyfer Labordy Canolog y Cynghorau Ymchwil a'r Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: