- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (“y Rheoliadau Rhestri Lleol”) a'r Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Canolog) 1989 (“y Rheoliadau Rhestri Canolog”) i wneud darpariaeth arbennig ynglŷn â chasglu ardrethi annomestig sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2009 (“y flwyddyn ariannol 2009/10”). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud addasiadau canlyniadol i Reoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 a Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993.
Mae'r Rheoliadau Rhestri Lleol a'r Rheoliadau Rhestri Canolog yn darparu ar gyfer diwallu'r rhwymedigaeth ardrethi flynyddol mewn rhandaliadau. Fodd bynnag, o dan y cynllun rhandalu presennol, mae'r rhandaliadau yn daladwy yn y flwyddyn ariannol y mae'r hysbysiad galw am dalu yn berthynol iddi.
Mae'r Rheoliadau hyn yn mewnosod Atodlen 1D newydd yn y Rheoliadau Rhestri Lleol ac Atodlen 1B newydd yn y Rheoliadau Rhestri Canolog i wneud darpariaeth sy'n caniatáu i drethdalwr, sy'n ddarostyngedig i ardrethi annomestig mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2009/10, os yw'n bodloni amodau penodol, ohirio talu cyfran benodedig o'r rhwymedigaeth honno tan y blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2010 ac 1 Ebrill 2011.
Pennir yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni cyn y caiff trethdalwr fanteisio ar ohiriad ym mharagraff 1 o'r Atodlen 1D newydd ac ym mharagraff 1 o'r Atodlen 1B newydd, lle y darperir hefyd bod y trethdalwr i hysbysu'r awdurdod bilio o'i ddymuniad i ohirio.
Mewn perthynas â'r Rheoliadau Rhestri Lleol, mae paragraffau 2 i 4 o'r Atodlen 1D newydd yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r cyfrifiadau y mae'n rhaid i'r awdurdod bilio eu gwneud er mwyn penderfynu'r swm y caiff trethdalwr ei ohirio (“y swm gohiriadwy”) a'r swm y mae'n rhaid ei dalu yn y flwyddyn ariannol 2009/10 (“y swm anohiriadwy”).
Mae paragraffau 5 i 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu'r swm anohiriadwy. Ym mharagraff 8 gwneir darpariaeth ynghylch terfynu rhandaliadau pan fo trethdalwr yn peidio â meddiannu'r eiddo. Mae paragraff 9 yn darparu ar gyfer addasu'r rhandaliadau yn ystod y flwyddyn ariannol 2009/10 pan fo angen ailgyfrifo, am ba bynnag reswm, y swm sy'n daladwy gan y trethdalwr, neu'r swm y mae'r trethdalwr yn gymwys i gael ei ohirio.
Mae paragraff 10 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r modd y mae'r swm gohiriadwy i'w dalu yn y blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2010 ac 1 Ebrill 2011.
Mae paragraff 11 yn addasu rheoliad 8 o'r Rheoliadau Rhestri Lleol i ddarparu, os yw trethdalwr yn peidio â thalu unrhyw randaliad sy'n ddyledus ynglŷn â'r swm gohiriadwy, y bydd y darpariaethau yn y Rheoliadau hynny sy'n ymwneud â gorfodi yn gymwys mewn perthynas â'r swm hwnnw.
Mae paragraffau 12 a 13 yn ymdrin â therfynu ac addasu rhandaliadau yn y blynyddoedd ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2010 ac 1 Ebrill 2011.
Mae paragraff 14 yn addasu rheoliad 4 o'r Rheoliadau Rhestri Lleol fel y caiff yr awdurdod bilio, mewn perthynas â'r blynyddoedd ariannol 2010/11 a 2011/12, pan fo trethdalwr wedi gohirio talu ardrethi o dan yr Atodlen newydd, ddyroddi hysbysiad sengl a fydd yn ymwneud â'r swm taladwy mewn perthynas â'r flwyddyn honno yn ogystal â thalu'r swm gohiriadwy.
Mae paragraffau 2 i 14 o'r Atodlen 1B newydd i'r Rheoliadau Rhestri Canolog yn gwneud darpariaeth gyfatebol ynglŷn â thalu ardrethi yn y flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2009/10 gan drethdalwyr sydd â'u henwau ar y rhestr ardrethu canolog.
Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn addasu'r diffiniad o “relevant year” yn rheoliad 2 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993, fel, pan ddyroddir hysbysiad galw am dalu o dan reoliad 4 o'r Rheoliadau Rhestri Lleol (fel y'u haddesir gan y Rheoliadau hyn), ynglŷn â thalu ardrethi mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol a fydd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2010 neu 1 Ebrill 2011 a thalu'r swm gohiriadwy, na fydd raid i'r hysbysiad gynnwys dim ac eithrio'r wybodaeth ofynnol o dan y Rheoliadau Hysbysiadau Galw am Dalu, sy'n berthynol i'r flwyddyn ariannol a fydd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2010 neu 2011 (yn ôl fel y digwydd).
Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn addasu rheoliad 6 (ailgyfrifo symiau amodol) o Reoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (“Rheoliadau 1992”) mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol 2009/10. Yn Rheoliadau 1992, gwneir darpariaeth ynghylch cyfrifo'r cyfraniadau ardrethu annomestig y mae'n ofynnol i'r awdurdodau bilio eu gwneud i Weinidogion Cymru. Mae'r addasiad, sy'n gymwys o ran y flwyddyn ariannol 2009/10, yn dileu trothwyon ariannol, a fyddent, fel arall, islaw iddynt, yn atal awdurdod bilio rhag ailgyfrifo ei gyfraniad amodol am y flwyddyn. Gwneir hyn er mwyn galluogi'r awdurdodau i ailgyfrifo'u cyfraniadau ardrethu annomestig, wedi i drethdalwyr ohirio talu ardrethi mewn perthynas â'r flwyddyn 2009/10 o dan y Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: