Search Legislation

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2009

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 192 (Cy.24)

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

2 Chwefror 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

4 Chwefror 2009

Yn dod i rym

25 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â chamau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cwblhau'r ymgynghoriad a oedd yn ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelu Bwyd Ewropeaidd ac yn gosod y gweithdrefnau ym materion diogelwch bwyd(3).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 25 Chwefror 2009.

Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008

2.  Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008(4) (“y prif Reoliadau”) yn unol â rheoliad 3.

Diwygiadau i destun Cymraeg y prif Reoliadau

3.  Diwygir testun Cymraeg y prif Reoliadau fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 15(1)(c) yn lle “sydd ag” rhodder “a chanddo yn ei feddiant, neu i gyflenwr,” ac ar ôl y trydydd tro y ceir “anifeiliaid”, dileer “yn ei feddiant”;

(b)ym mharagraff 5(6) o Atodlen 3 yn lle'r gair “rheoliad” rhodder y gair “paragraff”; ac

(c)ym mharagraff 3(2) o Atodlen 6 yn lle'r llythyren “(d)” rhodder y llythyren “(ch)”.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

2 Chwefror 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008 (O.S. 2008/3154 (Cy.282)) (“y prif Reoliadau”) sy'n gorfodi Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli, a difa enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) fel y'i diwygiwyd.

Diwygir testun Cymraeg y prif Reoliadau er mwyn: cynnwys cyfeiriad at “gyflenwr” (“supplier”) (rheoliad 15(1)(c)); rhoi yn lle'r gair “rheoliad” y gair “paragraff” (paragraff 5(6) o Atodlen 3) a rhoi yn lle'r llythyren “(d)” y llythyren “(ch)” (paragraff 3(2) o Atodlen 6).

Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources