- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
Offerynnau Statudol
TAI, CYMRU
Gwnaed
16 Gorffennaf 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
20 Gorffennaf 2009
Yn dod i rym
10 Awst 2009
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tai Amlfeddiannaeth (Rheoli) (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 10 Awst 2009.
2.—(1) Diwygier Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006(3) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 6 (dyletswydd rheolwr i gyflenwi a chynnal a chadw nwy a thrydan) yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Ym mharagraff (1), ystyr “peiriannydd cydnabyddedig” (“recognised engineer”) yw peiriannydd a gymeradwywyd o dan reoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998(4).”.
3.—(1) Diwygier Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007(5) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 7 (dyletswydd rheolwr i gyflenwi a chynnal a chadw nwy a thrydan) yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Ym mharagraff (1), ystyr “peiriannydd cydnabyddedig” (“recognised engineer”) yw peiriannydd a gymeradwywyd o dan reoliad o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998.”.
Jocelyn Davies
Y Dirprwy Weinidog dros Dai o dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i dai amlfeddiannaeth (fel y'u diffinnir yn adrannau 254 i 259 o Ddeddf Tai 2004) yng Nghymru.
O dan Reoliadau Rheoli TaiAmlfeddiannaeth (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”), sy'n gymwys o ran bob tŷ amlfeddiannaeth ac eithrio'r rheini y mae adran 257 (tai amlfeddiannaeth: blociau o fflatiau penodol a droswyd) o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys, mae'n ofynnol i reolwr tŷ amlfeddiannaeth gyflawni dyletswyddau penodol o ran rheoli'r tŷ amlfeddiannaeth. Un o'r dyletswyddau hynny yw rhoi i'r awdurdod tai lleol o fewn 7 o ddiwrnodauar 153 l derbyn cais ysgrifenedig oddi wrth yr awdurdod dystysgrif brawf cyfarpar nwy ddiweddaraf y mae'r rheolwr wedi ei chael ynghylchrhoi unrhywgyfarparnwy drwy brawf gan “beiriannydd cydnabyddedig” yn y tŷ amlfeddiannaeth. O dan Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Darpariaethau Ychwanegol) (Cymru) 2007 (“Rheoliadau2007”)mae'r un ddyletswydd yn gymwys o ran rheolwyr tai amlfeddiannaeth y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwysiddynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli'r diffiniad o “peiriannydd cydnabyddedig” yn Rheoliadau 2006 a Rheoliadau 2007. Mae'r diffiniad newydd yn cyfeirio at beiriannydd a gymeradwywyd o dan reoliad 3 o Reoliadau Diogelwch Nwy (Gosodiadau a Defnydd) 1998.
Mae'r pwerau a roddir gan adran 234 o Ddeddf 2004 wedi'u breinio o ran Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: