Search Legislation

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2009

What Version

 Help about what version

Opening Options

 Help about opening options

Status:

This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 1733 (Cy.161)

BYWYD GWYLLT, CYMRU

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

3 Gorffennaf 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Gorffennaf 2009

Yn dod i rym

27 Gorffennaf 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 7(1) a (2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2009, maent yn dod i rym ar 27 Gorffennaf 2009 ac yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003

2.  Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003(2) wedi'u diwygio fel a ganlyn.

Diwygio rheoliad 2

3.  Yn rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “modrwy” (“ring”) mewnosoder y diffiniadau canlynol—

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 865/2006 sy'n gosod rheolau manwl ynghylch gweithredu Rheoliad y Cyngor(3);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 338/97 ynghylch gwarchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio'r fasnach ynddynt(4)..

Diwygio rheoliad 3

4.  Mae rheoliad 3 (Cofrestru) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(1Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) At ddibenion cofrestru unrhyw adar a restrir yn yr Atodlen, caiff y gofrestr y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) fod yn unrhyw gofrestr a gedwir gan Weinidogion Cymru sy'n rhestru'r adar y mae tystysgrif berthnasol wedi'i dyroddi ar eu cyfer.

(1B) O ran unrhyw adar sydd wedi'u rhestru neu sydd i'w rhestru mewn unrhyw gofrestr o fath y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1A)—

(a)nid yw paragraffau (2) a (5) yn gymwys; a

(b)nid yw paragraffau (1)(a)(iii), (c) ac (ch) a (2) o reoliad 4 yn gymwys..

(2Ar ôl paragraff (6) ychwaneger—

(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “tystysgrif berthnasol” (“relevant certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir gan Weinidogion Cymru (fel yr awdurdod rheoli perthnasol) ac y cyfeirir ati yn Erthygl 10 o Reoliad y Cyngor.

(8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “awdurdod rheoli perthnasol” (“relevant mana ement authority”) yw'r awdurdod yr hysbyswyd y Llywodraeth Adnau (o fewn ystyr Erthygl XX o CITES) ohono, o dan Erthygl IX(2) o CITES, fel un sydd wedi'i ddynodi'n unol ag Erthygl IX(1) o CITES i gyflawni swyddogaethau awdurdod rheoli at ddibenion rhoi trwyddedau neu dystysgrifau ar ran y Deyrnas Unedig yn unol â CITES..

Diwygio rheoliad 5

5.—(1Mae rheoliad 5 (Modrwyo a marcio) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) Mae aderyn wedi'i farcio'n unol â'r paragraff hwn os yw wedi'i farcio'n unol â gofynion Erthygl 66 o Reoliad y Comisiwn ynghylch marcio sbesimenau(5)..

Yr Atodlen i'r Rheoliadau

6.  Mae'r Atodlen ganlynol wedi'i mewnosod—

Rheoliad 3(1A)

YR ATODLENAdar y caniateir eu cofrestru'n unol â rheoliad 3(1A)

Enw cyffredinEnw wyddonol
Cudyll bachFalco columbarius
Hebog tramorFalco peregrinus.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

3 Gorffennaf 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3235) (“Rheoliadau 2003” ).

Mae Rheoliadau 2003 wedi'u diwygio i ddarparu ar gyfer caniatáu i'r adar a restrir yn yr Atodlen (yr hebog tramor a'r cudyll bach) gael eu cofrestru mewn unrhyw gofrestr a gedwir gan Weinidogion Cymru o adar y delir amdanynt dystysgrif o fath y cyfeirir ato yn Erthygl 10 o Reoliad EC Rhif 338/97 ynghylch gwarchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio'r fasnach ynddynt (OJ L161, 3.3.1997, t.1). O ran yr adar sydd wedi'u rhestru neu sydd i'w rhestru mewn unrhyw gofrestr o'r fath, datgymhwysir y ddarpariaeth bod effaith y cofrestru yn darfod pan fo'r aderyn cofrestredig yn cael ei waredu drwy ei werthu. Yn ychwanegol, bydd y darpariaethau sy'n darparu bod effaith y cofrestriad yn darfod pan fo'r aderyn yn cael ei gadw gan berson, neu ym meddiant neu o dan reolaeth person, ac eithrio ei geidwad cofrestredig, neu pan na fo'r aderyn yn cael ei gadw mwyach yn ei gyfeiriad cofrestredig, yn cael eu datgymhwyso hefyd mewn perthynas ag unrhyw hebog tramor ac unrhyw gudyll bach sydd wedi'i restru neu sydd i'w restru mewn unrhyw gofrestr o'r fath.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, Yr Uned Natur, Mynediad a'r Môr, Adeilad y Goron, Stryd y Dollborth, Aberystwyth.

(1)

1981 p.69. Diwygiwyd adran 7(1), o ran Cymru a Lloegr, gan adran 102 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a Rhan 4 o Atodlen 16 iddi. Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae pwerau adran 7(1) a (2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru.

(3)

OJ L166, 19.6.2006, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 100/2008 (OJ L31, 5.2.2008, t.3).

(4)

OJ L161, 3.3.1997, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 407/2009 (OJ L123, 19.5.2009, t.3).

(5)

Mae Erthygl 66 yn rhoi ar waith baragraff 7 o Erthygl VI o'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn RhywogaethauFfawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl (CITES).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources